13
GWLAD Tyfu Gweithluoedd drwy Ddysgu a Datblygu “Buddsoddi ynoch chi a’ch Gweithlu” Gwybodaeth am Fodiwlau

GWLAD Welsh Module Information

  • Upload
    gwlad

  • View
    227

  • Download
    4

Embed Size (px)

DESCRIPTION

A detailed description of each of the modules available through UWTSD's GWLAD Project.

Citation preview

Page 1: GWLAD Welsh Module Information

GWLADTyfu Gweithluoedd drwy Ddysgu a Datblygu

“Buddsoddi ynoch chi a’ch Gweithlu”

Gwybodaeth am Fodiwlau

Page 2: GWLAD Welsh Module Information

Mae GWLAD (Tyfu Gweithluoedd drwy Ddysgu a Datblygu) yn brosiect rhagweithiol, arloesol a chynaliadwy o ansawdd uchel sydd wedi cael ei gynllunio i ddiwallu anghenion datblygu gweithlu de orllewin a chanolbarth Cymru, yn benodol, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.

Arweinir GWLAD gan Athrofa Cymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith, athrofa arobryn sydd eisoes wedi cyflwyno pedwar prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn llwyddiannus fel partner cyflawni allweddol yn rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith Prifysgol De Cymru (Prifysgol Morgannwg gynt).

Mae’r rhaglen hyblyg hon yn rhaglen unigolaidd. Bydd GWLAD yn gweithio gyda mentrau i ddatblygu a theilwra cyrsiau fel ymateb i’w hanghenion sgiliau canolraddol ac uwch drwy achredu rhaglenni datblygu staff, dysgu profiadol a datblygu cynnwys penodol ar gyfer modiwlau er mwyn bodloni gofynion.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau sy’n galluogi dysgwyr i gronni credydau tuag at gymhwyster addysg uwch. Bydd y modiwlau’n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r dulliau canlynol: • Amser darlithio• Cefnogaeth tiwtoriaid • Asesu ac astudio dan eich arweiniad eich hun

Mae pob modiwl wedi’i gynllunio i annog dysgwyr i gyflwyno newid buddiol yn eu gweithle ac i adlewyrchu ar effaith y newidiadau hynny. Mae’r rhaglen hyblyg hon yn unigolaidd i bob cyfranogwr a menter. Yn ychwanegol at fodiwlau penodol, gall achredu rhaglenni datblygu staff a dysgu profiadol blaenorol gael eu cynnwys.

Page 3: GWLAD Welsh Module Information

Datblygu Sgiliau ArweinyddiaethCredydau: 30 Lefel: 4 / 7 Hyd - 4 diwrnod o sesiynau a addysgir

Cyflwyniad:

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar annog cyfranogwyr i astudio amrywiaeth o ddulliau, nodweddion ac ymddygiadau arwain gwahanol ar ffurf theori a’u rhoi ar waith yn ymarferol.

Bydd y meysydd canlynol yn cael sylw yn ystod y modiwl:

• Cyflwyniad i swyddogaethau arweinyddiaeth mewn sefydliadau, gan gynnwys astudio canfyddiadau ymchwil a’r effaith o ganlyniad ar y gweithle

• Ystod o ddamcaniaethau yng nghyd-destun ffurfiau ac arddulliau arwain, a’u goblygiadau i arweinyddiaeth effeithiol yn y gweithle

• Agweddau amrywiol ar ddiwylliant sefydliadol yng nghyd-destun arweinyddiaeth ac astudio sut mae ystyriaethau moesegol yn effeithio ar rôl yr arweinydd.

Ar gyfer pwy?

Mae’r cwrs hwn yn addas iawn ar gyfer y rhai sydd mewn swydd reoli neu arwain yn eu sefydliad, yn ogystal â’r rhai sydd eisiau dod yn rheolwyr neu’n arweinwyr yn y dyfodol. Manteision:

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ffocws cryf ar y cyswllt rhwng datblygu sgiliau arwain a’u rhoi ar waith yn ymarferol ac amcanion a nodau cyffredinol y sefydliad, a sicrhau bod cyflogeion yn deall sut mae eu hamcanion personol yn cyd-fynd â’r strategaeth fusnes gyffredinol. Bydd y dysgwyr yn datblygu’r sgiliau canlynol:

• Gwerthuso arweinyddiaeth effeithiol yn y gweithle • Adlewyrchu a datblygu eu harddulliau a’u hymddygiad arwain eu hunain • Defnyddio eu dysgu yn amgylchedd ymarferol y gweithle er mwyn hwyluso gwell perfformiad

Asesu:

Bydd yn ofynnol i’r dysgwyr gwblhau aseiniad ysgrifenedig yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o ddatblygu sgiliau arwain yn y gweithle.

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 4: GWLAD Welsh Module Information

Adnoddau Dynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol nad ydynt yn Staff Adnoddau Dynol

Credydau: 30 Lefel: 4 Hyd - 3 diwrnod o sesiynau a addysgir

Cyflwyniad:

Mae niferoedd cynyddol o sefydliadau’n datganoli cyfrifoldebau rheoli Adnoddau Dynol, fel recriwtio, rheoli perfformiad, disgyblu a chwynion i reolwyr llinell.

Bydd y meysydd canlynol yn cael sylw yn ystod y modiwl:

• Swyddogaethau a gweithgareddau AD sylfaenol, gan gynnwys cyflogaeth, deddfwriaeth ac arferion da cyffredinol

• Rôl rheolwyr llinell mewn gweithredu prosesau AD • Cryfderau personol a meysydd i’w datblygu’n gysylltiedig â’r swyddogaeth AD• Gweithgareddau recriwtio a dewis, gan gynnwys polisïau, prosesau a disgrifiadau swyddi, yn ogystal â’r

amrywiaeth o ddulliau o gynnal cyfweliadau recriwtio • Rheoli perfformiad, gan gynnwys manteision system sy’n addas i bwrpas ar gyfer eich sefydliad eich hun• Sefyllfaoedd disgyblu a chwynion drwy ddeall sut gall cadw at weithdrefnau cam wrth gam helpu gydag

arwain at ganlyniad teg a diogel

Ar gyfer pwy?

Pob cyflogai sydd eisiau dealltwriaeth lawnach o’r swyddogaeth AD, yn enwedig y rhai sy’n rheoli eraill.

Manteision:

• Dylai’r modiwl hwn arwain at well perfformiad i’ch sefydliad, a helpu i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth

• Bydd hefyd yn datblygu dealltwriaeth lawnach o’r swyddogaeth AD a’r elfennau amrywiol sy’n rhan o’i gweithredu’n llwyddiannus, gan eu perthnasu i’ch anghenion sefydliadol chi eich hun

• Defnyddio eu dysgu yn amgylchedd ymarferol y gweithle er mwyn hwyluso gwell perfformiad

Asesu:

Aseiniadau ysgrifenedig sy’n cadarnhau’r wybodaeth am swyddogaethau AD a’r ddealltwriaeth ohonynt, ac yn adolygu prosesau sefydliad y dysgwyr yn erbyn arferion gorau, gyda’r nod o wella.

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 5: GWLAD Welsh Module Information

Cyflwyniad i Farchnata

Credydau: 30 Lefel: 4 Hyd – 3 diwrnod o sesiynau a addysgir

Cyflwyniad:

Pwrpas y modiwl hwn yw meithrin dealltwriaeth sylfaenol y dysgwyr o’r theori a’r cysyniadau sy’n sail i farchnata a rhoi gwybodaeth iddynt am egwyddorion ac arferion marchnata.

Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

• Y farchnad defnyddwyr a’r ffactorau mawr sy’n dylanwadu ar ymddygiad prynu defnyddwyr; • Y prif ffactorau amgylcheddol sy’n penderfynu ar farchnadoedd a marchnata;• Y camau yn y broses ymchwil marchnata; • Datblygu cymysgedd marchnata sefydliad; • Sail strategaeth farchnata sefydliad; • Yr adnoddau a’r technegau a ddefnyddir wrth gynnal ymchwil marchnad.

Ar gyfer pwy?

Unigolion sydd eisiau gwella a datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau marchnata

Manteision:

• Gellir plethu hyn yn rhwydd yn niwylliant y sefydliad er mwyn gwella’r strategaeth farchnata • Gwella perfformiad y cyflogeion sy’n ymwneud â marchnata

Asesu:

Adroddiad ysgrifenedig yn seiliedig ar adolygiad o sefydliad rydych yn gyfarwydd ag ef, gan nodi ac amlinellu egwyddorion marchnata ar waith.

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 6: GWLAD Welsh Module Information

Rheoli Timau Credydau: 30 Lefel: 4 / 5 Hyd - 3 diwrnod o sesiynau a addysgir Cyflwyniad:

Pwrpas y modiwl Rheoli Timau hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r adnoddau y mae arnoch eu hangen i chi, i wella eich sgiliau yn eich gweithle. Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd gennych ddealltwriaeth eang o wahanol ddulliau theori ac ymarferol o reoli tîm, a byddwch wedi ystyried eich rôl a’ch cyfrifoldebau chi eich hun, a’ch arddulliau a’ch dulliau gweithredu.

Dyma ffocws y modiwl hwn:

• Sefydlu beth sy’n gwneud tîm effeithiol • Gwaith tîm, swyddogaethau a chyfrifoldebau tîm• Rheoli perfformiad unigolion a thimau • Damcaniaethau ym maes timau sy’n perfformio ar lefel uchel, cymhelliant a rheoli perfformiad• Delio â gwrthdaro mewn sefydliadau• Sgiliau cyfathrebu

Ar gyfer pwy?

Mae’r cwrs hwn yn addas iawn ar gyfer y rhai sydd mewn swydd reoli neu arwain yn eu sefydliad, yn ogystal â’r rhai sydd eisiau dod yn rheolwyr neu’n arweinwyr yn y dyfodol. Manteision:

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau arwain a’u rhoi ar waith yn ymarferol. Mae ganddo gyswllt cryf ag amcanion a nodau cyffredinol y sefydliad a sicrhau bod cyflogeion yn deall sut mae eu hamcanion personol yn cyd-fynd â’r strategaeth fusnes gyffredinol.

Bydd y dysgwyr yn:

• Deall pwysigrwydd gwaith tîm effeithiol a rheoli timau’n effeithiol • Gwella eu perfformiad eu hunain a pherfformiad y tîm • Defnyddio eu dysgu yn amgylchedd ymarferol y gweithle er mwyn hwyluso gwell perfformiad, gwell

ansawdd a chynhyrchiant, defnydd mwy effeithiol o adnoddau • Bydd y dysgwyr yn gwerthuso eu harddulliau a’u hymddygiad rheoli eu hunain, a pherfformiad eu tîm eu

hunain, gyda’r nod o ddatgan gwelliannau

Asesu:

Aseiniad ysgrifenedig yn seiliedig ar adolygu perfformiad y tîm a nodi meysydd ar gyfer gwella

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 7: GWLAD Welsh Module Information

Mentora a Hyfforddi yn y gweithle

Credydau: 30 Lefel: 4 / 5 / 6 / 7 Hyd - 3 diwrnod o sesiynau a addysgir

Cyflwyniad:

Mae ein modiwl Mentora a Hyfforddi yn y Gweithle’n rhoi i ddysgwyr y wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i hyfforddi a mentora’n effeithiol, gan greu dull mwy hyblyg o roi sylw i ofynion cyflym y gweithle heddiw.

Erbyn diwedd y modiwl hwn, bydd y dysgwyr wedi dangos gwybodaeth am egwyddorion hyfforddiant a mentora seiliedig ar waith effeithiol, a dealltwriaeth ohonynt. Hefyd byddant yn:

• Deall theori hyfforddi ac egwyddorion cadarn arferion hyfforddi • Gwybod sut mae pobl yn dysgu a’r materion allweddol sy’n gysylltiedig â hyfforddi yn y gweithle • Deall modelau, arddulliau, adnoddau a thechnegau hyfforddi • Dysgu beth yw manteision hyfforddi a mentora i’r sefydliad a’r unigolion • Adlewyrchu ar eu perfformiad eu hunain a llunio cynllun datblygu

Ar gyfer pwy?

Mae’r modiwl hwn yn berthnasol i unrhyw aelod profiadol o’r sefydliad, yn enwedig y rhai sy’n mentora neu’n hyfforddi eraill yn anffurfiol ar hyn o bryd a/neu a fyddai’n hoffi rhoi’r broses hon ar waith yn eu sefydliad.

Manteision:

• Gall hyfforddi a mentora roi hwb i fusnes drwy ddatblygu’r staff presennol a denu talent newydd • Gellir plethu hyn yn rhwydd yn niwylliant y sefydliad i wella’r cyfathrebu, y perfformiad a’r cadw a gall

gefnogi’r dysgu yn y gwaith a rheoli newid • Gwella perfformiad eu cyflogeion

Asesu:

• Portffolio o dystiolaeth o weithgarwch hyfforddi effeithiol • Sesiwn hyfforddi a arsylwir • Traethawd yn adlewyrchu ar eich perfformiad hyfforddi yn y gweithle, y meysydd i’w gwella a chynllun

datblygu personol

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 8: GWLAD Welsh Module Information

Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Gweithle

Credydau: 30 Lefel: 4 / 7 Hyd – 3 diwrnod o sesiynau a addysgir

Cyflwyniad:

Mae’r modiwl hwn yn defnyddio’r ymchwil cysylltiedig â’r cyrsiau Lleddfu Straen yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar a Therapi Gwybyddol yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, ochr yn ochr ag arferion ymwybyddiaeth ofalgar allweddol, ac yn gofyn i’r myfyriwr ystyried y rhain mewn perthynas â’i weithle ei hun.

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys:

• Cyflwyniad i ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys astudio canfyddiadau ymchwil a’r effaith o ganlyniad ar y gweithle, gan gynnal arferion ymwybyddiaeth ofalgar byrion hefyd

• Astudio sut gall dull o weithredu sy’n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar helpu i wella materion problemus yn eich gweithle

• Astudio’r ymchwil cysylltiedig â sut mae arferion ymwybyddiaeth ofalgar yn effeithio ar y rhannau o’n hymennydd sy’n gysylltiedig ag empathi, ac ystyried sut gall hyn fod yn fuddiol mewn sefyllfa waith

• Datblygu lefel o ymarfer personol a fydd yn fwy effeithiol ar gyfer bywyd bob dydd

Ar gyfer pwy?

Byddai’r modiwl hwn yn fuddiol i bob cyflogai mewn unrhyw sefydliad

Manteision:

Mae sicrhau’r ymwybyddiaeth ofalgar estynedig yma’n canolbwyntio’r meddwl ar y dasg mewn llaw sydd, yn ei dro, yn: • Cynyddu cynhyrchiant • Gwella hunanymwybyddiaeth a hunanreoleiddio • Lleddfu straen

Asesu:

Mae’r asesu mewn dwy ran:

Aseiniadau ysgrifenedig yn seiliedig ar ymchwil llenyddiaeth ac adlewyrchu beirniadol ar eu harferion eu hunain. Ar sail y modiwl hwn, mae’r dysgwyr yn gallu creu cysylltiadau â’u gweithle eu hunain ac ystyried unrhyw fanteision neu anfanteision mewn perthynas â’u perfformiad eu hunain ac unrhyw fanteision sefydliadol.

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 30 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 9: GWLAD Welsh Module Information

Cydnabod ac Achredu Dysgu (CAD) Credydau: 15 a mwy o gredydau’n cael eu dyfarnu am ddangos tystiolaeth o ddysgu blaenorol Lefel: 4 / 5 / 6 / 7 Hyd – hyd at 12 mis (ôl-raddedig), hyd at 18 mis (israddedig)

Cyflwyniad:

Pwrpas y modiwl hwn yw galluogi i chi hawlio credydau academaidd am ddysgu profiadol neu ardystiedig blaenorol. Erbyn diwedd y modiwl hwn, byddwch wedi nodi’r dysgu rydych wedi’i wneud yn eich gweithle ac wedi casglu portffolio o dystiolaeth sy’n galluogi i chi hawlio hyd at ddwy ran o dair o gymhwyster ar gyfer y dysgu hwnnw. Bydd lefel a nifer y credydau y gallwch eu hawlio’n dibynnu ar eich profiad a’ch rôl. Efallai y bydd y modiwl hwn yn rhan o gymhwyster cyffredinol mewn Ymarfer Proffesiynol (Tystysgrif Addysg Uwch, Gradd Sylfaen, BA neu Feistr)

Ar gyfer pwy?

Pob cyflogai

Manteision:

• Cydnabod ac achredu am ddysgu blaenorol • Adlewyrchu ar sgiliau a phrofiad i adeiladu ar ddatblygiadau yn y dyfodol• Ystyried sut gellir gweithredu newid yn y gweithle

Asesu:

Traethawd adlewyrchol

Portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys:

• CV gyda nodiadau sy’n disgrifio eich gweithgareddau seiliedig ar waith • Disgrifiad swydd gyda nodiadau • Portffolio o brofiad dysgu a ategir gan dystiolaeth

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Gallwch hawlio hyd at ddwy ran o dair o ddyfarniad llawn mewn Ymarfer Proffesiynol drwy’r modiwl hwn.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 10: GWLAD Welsh Module Information

Dulliau Ymchwil ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith

Cyflwyniad:

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio er mwyn creu ymwybyddiaeth o’r meysydd allweddol i’w hystyried wrth gynnal ymchwil mewn sefyllfaoedd seiliedig ar waith. Bydd cefndir ac iaith yr ymchwil yn cael eu hastudio, a hefyd y dulliau mwyaf priodol i’w defnyddio ar gyfer ymchwiliadau penodol.

Ar gyfer pwy?

Pob cyflogai sy’n ymwneud ag ymchwil, nawr ac yn y dyfodol (a dadansoddiad).

Manteision:

Datblygir sgiliau ymchwilio, dadansoddi, gwerthuso a chrynhoi drwy gydol y modiwl hwn.

• Dealltwriaeth o’r broses ymchwil ac ystod o ddulliau ymchwil • Gwerthfawrogiad o sut gall prosesau ymchwil fod o fudd i’r gweithiwr proffesiynol a’r gweithle. • Mae’r modiwl hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau gwerthuso ac ysgrifenedig

Asesu:

Mae’r asesu’n seiliedig ar bortffolio o 2 adroddiad, sy’n cynnwys y canlynol: • Adroddiad byr i esbonio sut gallai ymchwil fod yn bersonol ac yn broffesiynol berthnasol.• Gwerthusiad beirniadol o ddulliau posib o weithredu gyda methodoleg, strategaethau ymchwil a

thechnegau ymchwil seiliedig ar waith.

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 15 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach os ydych yn dymuno. Mae’r modiwl ar gael ar lefelau 4, 5, 6 a 7 a bydd yn cynnwys 1 diwrnod hyfforddi y mis.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 11: GWLAD Welsh Module Information

Cynllun Dysgu Seiliedig ar Waith

Credydau: 15 Lefel: 4 / 5 / 6 / 7 Hyd – 1 diwrnod, sesiwn a addysgir

Cyflwyniad:

Bydd y cynllun dysgu’n nodi’r hyn mae’r dysgwr wedi’i ddysgu eisoes ac yn cefnogi cydnabod y dysgu sydd ei angen mewn perthynas â’i waith. Os yw hynny’n briodol, bydd y cynllun hefyd yn dangos a oes posib gwneud hawliad am gredyd am ddysgu profiadol a wnaed.

Ar gyfer pwy?

Pob cyflogai

Manteision:

• Adlewyrchu ar y dysgu a’r profiad hyd yma • Creu cynllun datblygu personol ar gyfer y dyfodol

Asesu:

• CV a Disgrifiad swydd • Dadansoddiad Tystiolaeth o Anghenion Hyfforddi • Adolygiad adlewyrchu • Cynllun Datblygu Personol a fydd yn datgan eich anghenion hyfforddi a datblygu

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 15 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 12: GWLAD Welsh Module Information

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith

Credydau: 30/45/60 Lefel: 7

Cyflwyniad:

Mae’r modiwl hwn yn fodiwl gorfodol os ydych chi’n dymuno cwblhau cymhwyster Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol. Bydd hyn yn cynnwys cynnig ysgrifenedig a lunnir gan y dysgwr gan ymgynghori â thiwtoriaid a’u gweithle. Rhaid ystyried materion moesegol yn y cynnig hwn o ran y prosiect ei hun, ei fethodoleg a’r gweithredu arfaethedig ar y prosiect.

Ar gyfer pwy?

Pob cyflogai sy’n ymgymryd â gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol

Manteision:

Prosiect wedi’i ymchwilio’n dda a fydd o fudd uniongyrchol i’ch sefydliad

Asesu:

• Mae’r asesiad yn seiliedig ar y canlynol: • Portffolio 100% • Cynnig y prosiect (10%) • Astudiaeth gweithle (70%) • Cyflwyniad o ganlyniadau’r prosiect (20%)

Rhagor o wybodaeth:

• Mae’n bwysig nodi y byddwch yn cael cefnogaeth gan diwtor penodol yn ystod eich cyfnod astudio. • Ar ôl i chi gwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, byddwch yn ennill 15 credyd y gallwch eu rhoi tuag at

astudiaethau pellach.

Cyllid

Cefnogir y modiwl gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. I gael manylion am gymhorthdal ariannol, cysylltwch â [email protected]

Page 13: GWLAD Welsh Module Information

Cysylltu â Ni

Kelly Morris 01267 225170

[email protected]

Rhianydd Herdman 01267 225168

[email protected]

[email protected]