Upload
mark-stillman
View
224
Download
6
Embed Size (px)
DESCRIPTION
At 11 am on Monday the 4th August 1914 war was declared against Germany by the British Government. The day before 50,000 people enjoyed Bank Holiday on Barry Island. VCVS seeks to acknowledge the Merchant Seaman who were part of Barry, at least 259 of whom died before War ended in 1918. They were from 14 to 66 years of age.
Citation preview
CANOLFAN
GWASANAETHAU
GWIRFORDDOL
Y FRO
Y BARRI RHYFEL BYD CYNTAF
Y Barri: WW1 Yn 1881 roedd gan y Barri 484 o drigolion ond agorodd Dociau’r Barri yn 1886 ac erbyn 1901 roedd y boblogaeth yn 27,000, wedi’i chyfyngu’n unig gan gyflymder codi tai. Nid oedd y mwyafrif o’r rhain o Gymru, roeddynt o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r byd. Yn 1901 nid pentref oedd y Barri dim mwyach, a ganed Tref y Barri ynghyd â’i chenhedlaeth gyntaf o blant a oedd yn Gymry. Roedd eu rhieni’n hanu o bob cwr o’r byd ond nhw yw’r genhedlaeth a greodd y Barri sy’n bodoli heddiw, ac ni waeth beth yw eu hil, eu ffydd na’u tarddiad, maent yn Gymry, ac mae eu plant yn dysgu Cymraeg yn ysgolion y Barri. Ymysg y genhedlaeth newydd hon o Gymry’r Barri y mae’r merched a ddaeth yn wragedd a’r bechgyn a aeth i’r Rhyfel, llawer ohonynt heb ddychwelyd. Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y Masnachlongwr.
Gwarth
Rhyfel
Ymysg gwarth y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y
penderfyniad a wnaeth Uwch Reolaeth yr Almaen
fod llongau teithwyr yn dargedau dilys. Serch hynny,
gwarth llawer mwy oedd targedu llongau Ysbyty gan
y llynges danfor.
Teulu a’r
llynges
fasnachol
Mae hanes y teulu hwn yn dangos gymaint a roddodd
Cymry newydd y Barri i’w gwlad.
14 i 66
mlwydd
oed
Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y
Masnachlongwr, roedd dynion ieuengaf a hynaf y
Barri a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf o’r Llynges
Fasnachol.
SS Ribstone
Suddwyd gan long danfor. 66 milltir i’r gorllewin o
Ynys Eusa. Collwyd 25 o fywydau
16/7/1917
Roedd eu rhieni’n hanu o bob cwr o’r byd
Frederick Bubbins
GWARTH RHYFEL
Ymysg gwarth y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y penderfyniad a wnaeth Uwch Reolaeth yr Almaen fod llongau teithwyr yn dargedau dilys. Tynnodd hyn yr UDA i’r rhyfel pan suddwyd y Lusitania. Serch hynny, gwarth llawer mwy oedd targedu llongau Ysbyty gan y llynges danfor. Un o’r llongau hyn oedd y Glenart Castle a suddwyd 10 milltir i’r Gorllewin o Ynys Wair, ni roddwyd rhybudd o gwbl ac nid oedd y llong wedi’i harfogi i amddiffyn ei hun. Bu farw 162, gan gynnwys J Kennie o’r Barri. Canfuwyd tystiolaeth y gallai’r llong danfor fod wedi saethu at oroeswyr cychwynnol y suddo mewn ymdrech i guddio suddo’r Glenart Castle. Tynnwyd corff un o swyddogion iau’r Glenart Castle o’r dw r yn agos i leoliad y suddo. Roedd dau glwyf saethu ar y corff, y naill yn y gwddf a’r llall ar y glun. Roedd gan y corff hefyd siaced achub sy’n dynodi y cafodd ei saethu tra’r oedd yn y dw r. Cafodd Kapitanleutnant Wilhelm Kiesewetter – comander UC-56 – ei arestio ar o l y rhyfel ar ei daith yn o l i’r Almaen a’i gadw yn Nhw r Llundain. Cafodd ei ryddhau ar y sail nad oedd gan Brydain hawl i gadw carcharorion yn ystod y cadoediad.
TEULU A’R LLYNGES FASNACHOL.
Roedd gan Samuel Bubbins o Swydd Gaerhirfryn ddwy wraig (Mary Ann Jones ac Eliza Ann Heaven) a 7 o blant a aned i gyd yn y Barri. Mae hanes y teulu hwn yn dangos gymaint a roddodd Cymry newydd y Barri i’w gwlad. Bu farw dau fab ieuengaf Mary Ann yn 15 (Albert) ac 16 mlwydd oed (Samuel) ar longau a suddwyd gan longau tanfor.
Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y Masnachlongwr,
roedd dynion ieuengaf a hynaf y Barri a fu farw yn y Rhyfel Byd
Cyntaf o’r Llynges Fasnachol. 14 i 66 mlwydd oed. Doedd
ganddynt ddim pensiwn, roedd eu cyflog yn dod i ben pan
fyddai’r llong yn suddo (hyd yn oed pe baent yn goroesi) a doedd
dim iawndal i’w teuluoedd. Roedd y dynion dosbarth gweithiol
hyn mor bwysig fe gyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth yn
eu hatal rhag ymuno a ’r Fyddin, a ategwyd gan gerdyn adnabod
unigol gyda llun ohonynt arno.
William
BARTLETT
(20)
B. COLSON
(49)
Charles
WILSON
(24)
Zania
COUTSOUD
IS
John Owen
VINCENT
(28)
Charles
CROWDEN
(23)
George
LIXTON
(19)
Joseph
KAYS (32)
Benjamin
Charles
EVANS
George
Manselk
DURBIN
John
KONCHERSIS
(58)
Francis
KEMP (28)
George
TAYLOR
(21)
SS RIBSTON
Suddwyd gan long
danfor. 66 milltir i’r
gorllewin o Ynys
Eusa. Collwyd 25 o
fywydau.16/7/1917
Y Barri WW1 Roedd eu rhieni’n hanu o bob cwr o’r byd