23
intouch RHIFYN 79 | HAF 2014 | AM DDIM Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West Yn y rhifyn hwn... Allech chi arbed arian ar eich biliau bwyd? Newidiadau i’n polisi pennu rhen Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr – y canlyniadau Pen-blwydd hapus, Nant y Môr!

In touch summer 2014 welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

A free magazine for residents of Wales & West Housing

Citation preview

Page 1: In touch summer 2014 welsh

intouchRHIFYN 79 | HAF 2014 | AM DDIM

Cylchgrawn preswylwyr Tai Wales & West

Yn y rhifyn hwn...

Allech chi arbed arian areich biliau bwyd?

Newidiadau i’n polisipennu rhenti

Arolwg BodlonrwyddPreswylwyr – y canlyniadau

Pen-blwydd hapus,Nant y Môr!

Page 2: In touch summer 2014 welsh

Llythyr y GolygyddHelo bawb,

Croeso i rifyn haf In Touch - y cylchgrawn i breswylwyr WWH, sy’n llawn o’n holl newyddion diweddaraf a gwybodaeth ddefnyddiol.

Mae heulwen ogoneddus yr haf wedi peri i lawer ohonoch fod yn brysur yn yr ardd (tud. 32-34) - rydym wedi hoffi clywed eich straeon! Llongyfarchiadau mawr iawn i breswylwyr Buxton Court, a enillodd Wobr TPAS yn ddiweddar am eu gardd gymunedol ffyniannus, yn ogystal â phreswylwyr Oak Court, sydd wedi cael eu henwi yn rownd derfynol y Gwobrau Tai Cynaliadwy gyda’u gardd hwythau.

Mae gennym wybodaeth bwysig i chi am newidiadau i’n polisi pennu rhenti yn y rhifyn hwn - fe welwch daflen gyda’r holl fanylion yn amgaeedig - ac rydym hefyd wedi diweddaru ein polisi gosod tai (P5). Rydym yn croesawu eich adborth ar y naill a’r llall, felly os oes gennych sylwadau, cofiwch roi gwybod i ni.

Ar dudalennau eraill, mae’r adran ar Hoffi Bwyd a Chasáu Gwastraff yn rhoi rhai awgrymiadau ar sut i arbed arian yn y gegin drwy osgoi gwastraffu bwyd (tud. 20), tra ar dudalennau 26-29 cewch fanylion am dimau a digwyddiadau Cymunedau yn Gyntaf yn eich ardal chi – maen nhw’n darparu llawer o gymorth a gweithgareddau i’ch helpu chi a’ch cymuned, felly beth am gymryd golwg?

Tan y tro nesaf, mwynhewch ddarllen In Touch a chadwch mewn cysylltiad.

Newyddion a Gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 3

Who’s Your Hero?Do you know someone who makes a real difference to your neighbourhood? Someone who goes the extra mile to help friends and neighbours? Perhaps they have started a youth or community group? Maybe they tend a beautiful garden, or perhaps they grow fruit and veg, or have overcome big problems to get back into work? Whatever their story, we want to hear it!On Friday October 10th Wales & West Housing will be holding our 7th annual Making a Difference Awards.

The categories this year are:

• Good Neighbour• Fresh Start• Eco Champion• Community Project• Green Fingers• Local Hero

It’s free to enter - you’ve nothing to lose and everything to gain!

For further details and a copy of the nomination form either go to our website www.wwha.co.uk or call Keri or Sharon on 0800 052 2526 any time and we’ll be happy to send you a form.

The closing date for nominations is Friday 12th September 2014.

2014

MAD 2014 A4 poster.indd 1 14/08/2014 10:43:16

Pwy yw eich arwr chi?Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth o ddifrif i’ch cymdogaeth?Rhywun sy’n mynd y filltir ychwanegol i helpu ffrindiau a chymdogion? Efallai eu bod wedi dechrau grŵp ieuenctid neu gymunedol? Efallai eu bod yn gofalu am ardd brydferth, neu efallai eu bod yn tyfu ffrwythau a llysiau, neu wedi goresgyn problemau mawr i fynd yn ôl i weithio?

Beth bynnag yw eu stori, rydym eisiauei chlywed!Nos Wener 10 Hydref bydd Tai Wales & Westyn cynnal ein Gwobrau GwneudGwahaniaeth blynyddol am y 7fed tro.

Y categorïau yw:

• Cymydog da• Dechrau o’r newydd• Eco-bencampwr• Prosiect cymunedol• Garddwr gorau• Arwr lleol

Ni does angen talu i ymgeisio – nid oes gennych ddim i’w golli, ond popeth i’w ennill!

Am ragor o fanylion a chopi o’r ffurflen enwebu, naill ai ewch i’n gwefan www.wwha.co.uk neu ffoniwch Keri neu Sharon ar 0800 052 2526 unrhyw dro ac fe wnawn ni anfon ffurflen atoch chi.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 12 Medi 2014.

2014Cynnwys

Ieithoedd a fformatau eraillOs hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, er engh-raifft, mewn print bras, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni eich helpu chi.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein?

Dilynwch ni ar twitter @wwha

Cysylltu â niTai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caer-dydd CF24 2UDFfôn: 0800 052 2526 |Testun: 07788 310420 E-bost: [email protected] | Gwefan: www.wwha.co.ukGallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost.Er enghraifft, [email protected]

Newyddion a Gwybodaeth WWH 4Y diweddaraf am ddatblygiadau 10Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 12Canlyniadau Arolwg BodlonrwyddPreswylwyr 2014 14Materion ariannol 18Adroddiad chwarterol 22Byw’n iach 24Gwaith. Sgiliau. Profiad 26Byw’n wyrdd 32 Gwneud iddo ddigwydd 35Diwrnod ym mywyd 36Newyddion a safbwyntiau 37Pen-blwyddi a dathliadau 42

Page 3: In touch summer 2014 welsh

Os oes gennych sylwadau, mae amrywiaeth o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni. Mae ffurflen ymateb gyda’r llyfryn ac amlen a thâl arni’n barod i chi ysgrifennu atom. Gallwch hefyd ffonio, anfon neges destun, e-bostio neu ddefnyddio ein gwefan i roi adborth – mae’r holl fanylion yn y llyfryn i chi.

Rhowch eich sylwadau i ni erbyn dydd Gwener30 Medi 2014.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y system o reoleiddio rhenti tai cymdeithasol sy’n berthnasol i gymdeithasau tai. Mae’r newidiadau hyn yn cael effaith arnoch chi, ein preswylwyr, ac felly rydym wedi amgáu llyfryn o wybodaeth am hyn gyda’r copi hwn o In Touch.

Mae’r llyfryn amgaeedig yn egluro ein cynlluniau, pam rydym yn gwneud y newidiadau arfaethedig ac yn amlinellu sut mae’r newidiadau hyn yn debygol o effeithio arnoch chi.

Dyma benawdau y prawf 3 cham:

1. Lle ceir tystiolaeth o ymddygiad annerbyniol.

2. A oedd yr ymddygiad yn ddigon difrifol i olygu bod yr ymgeisydd neu aelod o’r teulu yn anaddas i fod yn denant?

3. A yw’r ymddygiad yn annerbyniol ar adeg y cais?

AdborthMae copi llawn o’r polisi gosod arfaethedig - ‘newid ein dull o osod’ - i’w weld dan far teitl ‘Dod o hyd i Gartref’ ar ein gwefan: www.wwha.co.uk Gallwch wneud sylwadau ar y newidiadau arfaethedig drwy’r dulliau a ganlyn:

• Ffôn – 0800 052 2526• E-bost - [email protected]• Ysgrifennu llythyr – Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, CF24 2UD

Anfonwch eich adborth erbyn dydd Gwener 30 Medi 2014.

Beth sy’n digwydd?Mae WWH yn bwriadu newid ei bolisi gosod tai i ddefnyddio’r un set o reolau i asesu a all pobl ymuno â’i restr aros â’r rhai a ddefnyddir gan awdurdodau lleol - cyfeirir at hyn yn gyffredinol fel y Prawf 3 Cham. Rydym hefyd yn bwriadu gwneud mân newidiadau eraill i ddarparu gwybodaeth gliriach i ymgeiswyr.

Beth sy’n newid?• Wrth asesu a all rhywun ymuno â’n rhestr

aros, byddwn yn defnyddio cod arweiniad Cynulliad Cymru ar y Prawf 3 Cham.

• Rydym yn newid ein polisi i’w gwneud yn glir i ymgeiswyr sydd mewn dyled i landlordiaid presennol neu flaenorol yr hyn mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud cyn y byddwn yn ystyried cynnig cartref iddyn nhw.

• Os nad oes unrhyw un ar ein rhestrau aros, byddwn yn hysbysebu ein cartrefi yn syth ar ôl iddyn nhw ddod ar gael - ar ein gwefan ein hunain a gwefannau eraill.

• Byddwn yn parhau i osod cartrefi ar sail trefn dyddiad, ond mewn rhai achosion bydd amgylchiadau’n mynnu na fydd rhai cynigion yn iawn i rai pobl. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Pennaeth Tai yn awdurdodi tynnu cynnig yn ôl.

Newyddion a Gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 54| www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth WWH

Newidiadau i’npolisi gosod tai

Newid ein dull o roi

Tai ar osodRydym yn bwriadu newid y ffordd rydym yn rhoi cartrefi ar osod – gadewch i ni wybod beth yw eich barn.

Newid einpolisi pennu rhenti

Arolwg Bodlonrwydd TenantiaidMae Llywodraeth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru (CHC) yn gweithio gyda Strategic Marketing, cwmni ymchwil annibynnol, i gynnal arolwg bodlonrwydd ymhlith detholiad o denantiaid a phreswylwyr yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.

Efallai y cewch arolwg drwy’r drws yn yr wythnosau nesaf os ydych wedi cael eich dewis ar hap i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Rydym wedi cael gwybod y bydd yr arolygon yn cael eu postio ar ôl 18 Awst.

Page 4: In touch summer 2014 welsh

yn Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â’r gymdeithas tai. Roedd hwn yn gyfle gwych i bobl sy’n ystyried llety gofal ychwanegol i ddod i weld y cyfleusterau drostyn nhw eu hunain. Chawson nhw mo’u siomi.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Fe wnes i fwynhau dathlu trydydd pen-blwydd Nant y Môr gyda’r preswylwyr. Mae’r cyfleusterau gwych a’r gwasanaeth cymorth rhagorol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr, ac mae’n braf gweld y preswylwyr yn mwynhau byw yn y cynllun. “

Bu preswylwyr a staff cynllun tai gofal ychwanegol Nant y Môr yn dathlu trydydd pen-blwydd y cynllun ddydd Iau 19 Mehefin.

Hwn oedd y cynllun tai gofal ychwanegol cyntaf i gael ei ddatblygu gan WWH, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, ac mae’n darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer pobl dros 60 oed.

Roedd y dathliadau pen-blwydd yn cynnwys disgyblion o Ysgol Bodnant yn canu Pen-blwydd Hapus i’r preswylwyr, barddoniaeth, jazz, salsa a chladdu capsiwl amser y tu blaen i’r cynllun.

Roedd aelodau o’r gymuned a chwmnïau lleol fel Marks & Spencer, Tesco a Brantano hefyd yn bresennol i ddangos eu cefnogaeth i’r preswylwyr. Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant: “Mae gan y sir un o’r cyfraddau uchaf o bobl hŷn yng Nghymru gyfan, ac mae pobl hŷn wedi dweud wrthym eu bod eisiau byw’n annibynnol, gyda chefnogaeth wrth law os ydyn nhw’n dymuno hynny.

“Dyna pam ein bod wedi dewis tai gofal ychwanegol, a Nant y Môr oedd un o’r cyfleusterau cyntaf o’i fath i gael ei ddatblygu

Rydym wedi cael lle ar restr fer y Gwobrau Tai Cynaliadwy!Mae WWH wedi cael lle ar restr fer dwy wobr o fri yng Ngwobrau Tai Cynaliadwy 2014.

Mae ein prosiect ôl-ffitio arloesol ym Mill View gyda Thermal Earth yn Hywi, Powys – lle gwnaethom osod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn 26 o gartrefi - wedi cyrraedd rhestr fer categori Prosiect Ôl-ffitio Tai Cynaliadwy Mwy o Faint y Flwyddyn.

Yn ogystal, mae tri phreswyliwr, sef Paul Clark, Sandra Thomas a David John Brigham o gynllun er ymddeol Oak Court ym Mhenarth, wedi cyrraedd rownd derfynol categori Tenantiaid Cynaliadwy’r Flwyddyn - sy’n agored i bleidlais y cyhoedd - am eu gwaith trawiadol wrth ddatblygu gardd y cynllun (gweler tud. 38).

Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 17 Hydref yng Ngwesty’r Lancaster yn Llundain, a bydd yn cael ei harwain gan un o fforwyr byw mwyaf y byd, Syr Ranulph Fiennes.

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Rydym wrth ein bodd bod ein prosiect ôl-osod ym Mill View a’r tîm o Oak Court ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn. Rydym yn falch iawn ohonyn nhw i gyd, a dymunaf bob lwc iddyn nhw ar y noson fawr.”

Gallwch bleidleisio ar-lein dros Paul, Sandra a David drwy fynd iwww.insidehousing.co.uk

Anne unwaith eto ar restr fer

Gwobr y PrifWeithredwrsy’n canolbwyntiofwyaf ar boblMae Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH, wedi cael ei henwi yn un o’r deg ‘Prif Weithredwr sy’n canolbwyntio fwyaf ar bobl yn y Sector Cyhoeddus a Gwirfoddol’ gorau yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Adnoddau Dynol y Cwmnïau Gorau 2014.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i Anne gyrraedd rhestr fer y wobr, a hi gipiodd y wobr y llynedd. Hi hefyd yw’r unig Brif Weithredwr sy’n gweithio mewn sefydliad nid-er-elw yng Nghymru i gyrraedd rhestr fer 2014.

“Mae’n anhygoel fy mod wedi cyrraedd rhestr fer y wobr hon eto, ac rwy’n teimlo’n annigonol iawn. Nid wyf yn ystyried hyn fel cyflawniad personol yn bendant, ond yn hytrach yn adlewyrchiad o’r tîm gwych sy’n gweithio gyda mi yn Tai Wales & West.”

Newyddion a Gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 76| www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth WWH

Preswylwyr yn claddu capsiwl amseri ddathlu pen-blwydd

Yr Aelod Cynulliad Carl Sargeant gyda thîm WWH, Cambria a Thermal Earth ym Mill View, Powys

Page 5: In touch summer 2014 welsh

Emergency AlarmAnnual Report 2013

Welcome!

Here are some facts so you can see how we performed in 2013, including the number of calls we answered, how quickly we answered them and how well we dealt with them.

Volume of calls• In 2013 we answered 111,210 calls - an average of 305

calls answered each day.

• 1,671 of these calls were emergencies, where we sent out the emergency services or some other form of help.

• We made 46,623 calls to check you were okay.

• We continued to increase our number of customers in 2013 to 5,480 homes.

Speed of answer

The performance standard set by the Telecare Services Association (TSA), the organisation which audits our service, is that we should answer 98.5% of life threatening calls in 60 seconds.

• We answered 99.3% of all calls within 60 seconds.

The TSA standard for the percentage of life threatening calls to be answered within 3 minutes is 99%.

• We answered 100% of all calls within 3 minutes.

In both of these measures, we performed better than the standards set by the TSA.

Quality of serviceAs always, we surveyed a selection of customers who use our Emergency Alarm (EA) service during 2013. You told us:

• Our operators are courteous, professional and helpful (100% of the time) and that you are satisfied with the service in general and the service from the EA control room (100% of the time). 97.6% of you also told us that you consider the EA service to be value for money. 90.5% of service users are happy with the speed of response of our operators.

Thank you for completing our surveys and for your comments. Every comment we receive is passed to the appropriate operator.

Larwm mewn argyfwngAdroddiad blynyddol 2013

Croeso!Dyma rai ffeithiau fel y gallwch weld sut gwnaethom berfformio yn 2013, gan gynnwys nifer y galwadau y gwnaethom eu hateb, pa mor gyflym y gwnaethom eu hateb a pha mor dda y gwnaethom ddelio â nhw.

Swm y galwadau• Yn 2013 fe wnaethom ateb 111,210 o alwadau -

cyfartaledd o 305 o alwadau wedi eu hateb bob dydd. • Roedd 1,671 o’r galwadau hynny’n achosion brys, lle

gwnaethom anfon y gwasanaethau brys neu ryw fath arall o gymorth at y galwr.

• Fe wnaethom 46,623 o alwadau i sicrhau eich bod yn iawn.

• Fe wnaethom barhau i gynyddu ein nifer o gwsmeriaid yn 2013 i 5,480 o gartrefi.

Emergency AlarmAnnual Report 2013

Welcome!

Here are some facts so you can see how we performed in 2013, including the number of calls we answered, how quickly we answered them and how well we dealt with them.

Volume of calls• In 2013 we answered 111,210 calls - an average of 305

calls answered each day.

• 1,671 of these calls were emergencies, where we sent out the emergency services or some other form of help.

• We made 46,623 calls to check you were okay.

• We continued to increase our number of customers in 2013 to 5,480 homes.

Speed of answer

The performance standard set by the Telecare Services Association (TSA), the organisation which audits our service, is that we should answer 98.5% of life threatening calls in 60 seconds.

• We answered 99.3% of all calls within 60 seconds.

The TSA standard for the percentage of life threatening calls to be answered within 3 minutes is 99%.

• We answered 100% of all calls within 3 minutes.

In both of these measures, we performed better than the standards set by the TSA.

Quality of serviceAs always, we surveyed a selection of customers who use our Emergency Alarm (EA) service during 2013. You told us:

• Our operators are courteous, professional and helpful (100% of the time) and that you are satisfied with the service in general and the service from the EA control room (100% of the time). 97.6% of you also told us that you consider the EA service to be value for money. 90.5% of service users are happy with the speed of response of our operators.

Thank you for completing our surveys and for your comments. Every comment we receive is passed to the appropriate operator.

Cyflymder yr ymatebY safon perfformiad a bennwyd gan y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal (TSA), y corff sy’n cadw golwg ar ein gwasanaeth, yw y dylem ateb 98.5% o alwadau lle mae bywyd mewn perygl o fewn 60 eiliad.

• Fe wnaethom ateb 99.3% o’r galwadau hynny o fewn 60 eiliad.

Safon y TSA ar gyfer canran y galwadau lle mae bywyd mewn perygl y dylid eu hateb o fewn 3 munud yw 99%.

• Fe wnaethom ateb 100% o’r galwadau o fewn 3 munud.

Yn y ddwy ffordd o fesur, rydym wedi perfformio’n well na’r safonau a bennwyd gan y TSA.

Ansawdd y gwasanaethFel bob amser, fe wnaethom gynnal arolwg o ddetholiad o gwsmeriaid a ddefnyddiodd ein gwasanaeth Larwm mewn Argyfwng yn ystod 2013. Dywedoch wrthym:

• Mae ein gweithredwyr yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn gymwynasgar (100% o’r amser) ac roeddech yn fodlon ar y gwasanaeth yn gyffredinol a’r gwasanaeth gan ystafell reoli’r larymau (100% o’r amser). Dywedodd 97.6% ohonoch wrthym hefyd eich bod yn ystyried y gwasanaeth yn werth da am arian. Roedd 90.5% o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn fodlon ar gyflymdra ymateb ein gweithredwyr.

Diolch i chi am lenwi’r arolygon ac am eich sylwadau. Mae pob sylw a gawn yn cael ei drosglwyddo i’r gweithredydd priodol.

Dyma rai enghreifftiau o sylwadau rydym wedi eu cael:

Edrych yn ôl ar 2013• Fe wnaethom gynnal digwyddiad haf ar gyfer staff WWH i helpu i godi ymwybyddiaeth o

wahanol fathau o larymau a’u defnyddiau, a sut gallan nhw fod o gymorth i breswylwyr. • Fe wnaethom ddechrau gwaith ar ein contract newydd ar gyfer atgyweiriadau “y tu allan

i oriau” a monitro’r Larwm mewn Argyfwng i breswylwyr Tai Cartrefi Cymunedol Calon, y landlord tai cymdeithasol mwyaf ym Mlaenau Gwent sy’n gofalu am fwy na 6,100 o gartrefi.

• Ddiwedd mis Tachwedd, fe wnaeth Jackie Edwards, oedd wedi rheoli’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ers blynyddoedd lawer, ymddeol. Roedd Jackie wedi gweithio i WWH am 31 mlynedd a bydd yn cael ei cholli’n fawr gan ei ffrindiau niferus yn y Gymdeithas.

• Dechreuodd Christine Bowns reoli’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid yn dilyn ymddeoliad Jackie. Mae gan Christine flynyddoedd lawer o brofiad mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, yn y sector preifat a’r sector nid-er-elw.

• • Yn ystod Rhagfyr 2013, cafodd y system gyfrifiadurol a ddefnyddiwn i’n helpu i ymdrin â galwadau larwm brys ei diweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf un, gan roi cyfle i ni wella gwasanaethau yn y dyfodol.

Here are some examples of comments we have received:

Looking back at 2013

• We hosted a summer event for WWH staff to help raise awareness of different types of alarms and their uses and how they can be of help to residents.

• We began work on our new contract for both “out of hours” repairs and Emergency Alarm monitoring for the residents of Tai Calon Community Housing, the largest social housing landlord in Blaenau Gwent with more than 6,100 homes.

• At the end of November, Jackie Edwards, who’d managed the Customer Service Centre for many years, retired. Jackie had worked for WWH for 31 years and will be greatly missed by her many friends within the Association.

• Christine Bowns began managing the Customer Service Centre following Jackie’s retirement. Christine has many years of experience in Customer Services, both in the private and not-for-profit sectors.

• During December 2013, the computer system we use to help us handle Emergency alarm calls was updated to the very latest version, giving us scope to improve services in the future.

If you have any queries or comments about this

report, please contact Jayne Orchard on freephone

0800 052 2526

“The young man was very, very helpful and really helped me to calm down. Please would you pass on my heartfelt thanks to him?”

“I am completely satisfied with the treatment my mother receives from the call service. Thank you all for your help.”

During 2013 we received no official complaints; however, we did receive 19 comments from customers that required investigation. In each case, our EA Supervisor was able to investigate and provide a satisfactory response to the customer. None of these complaints related to major incidents.

Looking forward to 2014• We will continue to review the latest technology available

to see how this can be offered to customers to help support their independent living.

• We are aiming to review and revamp our questionnaires to ensure we are capturing as much information as possible to help us continue to improve the service we provide.

• We will continue to work to grow our business, by tendering for new opportunities and installing equipment at the homes of non-residents.

• We will meet regularly with customers to ensure we receive feedback that can help us to continually improve our service.

Christine Bowns

Os oes gennych ymholiadau neu sylwadau am yr adroddiad hwn,

cysylltwch áJayne Orchard ar y rhif

rhadffôn 0800 052 2526

Here are some examples of comments we have received:

Looking back at 2013

• We hosted a summer event for WWH staff to help raise awareness of different types of alarms and their uses and how they can be of help to residents.

• We began work on our new contract for both “out of hours” repairs and Emergency Alarm monitoring for the residents of Tai Calon Community Housing, the largest social housing landlord in Blaenau Gwent with more than 6,100 homes.

• At the end of November, Jackie Edwards, who’d managed the Customer Service Centre for many years, retired. Jackie had worked for WWH for 31 years and will be greatly missed by her many friends within the Association.

• Christine Bowns began managing the Customer Service Centre following Jackie’s retirement. Christine has many years of experience in Customer Services, both in the private and not-for-profit sectors.

• During December 2013, the computer system we use to help us handle Emergency alarm calls was updated to the very latest version, giving us scope to improve services in the future.

If you have any queries or comments about this

report, please contact Jayne Orchard on freephone

0800 052 2526

“The young man was very, very helpful and really helped me to calm down. Please would you pass on my heartfelt thanks to him?”

“I am completely satisfied with the treatment my mother receives from the call service. Thank you all for your help.”

During 2013 we received no official complaints; however, we did receive 19 comments from customers that required investigation. In each case, our EA Supervisor was able to investigate and provide a satisfactory response to the customer. None of these complaints related to major incidents.

Looking forward to 2014• We will continue to review the latest technology available

to see how this can be offered to customers to help support their independent living.

• We are aiming to review and revamp our questionnaires to ensure we are capturing as much information as possible to help us continue to improve the service we provide.

• We will continue to work to grow our business, by tendering for new opportunities and installing equipment at the homes of non-residents.

• We will meet regularly with customers to ensure we receive feedback that can help us to continually improve our service.

Christine Bowns

“Roedd y dyn ifanc yn gymwynasgar dros ben ac fe helpodd fi i ymdawelu. A wnewch chi drosglwyddo fy niolch o waelod calon iddo? ““Rydw i’n hollol fodlon ar y gwasanaeth y mae fy mam yn ei gael gan y gwasanaeth galw. Diolch i bawb ohonoch am eich help.” Yn ystod 2013 ni chawsom gwynion swyddogol; fodd bynnag, fe gawsom 19 o sylwadau gan gwsmeriaid yr oedd angen eu hymchwilio. Ym mhob achos, roedd ein Goruchwyliwr Larwm mewn Argyfwng yn gallu ymchwilio a darparu ymateb boddhaol i’r cwsmer. Nid oedd yr un o’r cwynion hyn yn ymwneud â digwyddiadau mawr.

Edrych ymlaen at 2014• Byddwn yn parhau i adolygu’r dechnoleg ddiweddaraf sydd

ar gael er mwyn gweld sut gellir cynnig hyn i gwsmeriaid er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol.

• Rydym yn anelu at adolygu ac ailwampio ein holiaduron er mwyn sicrhau ein bod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl i’n helpu i barhau i wella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

• Byddwn yn parhau i weithio i dyfu ein busnes, drwy dendro am gyfleoedd newydd a gosod offer yng nghartrefi pobl nad ydyn nhw’n breswylwyr.

• Byddwn yn cyfarfod yn rheolaidd gyda chwsmeriaid i sicrhau ein bod yn cael adborth a all ein helpu i wella ein gwasanaeth yn barhaus.

Here are some examples of comments we have received:

Looking back at 2013

• We hosted a summer event for WWH staff to help raise awareness of different types of alarms and their uses and how they can be of help to residents.

• We began work on our new contract for both “out of hours” repairs and Emergency Alarm monitoring for the residents of Tai Calon Community Housing, the largest social housing landlord in Blaenau Gwent with more than 6,100 homes.

• At the end of November, Jackie Edwards, who’d managed the Customer Service Centre for many years, retired. Jackie had worked for WWH for 31 years and will be greatly missed by her many friends within the Association.

• Christine Bowns began managing the Customer Service Centre following Jackie’s retirement. Christine has many years of experience in Customer Services, both in the private and not-for-profit sectors.

• During December 2013, the computer system we use to help us handle Emergency alarm calls was updated to the very latest version, giving us scope to improve services in the future.

If you have any queries or comments about this

report, please contact Jayne Orchard on freephone

0800 052 2526

“The young man was very, very helpful and really helped me to calm down. Please would you pass on my heartfelt thanks to him?”

“I am completely satisfied with the treatment my mother receives from the call service. Thank you all for your help.”

During 2013 we received no official complaints; however, we did receive 19 comments from customers that required investigation. In each case, our EA Supervisor was able to investigate and provide a satisfactory response to the customer. None of these complaints related to major incidents.

Looking forward to 2014• We will continue to review the latest technology available

to see how this can be offered to customers to help support their independent living.

• We are aiming to review and revamp our questionnaires to ensure we are capturing as much information as possible to help us continue to improve the service we provide.

• We will continue to work to grow our business, by tendering for new opportunities and installing equipment at the homes of non-residents.

• We will meet regularly with customers to ensure we receive feedback that can help us to continually improve our service.

Christine BownsChristine Bowns

Newyddion a Gwybodaeth WWH | intouch | www.wwha.co.uk | 98| www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a Gwybodaeth WWH

Page 6: In touch summer 2014 welsh

aros yn yr ardal. Pan aethom i weld y fflat roeddem wrth ein bodd, ac roeddem eisiau symud yno’n syth! Mae’n teimlo fel pe bai wedi cael ei adeiladu yn arbennig ar ein cyfer, ac mae wedi newid ein bywydau. Mae symud yma wedi rhoi bywyd newydd i ni o ddifrif.”

F wnaeth preswyliwr arall sydd wedi symud i gartref wedi’i addasu ar y llawr gwaelod ddisgrifio ei fflat fel “cartref fy mreuddwydion”, gan ei fod yn ei galluogi i fod yn fwy annibynnol a gwella ansawdd ei bywyd o ganlyniad. Diolchodd hefyd i dîm WWH sydd o’i chwmpas, gan ddweud sut roedd y staff wedi bod yn hynod gefnogol, gofalgar a chynorthwyol, gyda “dim byd byth yn ormod o drafferth iddyn nhw.”

Rydym yn gobeithio y bydd ein holl breswylwyr newydd yn Willow Court yn parhau i fwynhau eu cartrefi newydd, a dymunwn yn dda iddyn nhw at y dyfodol.

Yn ddiweddar fe wnaethom ddatblygu safle warws diffaith y tu ôl i’n cynllun er ymddeol yn Willow Court yn y Rhath, Caerdydd, yn 10 o fflatiau newydd sbon ar gyfer pobl dros 50 oed – gan ddarparu rhagor o dai fforddiadwy yn yr ardal boblogaidd hon o’r ddinas.

Dechreuodd y gwaith ar y safle yn ystod misoedd yr haf 2013, ac fe’i cwblhawyd ym mis Mehefin eleni. Mae’r 5 fflat ar y llawr gwaelod, sydd wedi eu haddasu ar gyfer anghenion symudedd, wedi cael eu dyrannu drwy gynllun Tai Hygyrch Caerdydd, tra bod y 5 fflat ar y llawr cyntaf wedi cael eu neilltuo gan WWH a Chyngor Caerdydd.

Symudodd Angelo a Diane Stephanakis i’w fflat dwy ystafell wely newydd yn Willow Court ym mis Mehefin. Roedd y cwpl wedi byw yn un o gartrefi WWH yn ardal y Rhath ers dros ugain mlynedd.

Wrth siarad am eu cartref newydd, dywedodd Mr Stephanakis: “Roedd ein hen dŷ yn gartref teuluol mawr gyda gardd fawr, felly roedd yn anodd ei gynnal. Nawr bod y plant wedi dod yn oedolion ac wedi symud, roedd yn gwneud synnwyr i ni symud i gartref llai o faint. Mae symud yma wedi bod fel ennill y loteri - mae hi mor gartrefol a chynnes, ac mae gennym gymdogion gwych ac mae’n wirioneddol dawel yma. Rydym wrth ein bodd yn ein cartref newydd - mae hi wedi bod yn gyfnod hir o aros amdano. Rwy’n dal i binsio fy hun fy mod i yma!”Dywedodd Mrs Stephanakis: “Rwyf wedi byw yn y Rhath erioed, ac mae ein teulu a’n gwaith gerllaw, felly roedd yn bwysig i ni ein bod yn

Mae Ms Symone Davies a’i phlant wrth eu bodd gyda’u cartref newydd

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH,: “Mae prinder tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig ar ei lefel uchaf erioed, gyda llawer o bobl yn cael eu prisio allan o’r farchnad eiddo mewn ardaloedd fel y Fro. Drwy weithio’n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg i gyflwyno’r cartrefi newydd hyn yn y Bont-faen, rydym yn gobeithio helpu pobl leol i aros yn yr ardal ger eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u gwasanaethau lleol. Rydym yn dymuno’n dda i’n preswylwyr yn eu cartrefi newydd.”

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg yn ddiweddar i ddarparu tai fforddiadwy newydd i bobl leol yn y Bont-faen. Dewiswyd WWH gan y cyngor i ddarparu chwe chartref newydd ar safle newydd Town Mill Road, a oedd yn cael ei ddatblygu gan Taylor Wimpey. Mae’r cartrefi wedi eu dyrannu i breswylwyr sydd â chysylltiadau â’r ardal. Mae’r cartrefi newydd yn gymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely, pob un â gerddi preifat a mannau parcio oddi ar y ffordd. Mae pump o’r cartrefi ar rent fforddiadwy, tra bod un wedi cael ei werthu fel rhan o’n cynllun perchnogaeth tai cost isel.

Ym mis Mehefin, aeth ein preswylwyr i sesiwn ragflas arbennig ar eu cartrefi newydd, ac roeddem yn falch iawn o glywed eu bod yn eu hoffi’n fawr. Dywedodd Ms Jayne Lynn: “Mae’r tŷ yn wych ac o ansawdd da iawn. Y mae hefyd mewn lleoliad perffaith i ni, gan ei fod yn agos at ein hysgol.”

Roedd Ms Symone Davies a’i mab, Ethan, a’i merch, Ffion, hefyd yn falch o’u cartref. Ar ôl edrych o gwmpas eu tŷ newydd, dywedodd Ms Davies: “Nid dyma oeddwn i wedi ei ddisgwyl – mae’n llawer iawn gwell na hynny. Mae pawb ohonom yn edrych ymlaen yn arw at gael symud i fyw yno.”

Mae’r allweddi i’r cartrefi wedi cael eu trosglwyddo i’r preswylwyr hapus erbyn hyn.

Y diweddaraf am ddatblygiadau | intouch | www.wwha.co.uk | 1110| www.wwha.co.uk | intouch | Y diweddaraf am ddatblygiadau

Tai fforddiadwy newydd i bobl leol y Bont-faen

Preswylwyr Willow Court yn dweud bod cartrefi newyddwedi ‘newid eu bywydau’

Cartrefi newydd yn Willow Court, Caerdydd

Page 7: In touch summer 2014 welsh

Ffenestri/DrysauDol Glas, Aberhonddu, Powys.

Ffenestri/Drysau PatioSpinney Close, Caerdydd.

DrysauVictory Court, yr Wyddgrug, Sir y Fflint.Dros y Morfa, Caerdydd.

CeginauCwrt Cable, Cei Connah, Sir y Fflint.Cwrt Leighton, Cei Connah, Sir y Fflint.Caerau Court Road, Caerdydd (rhifau 13-67)

Ystafelloedd ymolchiMaelor Place, Rhiwabon,Wrecsam. (rhifau 5-22)Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr.The Beeches, Pen-y-bont ar Ogwr.

Enillwyr y de oedd Mr a Mrs Hale o Fynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr. Roedden nhw ar ben eu digon, ac mae’r arian a gawson yn mynd at wyliau.

Enillwr y gogledd oedd Mrs Brenda Eva o Farchwiail, Wrecsam, a ddywedodd:“Rwy’n falch iawn, oherwydd mae hyn yn golygu y gallaf fforddio mynd ar wibdaith i Lundain.”

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio | intouch | www.wwha.co.uk | 1312| www.wwha.co.uk | intouch | Cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Cynnal a chadw wedi’i gynllunioIsod, rhestrir y cynlluniau rydym yn bwriadu eu huwchraddio cyn diwedd y flwyddyn.

Fe allech chwithau hefyd fod yn ENILLYDD drwy sicrhau bod eich bwyler nwy yn cael gwasanaeth ar yr apwyntiad cyntaf, neu roi o leiaf 48 awr o rybudd i ni ohirio’r ymweliad.

“Roedd y gweithwyr yn arbennig o dda; fe wnaethon nhw ysgubo pen y grisiau ar ei hyd a golchi popeth a gadael y cyfan fel pin mewn papur. Roedden nhw’n weithwyr rhagorol, yn garedig iawn ac yn gymwynasgar - ni allwn fod wedi gobeithio am bobl garedicach yn fy nghartref,” meddai Betty.

Gall Mrs Perry ymolchi mewn cawod yn gyfforddus yn ei hystafell ymolchi ar ei newydd wedd.

Mae Mrs Perry o Elm Street, Caerdydd, wedi byw yn ei chartref ers blynyddoedd lawer. Mae hi’n cofio gweld yr eliffantod pan oedd y syrcas yn dod i Gaerdydd flynyddoedd yn ôl, gan fod yr anifeiliaid yn cael eu cadw yn y stablau yng nghefn y tai.

Mae Betty yn hapus iawn gyda’i hystafell ymolchi newydd; cafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar ac yn awr mae’n cynnwys sedd / cadair dros y baddon sy’n golygu bod cael cawod yn llawer haws.

Ystafell ymolchi newydd Mrs Perry

Talwch eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol ac fe allech CHI ENNILL £100

I dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol, cysylltwch â’ch Swyddog Tai neu ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526.

Enillwyr y chwarter diwethaf oedd Mr Aung a Mrs Lwin o Ben-y-lan, Caerdydd.

Mr Aung gyda’r plant, Than Sin Awun sy’n 4 oed a Zay Aung sy’n 2 oed.

Enillydd Debyd UniongyrcholRaffl fawr PH JonesCyfle i ennill £250, siampên, tusw o flodau a siocledi

Page 8: In touch summer 2014 welsh

Eich cartref

Roedd rhagor ohonoch yn fodlon ar eich eiddo ar y cyfan, gyda sgôr gyfartalog o 8.27 allan o 10 - gwelliant sylweddol ar y llynedd.

Mae’r sgôr hwn yn uwch oherwydd bod rhai gwelliannau sylweddol wedi bod i lefel y diogelwch (a gafodd sgôr gyfartalog o 7.79), systemau gwresogi (7.54) a lefel y gwrthsain (6.48) er bod rhai ohonoch wedi crybwyll bod angen gwaith o hyd yn y maes hwn.

Ym mis Mawrth a mis Ebrill 2014 cynhaliom ein harolwg bodlonrwydd preswylwyr blynyddol gan ddefnyddio cwmni annibynnol o’r enw ARP Research. Mae’r arolwg hwn yn bwysig iawn i ni. Byddwn yn ei ddefnyddio i nodi’r camau gweithredu y dylem eu cymryd i ddiwallu anghenion ein preswylwyr yn well, yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

Rydym yn cynnal yr arolwg bob blwyddyn, a bob tro byddwn yn anfon holiaduron at draean o’n preswylwyr, wedi’u dewis fel eu bod yn gynrychioliadol o boblogaeth y preswylwyr yn ei chyfanrwydd. Eleni, cawsom 824 o holiaduron wedi’u cwblhau, a oedd yn 30% o’r rhai a anfonwyd (tua 2,750).

Roedd llawer o’r cwestiynau yn gofyn i chi roi sgôr allan o ddeg, a oedd o’u cyfuno gyda’i gilydd yn rhoi sgôr cyfartalog ar gyfer pob cwestiwn. Roedd pob un o’r cwestiynau eraill yn rhoi sgoriau canran allan o 100. Bydd y tudalennau a ganlyn yn esbonio rhai o brif ganlyniadau’r arolwg, a byddwn yn defnyddio’r canlyniadau manwl ar gyfer pob cynllun i dargedu gwelliannau yn ein gwasanaethau ar lefel leol.

Atgyweiriadau a chynnal a chadw

Roedd tua thri o bob pump ohonoch wedi cysylltu â ni yn ystod y chwe mis blaenorol ynghylch atgyweiriad, gyda’r grŵp hwn yn rhoi sgôr o 7.29 allan o 10 am y gwasanaeth cyffredinol a ddarparwyd. Roedd y rhai ohonoch a oedd wedi cael atgyweirio gwresogyddion o’r farn bod y gwasanaeth a dderbyniwyd hyd yn oed yn well (7.78 allan o deg). Y prif reswm a roddwyd gennych dros beidio â rhoi sgôr o 10 am y gwasanaeth atgyweirio yn gyffredinol oedd bod yn rhaid i chi aros yn rhy hir, neu fod angen mwy nag un ymweliad.

Cysylltu gyda niRoedd y sgoriau ar gyfer safon y gwasanaeth i gwsmeriaid wrth gysylltu â ni ar y cyfan yn dda unwaith eto. Roedd hanner ohonoch (50%) wedi rhoi sgôr berffaith o 10 i ni am allu’r staff i ymdrin yn llawn â’ch ymholiad (sgôr gyffredinol gyfartalog o 8.25) gyda hyd yn oed mwy ohonoch o’r farn bod cymwynasgarwch y staff yn haeddu 10 allan o 10 (56 %, sgôr gyfartalog 8.64).

Rhent ac arian

Roedd y rhan fwyaf ohonoch yn teimlo ein bod yn eich helpu i dalu eich rhent a chadw rhag mynd i ddyled gyda sgôr cyfartalog o 8.71 allan o 10, gan gynnwys 61% ohonoch a roddodd sgôr berffaith o 10. Roedd y rhai a oedd wedi bod mewn dyledion rhent o’r farn bod y cyswllt rheolaidd a chyflym gyda ni’n ddefnyddiol (cyfartaledd o 8.14 allan o 10).

Eich cymdogaethBydd y gymdogaeth rydych yn byw ynddi bob amser yn effeithio ar ba mor fodlon ydych chi yn eich cartref. Er na allwn wella pethau ar ein pennau ein hunain, mae’n dal i fod yn bwysig i ni wybod beth yw eich barn am eich ardal leol, fel y gallwn wneud popeth yn ein gallu i’w gwella.

Mae’r rhan fwyaf ohonoch yn hoffi’r ardal lle’r ydych yn byw (sgôr gyfartalog o 8.43) gyda chymdogion da, amgylchedd heddychlon a mynediad at amwynderau lleol unwaith eto’n cael eu nodi fel y tri phrif reswm pam eich bod yn hoffi byw yma. Fodd bynnag, dywedodd tua 1 o bob 9 ohonoch mai problemau gyda chymdogion oedd y prif reswm pam nad oeddech yn hoffi lle’r ydych yn byw. Parcio oedd y prif beth yr hoffech ei weld yn cael ei wella lle’r ydych yn byw, ac yna gwell ffensys a giatiau.

Canlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2014 | intouch | www.wwha.co.uk | 1514| www.wwha.co.uk | intouch | Canlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2014

Canlyniadau’r ArolwgBodlonrwydd Preswylwyr

Cyfartaledd 8.27

Cyfartaledd 8.71

Cyfartaledd 7.29

Cyfartaledd 8.43

Cyfartaledd 8.64 (â0.01)

Cyfartaledd 8.28 (â0.03)

Cyfartaledd 8.08 (â0.05)

Cyfartaledd 7.79 (â0.43)

Cyfartaledd 7.56 (â0.18)

Cyfartaledd 7.54 (â0.41)

Cyfartaledd 6.48 (â0.36)

Diogelwch

Ffiniau

Gwresogi

Gwrthsain

Cymwynasgarwch

Gallu delio â’r ymholiad

Cyrraedd yr unigolyn priodol

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10anfodloniawn

eithaf anfodlon

dim un neu ddim ateb

eithaf bodlon

bodloniawn

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10anfodloniawn

eithaf anfodlon

dim un neu ddim ateb

eithaf bodlon

bodloniawn

Page 9: In touch summer 2014 welsh

Cystadlaethau | intouch | www.wwha.co.uk | 17

Cynnwys preswylwyr

Roedd tua thri chwarter ohonoch yn fodlon ein bod yn gwrando ar eich barn ac yn gweithredu’n unol â hynny, sy’n welliant sylweddol ers 2012. Rydym wedi monitro hyn yn ofalus dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n ymddangos bod ein gwaith yn y maes hwn yn dwyn ffrwyth, er bod gwaith i’w wneud os yw am barhau i wella.

Gwasanaethau yny dyfodolRoedd gan ddau o bob pump ohonoch ddiddordeb yn y gwasanaethau arfaethedig, gyda chwarter ohonoch yn barod i dalu amdanyn nhw. Roedd y diddordeb mwyaf yn y gwasanaeth tasgmon / atgyweiriadau bychain / addurno, gyda thros chwarter ohonoch yn mynegi diddordeb yn y gwasanaeth arfaethedig hwn. Dangosodd un o bob pump ohonoch ddiddordeb hefyd mewn gwasanaeth garddio.

Rydym hefyd yn archwilio ffyrdd o helpu’r rhai nad ydyn nhw’n gweithio ar hyn o bryd i gael gwaith, ac mae gan un o bob pump ohonoch ddiddordeb yn y cynllun hwn. Roedd gan tua un o bob wyth ohonoch ddiddordeb mewn ein helpu ni neu un o’n partneriaid er mwyn cael cyfle o swydd barhaol.

Cyfathrebu a gwybodaethRoeddem yn falch o weld bod y mwyafrif helaeth ohonoch yn meddwl ein bod yn dda am roi gwybod i chi am y pethau sy’n effeithio arnoch chi (84%), sydd ychydig yn well na’r llynedd.

Roedd yn amlwg mai’r dull a ffefrir o dderbyn gwybodaeth gennym oedd dogfennau papur drwy’r post, gyda 80% ohonoch yn nodi dull hwn. Byddai nifer uwch ohonoch yn dymuno i ni ddefnyddio e-bost fel ffordd o dderbyn gwybodaeth (22%), tra bod y gyfran ohonoch y byddai’n well gennych gael gwybodaeth drwy neges destun wedi mwy na dyblu (23%, i fyny o 11%).

Byddai un o bob pedwar ohonoch yn hoffi defnyddio Facebook i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau neu fel dull o gyfathrebu â ni.

16| www.wwha.co.uk | intouch | Canlyniadau Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2014

Enillwyr Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2014Yn y rhifyn Gaeaf 2013 In Touch, fe ddywedom wrthych sut y byddai preswylwyr a ddychwelai eu harolygon bodlonrwydd wedi’u llenwi yn cael eu cynnwys yn awtomatig mewn raffl am ddim. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal yn flynyddol, gyda thraean o aelwydydd yn cael eu harolygu bob blwyddyn, felly dylech gael arolwg gennym unwaith mewn cyfnod o 3 blynedd.

Enillydd lwcus £100 o dalebau Argos oeddMr Brown o’r Rhws, De Cymru, a ddywedodd: “Roedd yn syndod pleserus iawn. Mae gen i ffrindiau a oedd yn edrych ar fy ôl yn y gorffennol a meddyliais y gallwn ddychwelyd y ffafr. Maen nhw hefyd yn disgwyl babi, a gallai’r talebau helpu i brynu pethau ar gyfer y babi yn ogystal ag anrhegion pen-blwydd ar gyfer eu bachgen.”

Enillydd yr ail wobr, sef £75 o dalebau Argos, oedd Mr Medrek a Miss Sobczyk o Wrecsam.

O’r chwith i’r dde: Natalia, Anna a Veronica, sy’n 3 mis oed

Enillydd yr ail wobr, sef £50 o dalebau Argos, oedd Mr Griffiths o Queensferry.

Mr Lesley Griffiths o Queensferry gyda’r Swyddog Tai Catherine Marland.

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10anfodloniawn

eithaf anfodlon

dim un neu ddim ateb

eithaf bodlon

bodloniawn

Page 10: In touch summer 2014 welsh

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 1918| www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

Mae Turn2us yn wasanaeth rhad ac am ddim ac annibynnol sy’n helpu pobl sydd mewn angen ariannol i gael mynediad at fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall.

Mae gwefan Turn2us - www.turn2us.org.uk - yn cynnwys Cyfrifiannell Budd-daliadau am ddim sy’n hawdd ei defnyddio, sy’n eich helpu i wirio pa fudd-daliadau lles y mae gennych hawl i’w cael, y symiau y gallech eu cael a sut i wneud cais. Mae’n cyfrifo’r hawl i gael budd-daliadau prawf modd ac yn tynnu sylw at fudd-daliadau nad ydyn nhw’n seiliedig ar brawf modd, a chymorth arall a allai fod ar gael.

Yn ogystal â helpu pobl i gael budd-daliadau lles, mae gan Turn2us offeryn Chwilio am Grantiau sy’n cynnwys manylion dros 3,000 o gronfeydd elusennol. Yn dibynnu ar eich cefndir a’ch amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau lles neu addysg neu wasanaethau cymorth eraill.

Mae gwefan Turn2us hefyd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac adnoddau am fudd-daliadau lles a rheoli arian, gan gynnwys teclyn ‘Dod o hyd i Gynghorydd’ i bobl gael cyngor am eu sefyllfa yn eu hardal leol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.turn2us.org.uk. Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth gyfrinachol Turn2us am ddim ar 0808 802 2000 (yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 8pm).

Stori DeniseGall mynd yn ôl i’r gwaith fod yn amser ansefydlog iawn yn ariannol; mae’n anodd gwybod beth fydd cyfanswm eich incwm, a

Anawsterau ariannol? Turn2us.gall amlder derbyn yr arian fod yn wahanol. Nid yw’r ffaith eich bod yn dechrau gweithio yn golygu fod pob hawl i gael budd-daliadau yn dod i ben, ond mae’r hyn rydych yn ei dderbyn yn debygol o newid.

Roedd y sefyllfa hon yn anodd iawn i un o’n preswylwyr, Denise, yn y lle cyntaf; roedd popeth yn ymddangos mor ansicr, a bu hyn yn straen ddiangen ar ben dychwelyd i’r gwaith. Helpodd Tracy Bevan, y Swyddog Cefnogi Tenantiaeth, Denise drwy ddefnyddio cyfrifiannell Turn2us. Dywedodd Denise: “Mae Wales & West yn gefnogol iawn, yn enwedig yn achos pobl sy’n byw gydag anabledd. Rhoddodd y cyfrifiad Turn2us y sicrwydd i mi mai mynd yn ôl i’r gwaith oedd y penderfyniad cywir.”

Cynghorion defnyddiol• Gadewch i asiantaethau budd-daliadau wybod

am newidiadau yn eich amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd, hyd yn oed os nad ydych yn gwybod y manylion llawn eto – a daliwch ati i ddarparu gwybodaeth iddyn nhw.

• Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd eich hawl i Fudd-dal Tai a Chredydau Treth yn dod i ben oherwydd eich bod yn dechrau gweithio. Mae bron i hanner y bobl sy’n derbyn cymorth gyda’u rhent drwy Fudd-dal Tai yn gweithio.

• Cyflwynwch geisiadau am fudd-daliadau newydd fel Credydau Treth cyn gynted â phosibl.

• Peidiwch ag anghofio defnyddio’r cyfrifiadau ‘Beth os’ ar wefan Turn2us sy’n eich galluogi i feddwl am senarios gwahanol - Beth os byddaf yn cynyddu fy oriau, beth sy’n mynd i ddigwydd pan fydd fy mhlentyn yn cael ei eni?

Ymhellach, mae ein Cerdyn Cynilo trwydded deledu hefyd yn cynnig ffordd syml o gynilo ar gyfer ffi’r drwydded y flwyddyn nesaf.Gallwch gynilo pryd bynnag yr hoffech, gydag isafswm taliad o £2.

Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais, a does dim tâl am ei ddefnyddio. Byddwn yn anfon datganiad atoch bob chwe mis a gallwch wirio eich balans ar-lein neu dros y ffôn. Gwnewch gais nawr drwy ffonio 0300 555 0281.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ffyrdd hawdd o dalu am eich trwydded deledu a’r consesiynau sydd ar gael, ewch iwww.tvlicensing.co.uk

Mae Trwyddedu Teledu yn deall y gall fod yn anodd i bobl dalu’r ffi flynyddol o £145.50 am Drwydded Deledu ar un tro. Felly i helpu, mae yna nifer o wahanol ffyrdd o dalu am Drwydded Deledu - mewn rhandaliadau wythnosol, misol a chwarterol, dros y ffôn, ar-lein, debyd uniongyrchol ac mewn mannau talu pwrpasol.

Os hoffech ledaenu’r gost yn rhandaliadau bob wythnos, bob pythefnos a phob mis, efallai yr hoffech roi cynnig ar ddefnyddio ein Cerdyn Talu. Unwaith y byddwch chi’n cofrestru, byddwn yn anfon cynllun talu sy’n dangos pryd a faint y bydd angen i chi ei dalu tuag at eich Trwydded Deledu.

Mae’r cerdyn talu ar gael i bawb, a gallwch hyd yn oed ddefnyddio system negeseuon testun i’ch atgoffa, i roi gwybod i chi pan fydd eich taliad nesaf yn ddyledus. I gael gwybod sut i gofrestru, rhowch alwad i Trwyddedu Teledu ar 0300 555 0286.

Hwylusotalu eich Trwydded deledu

Page 11: In touch summer 2014 welsh

Materion ariannol | intouch | www.wwha.co.uk | 2120| www.wwha.co.uk | intouch | Materion ariannol

pob math o ryseitiau, awgrymiadau a chynghorion ar gyfer cynigion arbennig neu brynu mewn swmp.

Cadwch leHyd yn oed pan fyddwn wedi cael trefn ar y gegin, bydd pob math o bethau’n codi a bydd ein cynlluniau’n newid. Efallai y byddwn yn gweithio’n hwyr, awydd tecawê, bwyta allan, neu ddim awydd yr hyn rydym wedi ei gynllunio. Os yw hynny’n wir, beth am gynllunio rhai bylchau yn eich cynllun prydau wythnosol i chi gael bod yn hyblyg? Er enghraifft, drwy gynllunio ar gyfer pum diwrnod o brydau’r wythnos, gallwch newid y cynlluniau hynny. Os ydych yn digwydd bod yn y cartref, mae’n gyfle gwych i ddefnyddio prydau bwyd o’r rhewgell, neu ddefnyddio bwyd dros ben neu fwyd yr anghofiwyd amdano i wneud pryd o fwyd.

Gall siopa am fwyd fod yn ddrud, yn enwedig pan mae angen i chi fwydo teulu llwglyd! Mae cartrefi’r Deyrnas Unedig yn gwastraffu gwerth £12.5 biliwn o fwyd a diod da bob blwyddyn, sy’n costio £700 y flwyddyn i deulu cyffredin gyda phlant - neu tua £60 y mis. Gellid osgoi’r rhan fwyaf o’r gwastraff bwyd a diod hwn pe baem yn ei fwyta mewn pryd, neu’n gwybod faint o fwyd i’w baratoi a beth allem ei wneud gyda’n bwyd sydd dros ben.

Yn yr erthygl hon, mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn rhoi cynghorion defnyddiol ar arbed bwyd fel y gallwch ymestyn eich arian wth wario ar brydau bwyd.

TrefnwchMae cynllunio ein prydau bwyd a’n siopa yn ffordd wych o arbed arian ac amser. Nid oes rhaid i gynllunio fod yn anodd na chymryd llawer o amser - dim ond edrych yn sydyn beth sydd yn y cypyrddau, palu yn yr oergell, wedyn gwneud rhestr gyflym cyn mynd i’r archfarchnad. Bydd hynny’n golygu ein bod yn llai tebygol o dreulio amser yn crwydro o gwmpas y siop yn meddwl tybed beth i’w gael i de ac yn casglu eitemau diangen. Os oes angen syniadau i’ch helpu i ddechrau arni, cymerwch olwg ar y cynlluniau prydau parod a rhestrau siopa ar www.lovefoodhatewaste.com, neu llwythwch i lawr yr app rhad ac am ddim a fydd yn helpu i greu rhestrau siopa ar gyfer y prydau bwyd y dymunwch eu paratoi.

Bachwch FargenOs ydych yn fwy digymell wrth siopa bwyd, angen siopa’n ddyddiol neu’n hoffi gwneud y defnydd gorau o fargeinion dyddiol, mae www.lovefoodhatewaste.com yn awgrymu

Arbedwch arian amser bwyd gyda Hoffi bwyd, casáu gwastraff

rhewgell i’w defnyddio yn y dyfodol i wneud stwffin, saws bara neu eu cymysgu gyda chaws wedi’i gratio ar gyfer topin “gratin”.

Am ryseitiau gwych a rhagor o gynghorion, ewch iwww.lovefoodhatewaste.com neu llwythwch i lawr yr app am ddim o’ch app store- LFHW.

Mae Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn cynnig sesiynau rhyngweithiol llawn hwyl AM DDIM i helpu pawb i fanteisio i’r eithaf ar eu bwyd ac arbed arian.

Os hoffech chi ac aelodau eraill o’ch cymuned leol gymryd rhan mewn sesiwn, cysylltwch â Joanne Tarling ar 07712 852013 neu e-bostiwch [email protected]

Y rhewgellMae defnyddio prydau bwyd o’r rhewgell fel rhan reolaidd o’n cynlluniau yn atal ein rhewgelloedd rhag bod â gormod o fwyd y byddwn wedyn yn anghofio amdano. Y mae hefyd yn golygu ein bod yn defnyddio ein bwyd wedi’i rewi tra bod ei ansawdd yn uchel. Mae cadw rhestr hwylus yn sownd ar ddrws y rhewgell yn osgoi gorfod chwilio drwy ein bwydydd wedi’u rhewi i geisio gweld beth sydd gennym ar ôl. Cadwch lygad ar fwydydd yn eich oergell sydd bron â chyrraedd eu dyddiad defnyddio, a symudwch nhw i’r rhewgell os nad ydych yn mynd i’w defnyddio mewn pryd.

• Os ydych yn gwahodd llawer o westeion draw am bryd o fwyd ac yn ansicr faint i’w brynu a’i goginio, rhowch gynnig ar gyfrifiannell dognau perffaith ar-lein Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff: www.lovefoodhatewaste.com/portions

• Os yw salad wedi gwywo, rhowch ef mewn powlen o ddŵr gyda chwpl o giwbiau rhew i’w adfywio.

• Os nad yw mafon, mefus a llus yn edrych ar eu gorau, coginiwch nhw’n ysgafn mewn sosban nes eu bod yn feddal ac yna gweinwch y gymysgedd gyda crème fraiche neu hufen iâ i wneud pwdin hawdd.

• Cadwch y plant yn ddiddan drwy roi lolis hyfryd iddyn nhw wedi’u gwneud gyda sudd ffrwythau dros ben ac iogwrt wedi’i rewi mewn mowldiau lolis.

• Os oes gennych gig wedi’i goginio sydd dros ben, lapiwch ef yn dda a’i gadw yn yr oergell - bydd yn dda i’w ddefnyddio am hyd at ddau ddiwrnod, neu fel arall rhowch ef yn y rhewgell ar gyfer rhyw dro eto.

• Bydd rholiau bara sydd wedi mynd braidd yn sych yn flasus wedi’u tostio. Neu, trowch nhw’n friwsion bara a’u rhewi mewn bag

Top Tips

Page 12: In touch summer 2014 welsh

Gofynnwyd cyfres o gwestiynau agored iddyn nhw:

• yr hyn roedden nhw’n ei hoffi, • yr hyn roedden nhw’n ei gasáu, • a roddodd y cynlluniau’r wybodaeth gywir;

ac • unrhyw beth arall a ddylai ymddangos yn y

graffigau gwybodaeth.

Cawsom 20 o ymatebion i’r arolwg ORA gyda’i gilydd, ac rydym hefyd wedi cael adborth ychwanegol gan grŵp ffocws o aelodau RPSG. Yn seiliedig ar yr hyn maen nhw wedi ei ddweud wrthym, rydym wedi cynhyrchu ein hadroddiad chwarterol cyntaf ar ei newydd wedd gyda graffigau gwybodaeth, ac rydym yn gobeithio ei fod yn dweud y cyfan rydych eisiau ei wybod am ein rhenti, sut mae pobl yn talu a sut rydym yn eu helpu pan fo angen.

Felly, cymerwch olwg dda arno, ac, os oes gennych sylwadau neu os hoffech wybod unrhyw beth arall am ein system, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Gallwch anfon neges e-bost atom: [email protected] neu ein ffonio ni ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526.

Rhoi gwybod i chi am y diweddarafHyd yn hyn rydym wedi cyhoeddi diweddariad chwarterol ar ein perfformiad yn In touch drwy gyfres o ffigurau a naratif ategol - gelwir y rhain yn ‘smotiau’ gan rai ohonoch.

Rydym yn penderfynu edrych ar ffyrdd eraill o ddarparu’r wybodaeth hon i chi fel bod gwybodaeth allweddol yn cael ei chyflwyno i chi ar ffurf lluniau clir, gan ddefnyddio graffigau gwybodaeth. Ein cynllun yw cyhoeddi cyfres o graffigau gwybodaeth yn In Touch gyda phob un yn cynrychioli ffeithiau allweddol am un o systemau ein busnes.

Yn ddiweddar, gofynnwyd i’r grŵp Preswylwyr yn Unig (ORA), ac aelodau’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr (RPSG) am eu barn ar ein ffordd newydd arfaethedig o roi gwybod i breswylwyr am berfformiad WWH.

Gofynnwyd i aelodau ORA a RPSG am eu barn ar ddau graffig gwybodaeth, un ar thema’r system ‘Atgyweiria fy nghartref’ a’r llall yn cwmpasu ‘Helpwch fi i dalu’, er mwyn i ni lunio’r adroddiadau chwarterol mwyaf ystyrlon a hawdd eu deall ar eich cyfer.

22| www.wwha.co.uk | intouch | Adroddiad chwarterol

Adroddiadchwarterol

Mae’r nifer yngostwng yn araf

yn cadw at drefniant

i dalu eu

hôl-ddyledion

Mae

rhai pobl yn mynd i ddyled2,382o gartrefi

7/10o’r rhain yn cadw at drefniant

Rydy

m yn casglu

o’r hyn y dylemei gasglu

3/10

ar gyfer ol-ddyledion rhent Mae’r nifer hwn yn isna’r llynedd.

Mae 400 o bobl argyfartaledd £15 yr

wythnos yn welleu byd

Swyddogion Cymorth Tenantiaeth

yn helpu pobl

Rydw i’n hoffi help

Ffoniwch ni ar0800 052 2526

CARTREF

Diolch yn fawr iawn i drigolion sydd yn ein helpu i ddangos a dweud sut rydym yn perfformio mewn ffordd glir ac yn ystyrlon. Byddem yn falch iawn o glywed eich barn hefyd. Ffoniwch ni ar 0800 052 2526

troi allanin 2013

Nid yw

angen

Mae

Helpwch fi i dalu!

Page 13: In touch summer 2014 welsh

Byw’n iach| intouch | www.wwha.co.uk | 2524| www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n iach

yn aml mewn campfeydd neu ganolfannau hamdden os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn budd-dal, ac mae llawer o gampfeydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r GIG yng Nghymru i ddarparu cynlluniau cyfeirio gan feddygon teulu ar gyfer pobl anabl. Os oes gennych ddiddordeb, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu eich cyfeirio at gampfa leol.

Heb roi cynnig arni o’r blaen?

Nid oes rhaid mynd ati’n ddifrifol ar unwaith. Mae’n rhaid i bawb ohonom ddechrau yn rhywle ac mae pawb ohonom yn wahanol, felly mae’r swm y byddwch yn gallu ei wneud yn dibynnu ar ba mor heini ydych chi i ddechrau. Dechreuwch drwy roi cynnig ar rywbeth newydd a gweld sut hwyl rydych chi’n ei chael arni.

Pa mor anodd ddylai hyn fod?

Os gallwch, ceisiwch wneud cyfuniad o ymarfer corff cardio-fasgwlaidd a chryfhau cyhyrau. Ceisiwch godi cyfradd curiad eich calon a chynhyrchu ychydig o chwys. Dylech fod ychydig allan o wynt ond yn dal i allu siarad, ond nid canu, tra byddwch yn ymarfer.

How much each day?

Mae pob 10 munud yn cyfrif. Cynyddwch eich ymarferion yn raddol nes byddwch yn gwneud o leiaf 150 munud yr wythnos, a rhowch gynnig ar gyfuniad o syniadau fel nad yw’n mynd yn ddiflas - gwnewch bethau rydych yn eu mwynhau. Peidiwch â phoeni, nid oes yn rhaid i chi wneud y 150 munud gyda’i gilydd! Mae’n well i chi daenu’r ymarferion drwy gydol yr wythnos fesul 10, 20 neu 30 munud.

Mae Newid am Oes Cymru yn rhoi cyngor gwych ar sut i gadw’n heini - beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd - a gwella eich iechyd.

Mae trefnu gweithgarwch yn ystod eich diwrnod yn cadw eich calon yn iach, yn lleihau eich risg o salwch difrifol ac yn cryfhau’r cymalau. Gall hefyd fod yn ffordd wych o leihau eich lefelau straen a chodi eich hwyliau os ydych yn teimlo’n isel.

Nid yw llawer o bobl yn rhy hoff o’r syniad o ymarfer corff i ddechrau - efallai ein bod yn rhy brysur, yn rhy flinedig, neu efallai heb fod â diddordeb mewn ymarfer corff o’r blaen. Ond mae rhywbeth ar gael i bawb ei fwynhau ac nid oes yn rhaid i chi fod yn ffanatig ffitrwydd – mae pob deng munud o weithgarwch yn cyfrif!

Oeddech chi’n casáu chwaraeon ynyr ysgol?

Nid oes rhaid i gadw’n heini fod yn gystadleuol nac yn waith trwm - dim ond hwyl! Nid oes yn rhaid iddi fod yn “gamp”, hyd yn oed. Gallech roi cynnig ar nofio, ioga, dawnsio, cerdded, garddio, swmba, cylchoedd hwla... mae rhywbeth at ddant pawb ac mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau.

Gofalus o’r geiniog?

Nid oes yn rhaid i gadw’n heini fod yn ddrud - gall dim ond mynd allan am dro bob dydd fod yn ddigon. Cofiwch, mae cyfraddau is

Mae’n bryd cadw’n heini!

Awydd rhywbeth ychydig yn fwy sionc?

Meddyliwch am y chwaraeon rydych yn mwynhau eu gwylio ar y teledu a mynd allan a rhoi cynnig arnyn nhw. Beth am daith i’r cwrs golff lleol, neu chwarae pêl-droed yn y parc gyda’r plant? Os oeddech yn arfer mwynhau chwarae camp arbennig, yna gallwch chi bob amser ailddechrau gwneud hynny. Mae clybiau lleol yn darparu ar gyfer ystod o oedrannau a galluoedd fel y gallwch adeiladu’n raddol ac ar eich cyflymder eich hunan. Yn ogystal, mae dros 750 o glybiau a sesiynau ar draws Cymru sy’n darparu ystod eang o weithgareddau ar gyfer pobl ag anableddau, o saethyddiaeth i bêl-droed mewn cadeiriau olwyn. Ewch iwww.disabilitysportwales.com neu ffoniwch 0845 8460021 i gael manylion am weithgareddau sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Cofiwch: Os oes gennych gyflwr meddygol difrifol, salwch hirdymor neu anabledd, dylech ymgynghori â’ch meddyg teulu cyn dechrau ymarfer.

Am ragor o gynghorion gwych ar sut i gadw’n heini a gwella eich ffordd o fyw, ewch iwww.change4lifewales.org.uk

Swnio’n waith caled?

Weithiau, y rhan anoddaf yw dechrau arni. Unwaith y byddwch wedi ei wneud, byddwch yn pendroni pam nad oeddech eisiau ei wneud yn y lle cyntaf!

Byddwch yn teimlo’n wych!

Cymharwch sut rydych yn teimlo ar y dyddiau pan fyddwch yn ymarfer gyda’r dyddiau pan nad ydych yn ymarfer. Bydd gweld eich cynnydd dros ychydig wythnosau neu fisoedd yn rhoi ymdeimlad gwych o falchder i chi. Hwyl yn y dŵr!

Mae nofio yn ffordd wych o fod yn fwy heini i bobl o bob oedran a gallu, oherwydd gall dŵr gynnal eich corff yn ogystal â rhoi ymwrthedd ychwanegol i weithio yn ei erbyn. Mae’n arbennig o dda ar gyfer cadw’r cyhyrau yn eich breichiau, ysgwyddau, y frest a’ch cefn yn gryf, yn ogystal â datblygu stamina. Yn ogystal, gall yr ymdeimlad o ryddid ac arnofio fod yn ffordd wych o ymlacio a lleihau straen. Mae pyllau awdurdodau lleol yn hygyrch i bobl ag ystod o anableddau ac mae rhai sesiynau ffisiotherapi arbenigol yn cael eu cynnal hefyd.

Cerdded amdani!

Er y gall ymddangos yn syml, mae cerdded yn ffordd wych o gadw cymalau a chyhyrau yn gryf, ac yn ffordd bleserus i fynd allan a chael rhywfaint o awyr iach. Gallwch ei wneud ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau a theulu, a mynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch. Dyma’r ffordd symlaf a rhataf o fynd o le i le. Y cyfan fyddwch chi ei angen yw pâr cyffyrddus o esgidiau!

Beth am yr ardd?

Beth am gyfnewid yr ystafell fyw yn ardd? Mae garddio yn ffordd wych o fynd i’r awyr agored a chadw’n heini - fe allech chi hyd yn oed gael hwyl wrth dyfu eich llysiau eich hunan!

Page 14: In touch summer 2014 welsh

Gwaith. Sgiliau. Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 2726| www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith. Sgiliau. Profiad

Ydych chi’n chwilio am help i fynd yn ôl i weithio? Efallai yr hoffech chi ennill cymwysterau neu ddysgu sgiliau newydd? Efallai eich bod yn dymuno gwella eich iechyd? Gall eich tîm Cymunedau yn Gyntaf lleol helpu.

Mae timau Cymunedau yn Gyntaf yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda phreswylwyr, sefydliadau cymunedol, busnesau ac asiantaethau allweddol eraill yn eu hardal. Mae gan eu timau

Mae Cymunedau yn Gyntaf yma i’ch helpu

Pen-y-bont ar OgwrDiwrnod Gwybodaeth am Iechyd i

bobl dros 50 oedGwiriadau iechyd am ddim, cyngor

a gwybodaeth, arddangosiadau coginio’n iach a gweithgareddau blas

ar ymarfer corff.Meddygfa Tynycoed, Sarn

Dydd Mawrth30 Medi2pm – 6pm

cyfeillgar, cefnogol amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau rhad ac am ddim i’ch helpu chi a’ch cymuned i fod yn iachach, yn fwy ffyniannus a dysgu sgiliau newydd.

Yn yr erthygl hon, fe gewch fanylion cyswllt yn ogystal â gweithgareddau a chyrsiau y mae’r timau Cymunedau yn Gyntaf yn eu trefnu.

Bro Morgannwg(Y Barri)

Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol,

ffoniwch y tîm ar01446 709432

Caerdydd(Butetown, Glan yr Afon

a Grangetown)Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol,

ffoniwch y tîm ar02920 220309

Caerdydd(Sblot, Tremorfa,

Adamsdown a’r Rhath)Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol,

ffoniwch y tîm ar02920 468488

Merthyr TudfulAm wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol,

ffoniwch y tîm ar01685 725225

AbertaweAm wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol,

ffoniwch y tîm ar01792 635238

Canolfan galw heibio TreláiHelp gyda dyledion, budd-daliadau, tai,

talebau Banc Bwyd a rhagorCanolbwynt Trelái a Caerau,

bob dydd Mawrth, 1pm-3pmCanolfan Gymunedol Pentre-baen, bob dydd Mercher, 11am – 1:30pm

Clwb GwaithGalwch draw am help i ddod o hyd i waith, llunio CVs, sgiliau cyfweliad a

mwy.Canolfan Dusty Forge, 460 Heol

Orllewinol y Bont-faen, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10am a 4pm

Canolfan Gymunedol Pentre-baen, dydd Mercher rhwng 10am a 4pm

Clwb Teuluoedd Teimlo’n DdaGwirio pwysau, lluniaeth a mynediad

at deithiau cymunedol a grwpiau gweithgarwch fel cerdded, beicio a

chelf a chrefft.Eglwys y Bedyddwyr, Trelái

Bob dydd Mercher, 9:30am-11amFfoniwch 02920 003132 am

wybodaeth

Prosiect y PorthEnciliwch rhag yr hyn sy’n achosi

straen i chi ac ymlaciwch! Te, teisennau, sgwrs, a gweithgareddau.

Canolfan Dusty Forge, 460 Heol Orllewinol y Bont-faen

Bob dydd Iau, 11am – 1:30pmFfoniwch neu anfonwch neges

destun at Kelly ar 07885 914073 am wybodaeth

Caerdydd (Trelái/Caerau a’r Tyllgoed/Pentre-baen)

Caerdydd (Dwyrain Caerdydd, Llanedern a Phentwyn)

Prosiect Yma Drwy’r Wythnos!Clwb Gwaith Cartref ECLP, Canolbwynt Llanrhymni, yn dechrau am 10am ddydd Sul 12 HydrefCymhorthfa Dr Bike (atgyweiriadau a chyngor ar feiciau am ddim), Canolbwynt Llanrhymni, 3:15pm-6pm ddydd Iau 17 HydrefSioe Deithiol Menter, Canolbwynt Llanrhymni, 10am-3pm ddydd Gwener 18 Hydref.Cynghorion doeth i’r rhai sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain!Am ragor o wybodaeth a digwyddiadau, ffoniwch Joe ar 07969 185 047

Page 15: In touch summer 2014 welsh

Gwaith. Sgiliau. Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 2928| www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith. Sgiliau. Profiad

Rhondda Cynon TafAm wybodaeth ynghylch ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf a gweithgareddau

sy’n cael eu cynnal, ffoniwch 01443 425761

Sir DdinbychClwb cymorth gwaith

Help i’r rhai sy’n chwilio am waith – gydag arweiniad ar ysgrifennu CV, mynediad at y rhyngrwyd, cyngor ar reoli arian a mwy.

Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf,82 Marsh Street, y Rhyl

Bob dydd Gwener, 10:30am-1pmAm ragor o wybodaeth am hyn a gweithgareddau eraill, ffoniwch

01745 332528

Doeth gyda bwydRhaglen rheoli pwysau dros 8 wythnos yn dod i ganolfan yn lleol i chi!Ffoniwch Helen ar 01443 864387 am wybodaeth

Grŵp cymorth iechyd meddwlCymorth cyfeillgar i’ch helpu i ddelio â straen, pryder neu anawsterau o ran hyder. Ffoniwch David ar 01495 222605

Adlamu’n ôl ar ôl CanserSesiynau ymarfer corff wythnosol dan arweiniad y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff i’r rhai sy’n gwella ac yn ddigon iach i wneud ymarfer corff.Ffoniwch Helen ar 01443 864387 am wybodaeth

Caerdydd (Trelái/Caerau a’r Tyllgoed/Pentre-baen)

Dyddiau Gwener DigidolClwb am ddim i’r rhai sydd eisiau dysgu sgiliau sylfaenol cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Bob dydd GwenerLlyfrgell Bargoed, 10am-1pmLlyfrgell y Coed-duon, 10am-1pmLlyfrgell Caerffili, 10am-3pmLlyfrgell Trecelyn, 10am-1pmLlyfrgell Tredegar Newydd-1pmLlyfrgell Rhisga 10am-1pm

WrecsamFfair Swyddi

Neuadd Sant Pedr, SmithfieldDydd Mawrth 30 Medi, 1pm

Am wybodaeth ynghylch digwyddiadau’r dyfodol, ffoniwch

y tîm ar 01978 357583

I fyny ac ymlaenCwrs magu hyder i’ch helpu i ennill cymwysterau achrededig wrth gyfrannu at y gymuned yr un pryd. Dysgwch sut i gynllunio gweithgareddau cymunedol, a rhoddir sylw i bynciau fel gwneud penderfyniadau, datrys problemau a sgiliau rhyngbersonol. Ffoniwch Rob a Mary ar 01492 531663 am wybodaeth

Dewch i goginio!Cwrs maetheg a choginio dros 6 wythnos yn lleol i chi’n fuan! Ffoniwch y tîm ar 01745 361140 am wybodaeth

Sesiwn SwyddiSesiwn swyddi bob dydd Iau, 1:30pm-3pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Tŷ Hapus, LlandudnoSesiwn Cyfateb swyddi cyffredinol bob dydd Mercher, 3:30pm-5pm yng Nghanolfan Ddysgu’r Bae, Bae Colwyn

Conwy

Sesiwn swyddi galw heibio bob dydd Iau, 1pm-3pm, Canolfan Gymunedol Tŷ Llewellyn, Llandudno

Cymhwyster y Diwydiant AdeiladuAngen tystysgrif CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu) ar gyfer y swydd rydych yn dymuno ei chael yn y diwydiant adeiladu? Mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio gyda Chyfiawnder Cymunedol yng Nghymru i ddarparu’r hyfforddiant yn Llandudno, Bae Colwyn a Bae Cinmel. Ffoniwch Mary ar 01492 531996 am ragor o wybodaeth.

Cwrs Cyfrifiaduron i DdechreuwyrCwrs dau ran i’r rhai sydd eisiau gwneud y defnydd gorau o’u cyfrifiadur a dysgu sgiliau sylfaenol. Amrywiaeth o ddyddiadau ar gael ym Medi a Hydref yn Llyfrgell Cei Connah, Llyfrgell yr Wyddgrug a Llyfrgell Treffynnon. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Mel ar 01352 744026

Dewch i goginio!Cwrs maetheg a choginio dros 6 wythnos ar Gampws Cymunedol John Summers, Queensferry, yn dechrau ddydd Mercher 17 Medi, 12pm-2:30pm. Am ragor o wybodaeth ac archebu eich lle, ffoniwch Judyar 01244 846090

Sir y Fflint

Clwb Swyddi Galw HeibioAm help i ddod o hyd i waith, sgiliau cyfweliad, ysgrifennu CV a mwy. Campws Cymunedol John Summers, QueensferryBob dydd Mawrth, 1pm – 3:30pm

Clwb MenterI entrepreneuriaid o bob oedran ar bob cam o ddatblygu eu busnes. Campws Cymunedol John Summers, Queensferry5 Medi, 19 Medi, 3 Hydref, 17 Hydref,10am-12pmFfoniwch y tîm ar 01244 846090 am wybodaeth

Page 16: In touch summer 2014 welsh

Gwaith. Sgiliau. Profiad | intouch | www.wwha.co.uk | 3130| www.wwha.co.uk | intouch | Gwaith. Sgiliau. Profiad

yn well, gyda mwy o oleuadau yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Meddai Tracy: “Fel cwsmer, mae Denise heb ei hail. Mae popeth yn newid pan fyddwch yn mynd yn ôl i’r gwaith. Er nad yw Denise yn derbyn budd-dal tai bellach, mae hi’n gymwys i gael Credydau Treth a Lwfans Byw i’r Anabl, felly rwyf wedi bod yn ei helpu hi i hawlio’r rhain.”

Sut mae Denise yn teimlo nawr? “Mae’r cyfnodau anodd wedi fy newid er gwell,” meddai. “Rwy’n teimlo fod hyn i gyd wedi digwydd am reswm. Nawr rwy’n gweithio er mwyn i mi allu fforddio prynu dodrefn - mae’n rhoi nerth i mi godi o’m gwely. Rwyf hefyd yn hoffi prynu ambell ddilledyn i mi fy hunan yn y siopau pan fyddaf yn cael fy nhalu - rydw i’n ei haeddu.”

Un o’n preswylwyr, Denise Edwards, yn sôn am ei stori ysbrydoledig sut gwnaeth hi oresgyn anawsterau i ddychwelyd i weithio.

“Mae’r cyfnodau anodd wedi fy newid er gwell”, meddai Denise, sy’n 48 oed, ac sy’n byw yn Hill Court, Wrecsam. Astudiodd Denise, sy’n fam i ddau o blant, ac sydd â nam ar y golwg, i ennill gradd mewn cyfiawnder troseddol a bu’n gweithio i’r gwasanaethau prawf.

Ond aeth ei bywyd i gyfeiriad trist. Cafodd Denise ei bwlio yn y gwaith, ac yn dilyn gwahanu oddi wrth ei gŵr, aeth i ddibynnu ar fodca i ddianc rhag ei phroblemau, a bu’n ddigartref. Cafodd plant Denise eu cymryd oddi arni ac fe’i cafodd ei hun yn ymladd tribiwnlys yn erbyn ei chyflogwyr.

“Dechreuais frwydro’n ôl,” meddai Denise, a aeth i fyw mewn hostel wedyn. “Dywedais wrth fy mhennaeth ‘Nid cymryd fy swydd yn unig rydych chi wedi ei wneud – rydych wedi difetha fy mywyd!’” Enillodd Denise ei thribiwnlys, a symudodd i Hill Court a chafodd ei phlant ddod yn ôl ati - ond mae’r profiad wedi effeithio’n ddwfn arni. “Doeddwn i ddim eisiau gadael fy nghartref am ddwy flynedd,” meddai. “Roeddwn wedi colli fy holl hyder ar ôl wythnos o gael fy nhynnu i ddarnau yn y tribiwnlys.”

Ar ôl amser, rhoddodd Denise drefn ar ei bywyd, stopiodd ei harfer o yfed a llwyddodd i gael gwaith gwirfoddol yn darparu cyngor ar linell gymorth cyffuriau ac alcohol a elwir yn CDFB. “Roedd gwirfoddoli yn gam mawr i mi, gan fy mod wedi dod yn fwy hyderus yn raddol. Arweiniodd y profiad gwaith ataf yn cael cynnig gwaith parhaol, “meddai Denise.

Helpodd Tracy Bevan, Swyddog Cefnogi Tenantiaeth, Denise i gwblhau’r gwaith papur sydd ei angen nawr ei bod hi yn ôl yn y gwaith. “Rwyf yn hoff iawn o Tracy,” meddai Denise. “Mae hi ac Annerley Brown, y Swyddog Rheoli Asedau, wedi bod yn wych - does dim byd byth yn ormod o drafferth iddyn nhw. Mae fy nghartref wedi cael ei addasu i’m helpu i symud o gwmpas

“Mae’n werth codi yn y bore erbyn hyn”

Tracy Bevan gyda Denise Edwards a Bliss

i’r Llys, cymryd rhan mewn gweithdai i ddysgu sgiliau fel trafod a chyflwyno, ac amser gyda gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol a roddodd awgrymiadau ar dechnegau cyfweld a llenwi ffurflenni cais. Ychwanegodd Toby: “Roedd cael cyfle i dreulio wythnos gyda chyfreithwyr yn Blake Morgan yn brofiad gwych, gan fy ngalluogi i feddwl o ddifrif am fy ngyrfa yn y dyfodol. Byddwn yn hoffi bod yn gyfreithiwr. Roedd yn hwyl mewn ffordd!”

Ychwanegodd Mererid McDaid, Cydymaith gyda Blake Morgan a’r un sy’n gyfrifol am gydlynu’r cynllun: “Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth â’n cleientiaid tai cymdeithasol i gynnig profiad gwaith ystyrlon i bobl ifanc 15-16 oed. Ers ei sefydlu, mae diddordeb yn y cynllun wedi tyfu, ac rydym wrth ein bodd bod Meithrin Uchelgeisiau yn darparu profiad diddorol ac ysgogol i bobl ifanc.”

Dywedodd Bridget Garrod, Rheolwr Mentrau Cymdogaeth WWH: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig y cyfle gwerth chweil hwn i Toby a’i fod wedi cael cymaint allan ohono. Rydym yn gobeithio gallu ailadrodd y cyfle hwn flwyddyn nesaf gyda’n preswylwyr ym Merthyr Tudful.”

‘Mam wnaeth fy narbwyllo i … a nawr mi fyddwn yn dweud wrth bawb am roi cynnig arno hefyd’

Nid oedd un o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Toby Lagos, yn rhy siŵr beth fyddai’n ei wneud ar wythnos o brofiad gwaith gyda chwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd pan glywodd gyntaf am y cyfle gan Swyddog Datblygu Cyfranogiad Cymunedol WWH, Alison Chaplin. “A bod yn onest, nid oeddwn yn rhy awyddus,” meddai Toby, sy’n 15 oed, ac sy’n byw yn Nhwyncarmel, Merthyr Tudful. “Ond mam wnaeth fy narbwyllo i. A nawr nid wy’n difaru o gwbl.”

Fe wnaeth Toby, o Dwyncarmel, sy’n astudio pynciau fel Hanes, Daearyddiaeth a Chyfrifiadureg ar lefel TGAU, dreulio wythnos gyda Blake Morgan yng Nghaerdydd fel rhan o’u rhaglen Meithrin Uchelgeisiau.

Nawr yn ei thrydedd flwyddyn, mae Meithrin Uchelgeisiau yn rhoi cyfle i bobl ifanc fel Toby, sydd wedi cael eu henwebu gan ddarparwyr tai cymdeithasol, i dreulio wythnos gyda Blake Morgan, gan ennill profiad gwaith hanfodol a’u helpu i wneud dewisiadau gwybodus am eu gyrfa yn y dyfodol.

Wedi’u mentora gan gyfreithwyr dan hyfforddiant, mae’r rhaglen yn cynnwys cyfle i dreulio ‘diwrnod ym mywyd’ cyfreithiwr, mynd

Gwaith. Sgiliau. Profiad

Page 17: In touch summer 2014 welsh

Byw’n wyrdd | intouch | www.wwha.co.uk | 3332| www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Gardd gymunedol Llaneirwg

Bu preswylwyr medrus yn yr ardd yn Buxton Court, y Rhyl, yn dathlu ennill gwobr Gwella’r Amgylchedd yng ngwobrau TPAS Cymru yn Llandudno yn ddiweddar.

Mae’r llwyddiant yn dilyn buddugoliaeth y preswylwyr yng nghategori Eco Bencampwr WWH fis Hydref diwethaf am eu gardd gymunedol.

Mae’r preswylwyr o’r Rhyl wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned drwy greu gardd gymunedol ffyniannus ar dir a fu unwaith yn batio diaddurn.

Rhoddwyd tir ar gyfer yr ardd gan WWH, adeiladwyd gwelyau wedi’u codi gyda chymorth Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, ac mae preswylwyr Buxton Court wedi dysgu gyda’i gilydd sut i godi arian i gefnogi eu prosiect gardd ffyniannus. Dan ofal Keith a Susan Owen, mae’r preswylwyr nawr yn tyfu llysiau a salad maethlon a ffres sy’n cael eu rhannu ymhlith y grŵp.

Dywedodd Susan Owen: “Rwy’n hynod o falch. Mae’r ardd wedi bod yn brofiad gwerth

Preswylwyr sy’n hoffigarddioyn ennill gwobr TPAS

chweil – fe gymerodd lawer o waith caled, ond fe wnaethom gyrraedd y lan yn y pen draw “.

Cytunodd ei gŵr, Keith: “Mae’n brosiect gwych i ddod â phawb at ei gilydd - mae gennym synnwyr cymunedol gwych yma.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West,: “Mae ein preswylwyr yn Buxton Court yn haeddu’r gydnabyddiaeth hon yn llwyr, gan eu bod wedi rhoi cymaint o ymdrech i greu gardd brydferth y gall yr holl gymuned ei mwynhau. Mae’r ardd nid yn unig yn darparu ymarfer corff iach ar eu cyfer, ond mae hefyd yn fan lle gallan nhw gymdeithasu.”

Enillwyr Gwobr Gwella’r Amgylchedd TPAS oedd Buxton Court

eraill, mae WWH hefyd wedi talu am lwybr mynediad gwastad a’i adeiladu, fel y gall preswylwyr mewn cadeiriau olwyn fwynhau’r ardd hefyd.

Mae’r grŵp bellach wedi tyfu amrywiaeth o gnydau a blodau gwyllt yn llwyddiannus, ac wedi gwneud basgedi crog diolch i’w sgiliau blodeuol.

Os ydych yn byw’n lleol ac os hoffech wirfoddoli yng Ngardd Gymunedol Llaneirwg, ymunwch â’r grŵp ar gyfer eu sesiwn arddwriaeth bob dydd Gwener, 1pm – 4pm.

Mae preswylwyr medrus yn yr ardd sy’n rhan o grŵp Pact Llaneirwg wedi gweld llwyddiant eu gardd gymunedol yn tyfu diolch i’w gwaith caled a’u hymroddiad.

Mae’r grŵp o wirfoddolwyr wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ardd, gan ddarparu eu hadau a’u planhigion eu hunain a hyd yn oed adeiladu blychau adar, yn ogystal â man eistedd a phwll i ddenu bywyd gwyllt.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae WWH wedi darparu cyllid i’r preswylwyr ddysgu sut i dyfu ffrwythau a llysiau, gyda dosbarthiadau garddwriaeth gan Isla Horton o Gymdeithas Marchnad Glan yr Afon. Ymhlith yr eitemau

Gardd yn mynd o nerth i nerth

Gwireddu breuddwydion IrenePan oedd un o breswylwyr y Waun, Irene Winn, sy’n 58 oed, eisiau tyfu llysiau a phlanhigion i eraill eu mwynhau yn y cynllun, fe wnaeth WWH, Cadwch Gymru’n Daclus a Best Companies ateb ei galwad am help.

Cysylltodd Irene â’r Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol, Vy Cochran, yn WWH, a alwodd yn ei thro ar Shane Hughes, Swyddog Prosiect Cadw Cymru’n Daclus, am gymorth. Dywedodd Irene: “Cyn i mi wybod, roedd Shane wedi llwyddo i gael chwech o wirfoddolwyr o Best Companies i’m helpu i greu gardd gymunol, ac mae fy mreuddwyd nawr yn dod yn wir.”

Gwirfoddolwyr gardd y Waun

Page 18: In touch summer 2014 welsh

Gwneud iddo ddigwydd | intouch | www.wwha.co.uk | 3534| www.wwha.co.uk | intouch | Byw’n wyrdd

Ein garddwrieuengaf eto!Dyma un o breswylwyr Langford Close, Alfie Williams, sy’n 2 oed, yn dangos nad ydych chi byth yn rhy ifanc i fwynhau garddio! Dyma Alfie’n gofalu am ei blanhigyn tomato.

Preswylwyr yn falch o’ugerddiFel y gwelwch o’r llun, mae Roy Bailey ac eraill sy’n byw yn Sydney Hall Court, Sir y Fflint, yn mwynhau eu gerddi cymunol - diolch i John “y Garddwr” Ellis, sy’n byw yn y cynllun. Dywedodd John, sy’n 64 oed: “Rwyf wedi mwynhau garddio erioed, ac yn hoffi bod yn weithgar a helpu pobl eraill. Rydym i gyd yn torchi ein llewys i dyfu planhigion a llysiau, a hoffwn ddiolch i Richard o’r Plough sy’n garedig iawn wedi rhoi mainc tafarn i’r cynllun.”

Preswylwyryn tyllu!Daeth preswylwyr Hanover Court, y Barri, at ei gilydd yn gynharach yn ystod yr haf i adeiladu eu gwely plannu uwch newydd. Mae gan y garddwyr brwd amrywiaeth o lysiau ffres yn tyfu nawr - o datws i fetys a ffa!

Garddwrmedrus StCatherine’s CourtRoedd Mr Emrys Phillips wedi mwynhau garddio erioed cyn dod i fyw yn St Catherine’s Court, Caerffili. Ar ôl cysylltu ag eraill yn y cynllun, penderfynodd wneud rhandir bychan i bawb ei fwynhau. Mae Emrys wedi tyfu amrywiaeth o gynnyrch erbyn hyn, ac mae’r preswylwyr hapus wedi ei ddisgrifio fel ‘bwyd blasus’.

galed - o fore tan nos ar adegau, ond rwyf wrth fy modd. Mae garddio mor therapiwtig ac wedi gwneud byd o les i mi.”

Dywedodd un o’i chyd-breswylwyr, David John Brigham: “Nid oeddwn yn gwybod dim am arddio cyn i ni ddechrau ar y prosiect hwn, ond rwyf wedi dysgu cymaint erbyn hyn. Rwyf wrth fy modd ac rwyf allan yn yr ardd am nifer o oriau bob dydd, yn chwynnu, dyfrio planhigion a gofalu am y pysgod.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWH: “Mae’r ardd gymunedol yn Oak Court yn un o nifer rydym wedi helpu ein preswylwyr i’w creu, ac edrychaf ymlaen at weld llawer mwy. O siarad gyda’r preswylwyr fan hyn, mae’n amlwg bod yr ardd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hapusrwydd a’u lles, sy’n beth braf i’w weld. Hoffwn longyfarch pawb sy’n gysylltiedig.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch cyllid sydd ar gael i grwpiau preswylwyr a gweithgareddau cymunedol, cysylltwch â Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr, ar 0800 052 2526.

Daeth preswylwyr Oak Court ym Mhenarth at ei gilydd i nodi agoriad eu gardd gymunedol yn ddiweddar.

Yn y digwyddiad, a noddwyd gan CJS Electrical a Gibson Specialist Technical Services, bu’r preswylwyr yn dathlu yn yr haul gyda bwffe, raffl, set DJ a chystadleuaeth het orau fel rhan o Ddiwrnod y Merched ar thema Ascot. Dros y 12 mis diwethaf, mae preswylwyr Oak Court wedi gweithio’n ddiflino i drawsnewid yr ardd. O ardal laswelltog foel dim ond flwyddyn yn ôl, mae’r ardd nawr yn blodeuo gyda blodau gwyllt, planhigion mewn potiau ac amrywiaeth enfawr o ffrwythau a llysiau. Mae’r nodweddion eraill yn cynnwys gardd addurnol a phatio addas i gadeiriau olwyn.

Yn ogystal â chodi dros £600 ar gyfer yr ardd eu hunain drwy rafflau, gwerthu teisennau a brecwastau mawr, mae’r garddwyr medrus o blith y preswylwyr wedi cael cymorth ar hyd y ffordd gydag arian gan Grant Gwneud iddo Ddigwydd WWH a Chronfa’r Amgylchedd, yn ogystal â chefnogaeth a chymorth gan staff WWH. Mae’r cyllid wedi darparu sied, tŷ gwydr a gwely wedi’i godi ymysg nwyddau garddio eraill. Yn ogystal, garddwyr Oak Court yw preswylwyr cyntaf WWH i arloesi gyda system acwaponeg newydd a chyffrous, unwaith eto diolch i gyllid a gafwyd gan WWH. Mae’r system arloesol yn ailgylchu dŵr o’u tanc pysgod yn ddŵr glân i fwydo eu planhigion sy’n tyfu, sydd, yn eu tro, yn glanhau’r dŵr ar gyfer y pysgod.

Dywedodd Sandra Thomas, un o breswylwyr Oak Court ac aelod o’r clwb garddio,: “Rydym mor falch o’r ardd - mae’n braf gweld pawb yn eistedd allan ar y patio gyda’u diodydd oer a’u hufen iâ, yn mwynhau’r tywydd. Rydym wedi gweithio mor

Gwneud iddi ddigwydd:

Oak CourtAnne Hinchey yn agor yr ardd gyda phreswylwyr Oak Court a’r rheolwr cynllun Sally Lewis

Page 19: In touch summer 2014 welsh

36| www.wwha.co.uk | intouch | Diwrnod ym mywyd

Diwrnod ym mywyd…Swyddog DatblyguMae Jodine Bishop, sy’n 35 oed, yn Swyddog Datblygu sy’n gweithio yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd.

Rwyf wrth fy modd yn gwneud y swydd hon - mae cymaint o amrywiaeth ac rwy’n cael ymwneud â llawer o bobl, o gontractwyr i breswylwyr. Mae’n her, ond dyna beth rydw i’n ei fwynhau. Yn ogystal, mae gen i gydweithwyr gwych ac rydym i gyd yn gweithio mor dda gyda’n gilydd - ni allwn ofyn am dîm gwell.

Rwyf wedi bod yn gweithio i Tai Wales & West ers 8 mlynedd erbyn hyn, ac wedi bod yn Swyddog Datblygu am ychydig dros flwyddyn. Mae’n rôl ddiddorol iawn, ac rwyf allan yn y maes yn aml yn ogystal ag yn y swyddfa. Rwy’n gyfrifol am ardaloedd Bro Morgannwg a Merthyr Tudful.

Yn gryno, mae’r rôl yn golygu fy mod yn rheoli a chydlynu prosiectau datblygu, cyn ac ar ôl contractau. Felly, mae hyn yn cynnwys rheoli prosiectau cartrefi newydd ar y safle, mynd i gyfarfodydd safle, trefnu diwrnodau gwylio a gweithio gydag ymgynghorwyr cynllunio ar geisiadau cynllunio. Mae’n rhaid i mi weithio’n agos gyda’r adrannau Tai a Gwasanaethau Eiddo yn WWH hefyd, gan roi gwybod iddyn nhw sut mae pethau’n mynd ar y safle. Mae llwyth i’w wneud bob amser, ac nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath!

Mae hi wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar gan fy mod i wedi bod yn gweithio i gael dau safle yn barod i’w cyflwyno am ganiatâd cynllunio ym Merthyr. Felly heddiw rydw i wedi bod allan i gwrdd â’r peirianwyr, ymgynghorydd cynllunio a phenseiri i wneud yn siŵr ein bod yn cael y cynlluniau’n barod erbyn ein dyddiad cau. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r adran Dai i drefnu ymgynghoriad â’r preswylwyr ym Merthyr yn ddiweddar, i ddangos i bobl leol y cynlluniau ar gyfer un o’n datblygiadau newydd. Mae’n bwysig i ni ein bod yn cysylltu â’r gymuned.

Y Swyddog Datblygu Jodine Bishop

Newyddion a safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 37

Gan Miss Wendy Prance, Pendyrys House yng Nghaerdydd.

Ar y 4ydd o Orffennaf, aeth grŵp o’n preswylwyr o Bendyrys House, Lord Pontypridd House a Western Court yng Nghaerdydd allan i’r tywydd cyfnewidiol ym Mannau Brycheiniog. Yma, mae Miss Wendy Prance o Bendyrys House yn dweud wrthym am eu hantur.

“Fe wnaethom fwynhau’r golygfeydd hyfryd ar y ffordd - mynyddoedd yn frith o ddefaid, a phan gyrhaeddom y ganolfan mynydd am ysbaid fer, roedd yr adar yn canu ac yn bwyta cnau o’r daliwr bwyd. Fe wnaethom anwybyddu’r glaw wrth i ni gael golwg o gwmpas y siop am anrhegion bach a’r ‘Bara Brith’ angenrheidiol iawn i fynd adref gyda ni.

“Aethom yn ein blaenau nes i ni gyrraedd basn Camlas Aberhonddu, lle’r oedd cwch dydd ‘Gwas y Neidr’ yn aros amdanom. Aethom ar y bwrdd, gyda’r rhan fwyaf ohonom wedi dod â phecyn bwyd gyda ni.

“Roedd y cwch yn teithio’n hamddenol ar hyd y gamlas, sy’n cofleidio’r mynydd uwchlaw dyffryn Wysg, ar gyflymder o tua 4 milltir yr

awr. Fe wnaethom fwynhau awr heddychlon ac ymlaciol yn sylwi ar goed a blodau hyfryd ar lan y gamlas, yn ogystal â gwahanol fathau o adar fel hwyaid a’r crëyr glas. Roedd tai atyniadol ar lan y gamlas mewn mannau, hefyd.

“Ymlwybrom yn hamddenol at loc camlas, lle’r oedd yn ddiddorol gweld ceidwad y lloc yn troi’r olwyn sy’n rheoli lefel y dŵr. Aethon ar hyd y draphont ddŵr sy’n cario’r gamlas dros afon Wysg, ac yna teithiom yn ôl ar hyd y ddyfrffordd200 mlwydd oed hon, a adeiladwyd cyn ffyrdd a rheilffyrdd, pan oedd ceffylau yn symud yn araf ar hyd y llwybr tynnu, gan lusgo cychod camlas oedd yn llawn deunyddiau diwydiannol.

“Cawsom ddiwrnod hyfryd a byddwn yn argymell y trip i unrhyw un ei fwynhau. Hoffem hefyd ddiolch i Reolwr Cynllun Pendyrys House, Ann White, am mor garedig yn trefnu fod pawb ohonom yn ei fwynhau.”

Am ragor o wybodaeth am Dragonfly Cruises, ffoniwch 07831 685222 neu [email protected]

Ar y Gamlas!

Preswylwyr yn mwynhau taith ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu

Page 20: In touch summer 2014 welsh

Newyddion a safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 39

Arwerthiant atig ynhelpu plant yn Kenya

38| www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a safbwyntiau

Ymweliad â’rParti Brenhinol yng NgarddPalas Buckingham ar gyfer y GroesGoch BrydeinigAeth Jason Baldwin, sy’n ugain mlwydd oed, ynghyd â’i fam, Mrs Susan Rothwell, o Ben-y-bont ar Ogwr i Lundain. Roedd Jason wedi cael ei wahodd yn sgil ei waith gwirfoddol i’r Groes Goch Brydeinig yn lleol. “Fe wnaethom fwynhau’r diwrnod yn fawr iawn a gweld y Tywysog Charles a’r Dywysoges Alexandra. Rwyf mor falch o Jason a’r hyn y mae wedi’i gyflawni, “meddai Mrs Rothwell.

Arwerthiant atig elusennol Sylvester Court

Gyda’r lle yn llawn cyffro, a’r preswylwyr yn barod am hwyl, dechreuodd y gemau am 4pm ar y 30ain o Orffennaf!

Cafodd preswylwyr, ffrindiau ac wyrion hwyl yn chwarae gemau fel cylchyn hwla, pêl-rwyd, pêl mewn cwpan, taflu bagiau ffa a chiciau o’r smotyn.

Roedd enillwyr y gemau egnïol iawn yn ennill Medalau Aur arbennig Oakmeadow! 8 oed oedd y cystadleuydd ieuengaf, Maise, a’r hynaf oedd Doris, yn 91 oed sionc.

“Roedd yn braf gweld preswylwyr newydd a theuluoedd yn ymuno yn y diwrnod hwyl. Roedd yn ddiwrnod gwych ac yn lle gwych i fyw, “meddai Pat Denning.

Oakmeadow Court yn cynnal ei fersiwnei hunan o Gemau’r Gymanwlad

“Roedd y gemau a’r tynnu coes yn dda, ac roedd yn dwyn fy nyddiau ysgol yn ôl i’m cof. Roedd y bwyd yn ardderchog - rwyf yn llongyfarch y trefnwyr yn fawr,” meddai Mary Hughes.

Dywedodd Phyllis Murray: “Am ddiwrnod cadarnhaol – fe wnaeth pawb fwynhau eu hunain, ac aeth pawb adref yn hapus iawn.”

“Roedd yn ddiwrnod gwych – cawsom gymaint o hwyl”, ychwanegodd Olive Bolwell.

“Mae’n galondid gweld y cenedlaethau yn dod at ei gilydd i fwynhau’r tywydd, cwmni eu cymdogion a’r bwyd gwych a ddarparwyd gan dair o’r preswylwyr, sef Mary, Jan a Viv. Roedd yn ddiwrnod gwych,” meddai Bill Ford, Rheolwr y Cynllun.

Daeth preswylwyr at ei gilydd yn Sylvester Court yn ddiweddar ar gyfer arwerthiant atig elusennol. Fe ddaethon nhw o hyd i bob math o eitemau i’w gwerthu - cymaint felly fel eu bod wedi llenwi eu hystafell gymunol yn gyfan gwbl yn y cynllun yn Hightown, Wrecsam.

Cafodd y cyfanswm ei rannu rhwng Sefydliad Breakthrough – sy’n darparu cefnogaeth i blant yn Kenya sydd wedi’u heffeithio gan HIV / AIDS a chronfeydd cysur Sylvester Court.

Page 21: In touch summer 2014 welsh

Newyddion a safbwyntiau | intouch | www.wwha.co.uk | 41

Plannwyd y pabi gan un o’r preswylwyr, Wendy Blewett. Roedd clwb y cywennod yn teimlo ei bod yn bwysig dangos i bawb nad oedden nhw wedi anghofio am ein Harwyr yn y rhyfel 100 mlynedd yn ôl.

Oldwell Courtyn cofio’r Rhyfel Byd 1af

Fe wnaeth Rolfe Mitchel un o breswylwyr Cwrt Anghorfa yn y Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr, anfon y gerdd deimladwy hon ynghylch dynion yn mynd i frwydro yn y Rhyfel Byd 1af

WHYWhy, when the grim accusing moustachioed finger pointed,Did they go from the idyll of this place twixt sheep capped hill and golden sands.

Leave the carbolic scented cwtching arms of wives and mothers,The wombs of chapel chaste sweethearts to bear the fruit of other men’s loins.

For their torn and shredded bodies to fertilise distant poppy red foreign fieldsFighting, the plotted wars of princely potentates and proselysing politicians

Who, carve forgotten fallen names in the cold stone of traffic islanded monumentsThat, when memories of those never aging faces have died with kith and kin,

Shall be paraded and dutifully remembered on sombre rain swept autumn Sundays.Why, when that call came, did they go, not stay.

40| www.wwha.co.uk | intouch | Newyddion a safbwyntiau

Decisions

Don’t know what to wear todayCan’t make up me mind

I look through the wardrobeTo see what I can find

Should I wear that low cut topI’ve got a necklace to match

“Oh no” the skirts a bit skimpyI’ll have to start from scratchI’ll try that bright red dress on

Oh! It’s a bit tight around the bellyI’ll have to cut back on chocolate

When I’m watching tellyThen I hear a shout

It’s me friend at the doorHurry up we’ll miss the busThe fifteen comes at four

Then I look through the windowOh! B….. hell it’s raining

I’ll get me mac and brollyAfter all I’m only going to Tesco’s

I must be off me trolley.

Margaret Toft, un o breswylwyr Tŷ Gwynn Jones, Abergele, gogledd Cymru.

Preswylwyr yn mwynhau teparti Ystad Goffa yn y Fflint“Cawsom brynhawn te parti gwych ddydd Iau 31 Awst, pan ddarparodd Amanda Doran ddetholiad hyfryd o gacennau i ni. Daeth nifer dda o bobl i’r digwyddiad. Hoffwn fynegi fy niolch ar ran pawb a oedd yn bresennol, a chanmol Mandy hefyd am ei holl ymdrechion. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr, “meddai Alison Moody, Rheolwr y Cynllun.

Taith Clwb y cywennodi Gaerffili“Roedd mynd am ginio i’r Red Kite yng Nghaerffili yn syniad gwych! Fe wnaeth dau ar bymtheg o glwb cywennod Oldwell Court fwynhau pryd o fwyd swmpus, ac roedd y bwyd yn hyfryd. Roedd y staff yn y Red Kite mor barod i helpu – fe ddaethon nhw â byrddau at ei gilydd ar ein cyfer, a gwneud eu gorau i sicrhau ein bod wedi mwynhau ein taith. Ni fydd yn hir cyn i ni alw draw yno eto, “meddai Sandy Houdmont, Rheolwr y Cynllun.

Clwb Cywennod Oldwell Court

Page 22: In touch summer 2014 welsh

42| www.wwha.co.uk | intouch | Pen-blwyddi a dathliadau

Pen-blwyddia dathliadau

Mae ei ffydd Gristnogol gref wedi ei helpu dros y blynyddoedd, ac yn y gorffennol roedd hi’n mynychu Capel Libanus ym Mlaenclydach. Ar ôl symud i Lys Nasareth ym Mhentre yn ystod 1919, mynychodd Jane ganolfan Byddin yr Iachawdwriaeth gerllaw.

Yn ogystal â bod yn rhan fawr o’r cynllun, mae gan Jane lawer o ffrindiau ac mae’n gwerthfawrogi’r cymorth a’r gefnogaeth a gafodd gan bob un ohonyn nhw.

Ar ôl llawer iawn o feddwl, dywedodd Jane mai cyfrinach ei hirhoedledd yw: “Edrych ar ôl fy hunan, gan fwyta’n iach bob amser a pheidio â bwyta sothach”

Uchod, o’r chwith i’r dde John Carpanini, Julie Jackson, Trevor Rees, Jane Evans oedd yn dathlu ei phen-blwydd, y Rheolwr Cynllun Pauline Gregory, Margaret Thomas a Sandra Williams.

Ar y 4ydd o Fedi dathlodd Mrs Jane Evans ei phen-blwydd yn 100 oed. Yn ferch o’r Rhondda, bu’n gweithio fel dynes ginio yn Ysgol Bodrinallt yn Ystrad lle’r oedd yn boblogaidd iawn gyda’r plant, er ei bod yn dweud ei bod yn llym iawn, ond roedd y plant yn eu tro yn ei pharchu ac yn ymddwyn yn dda.

Roedd Jane yn weddw yn ifanc, a dysgodd i fod yn annibynnol iawn.

Pen-blwydd arbennig iawn i ddynes arbennig iawn

Pen-blwyddi a dathliadau | intouch | www.wwha.co.uk | 43

Pen-blwydd hapus yn 99 oed, LilDathlodd Mrs Lilian Griffiths ei phen-blwydd yn 99 oed ar 22 Mehefin drwy gael parti, a drefnwyd ar ei chyfer gan breswylwyr Danymynydd yng Nghwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Lil ei geni ym Mhontycymer, ac roedd yn un o saith o blant - 2 o fechgyn a 5 o ferched. Roedd ei phlentyndod yn hapus iawn, er ei fod yn gyfnod anodd. Roedd bwyd da ar y bwrdd bob amser, a’r teulu hapus i gyd o’i gwmpas. Ar ôl gadael yr ysgol, aeth i helpu ei nain. Yna aeth i fyw mewn gwahanol rannau o Gwm Garw, gan gynnwys Llangeinor, cyn dychwelyd i Bontycymer lle bu ei brawd yn gweithio yn y pwll glo. Hyd yn oed ar ôl symud, roedd Lilian yn dal i seiclo at ei nain i’w helpu.

Mae hi’n cofio y byddai hi’n gweld yr holl lowyr yn mynd i weithio eu sifft ac yn dychwelyd adref ar y bysiau pan oedd hi’n mynd ar ei beic, ac roedden nhw’n arfer codi llaw arni ar ei beic. Priododd Albert a chafodd dau o blant, Alun a Linda.

“Mae Lil yn llawn atgofion a hanesion am amser maith yn ôl. Mae’n wraig anhygoel,” meddai Yvonne Humphreys, Rheolwr y Cynllun.

Merched euraid y mwynhaudathliadau cyfun

O’r chwith i’r dde: Joy, sy’n 85 oed heini, Christine, sy’n 70 oed heini a Wendy, sy’n 77 oed heini

Mae Wendy Mc Carthy a Christine Sargeant – dwy o breswylwyr Oldwell Court - a Joy Naden o Stonewell Court gerllaw yng Nghaerdydd i gyd yn aelodau o Glwb y Cywennod. Fe gawson nhw ddathliad pen-blwydd triphlyg yn ystod yr haf eleni, gan fod y tai wedi’u geni ar y 23ain o Fai.

Daeth eu rhoddion syrpreis yn y bore coffi wythnosol, lle cafodd y tair dusw o flodau a balŵn arbennig. Cafodd eu cacen pen-blwydd arbennig ar y cyd ei pharatoi gan ferch Wendy, Sarah. Mae’n amlwg eu bod nhw mwynhau eu diwrnod arbennig, a’u bod nhw wedi hoffi’r sylw. Pen-blwydd hapus, ferched euraid!

RoeddLilian Griffiths yn 99 oed sionc fis Mehefin eleni

Page 23: In touch summer 2014 welsh

��

Apêl y PwdinNadolig 2014

Spend an Evening withTerry Cobner, Clive Rowlands,Kingsley Jones, Clive Norling& John Perkins

Friday 24th October 2014The Parkway Hotel, CwmbranArrive at 6:30pm, Dinner at 7:30pmTickets: £35 per person.Dress Smart Casual

All proceeds to

Cwmbran Vale

Club

TERRYRICHARDSTRIBUTESPORTSDINNER

Yn cefnogi’r Gymdeithas

Apêl y PwdinNadolig 2014

www.rotaryxmaspuddings.co.uk/Cwmbran-Vale-Rotary-Club-The-Pudding-Club /XmasPuddings

�����

�� �� �

Bu Clwb Rotari Bro Cwmbrân yn gwerthu Pwdinau Nadolig ers nifer o flynyddoedd acmae’r holl elw yn mynd at ein dewis elusen. Rydym yn cefnogi’r Gymdeithas Strôc yn

2014, ar ôl codi dros £15,000 yn ddiweddar yn ymgyrch y llynedd.

Cefnogwch yr achos hwn drwy brynu cês o 12 pwdin

Dim ond

£10y pwdin, mewn

cesys o 12