41
Hyrwyddo hygrededd Marchnata a Chyfleu eich Rhinweddau Gwyrdd

Keep It Real Welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Keep It Real Welsh

Citation preview

Page 1: Keep It Real Welsh

Hyrwyddo hygrededdMarchnata a Chyfleu eich Rhinweddau Gwyrdd

Page 2: Keep It Real Welsh

2 Hyrwyddo hygrededd2

Beth yw ystyr hyrwyddo hygrededd?

Os ydych eisoes yn gweithio’n galed i fod yn fwy cynaliadwy, mae’n bryd canfod sut i roi gwybod i’ch cwsmeriaid – a’i fwynhau.

Mae hyrwyddo hygrededd yn golygu cydnabod bod hygrededd a dilysrwydd yn gwneud gwyliau eich cwsmeriaid yn fwy o hwyl ac yn gwneud eu teithiau busnes yn fwy pleserus.

Mae cwmnïau ledled Cymru yn newid i fod yn fwy cynaliadwy – ond maent yn rhy swil i ddweud wrth eu cwsmeriaid rhag ofn ei fod yn amherthnasol neu rhag ofn y cânt eu camddeall. Mae rhai hyd yn oed wedi ennill gwobrau ac ardystiadau ond maent yn dal i gael anhawster gwybod sut y gellir defnyddio hyn i gael y budd mwyaf.

Mae pum pennod yn eich helpu i wneud penderfyniadau ymarferol:

Wrth bwy y dylwn i ddweud? A yw’n bwysig i gwsmeriaid mewn gwirionedd? Ai dim ond i leiafrif y mae’n bwysig?

Pam ddylwn i sôn am y peth? A allaf gael mwy o gwsmeriaid? Sut y gallaf eu hannog i gyfrannu at fy ymdrechion, yn hytrach na’u tanseilio?

Beth ddylwn i ei ddweud? A ddylwn i ddweud yn blwmp ac yn blaen fy mod i’n gynaliadwy? Onid pregethu yw hynny?

Ym mhle dylwn i ddweud? A ddylwn i gael fy ardystio neu ymgeisio am wobrau? Siarad am gynaliadwyedd ar fy ngwefan, neu drwy gyfryngau cymdeithasol?

Pryd ddylwn i ddweud? A allaf ddweud wrth gwsmeriaid cyn iddynt gyrraedd neu dim ond pan fyddant yma?

Gallwch gael cyngor ar sut i farchnata eich rhinweddau gwyrdd a hyder i wneud hynny, drwy ddeall wrth bwy rydych yn dweud, at ba ddiben a thrwy ba sianeli, ac yn bwysicach oll drwy wybod bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn werth ei frolio.

Defnyddiwch y templed ar ddiwedd y llyfryn hwn i baratoi eich cynllun gweithredu cyfathrebu a marchnata gwyrdd, un cam ar y tro. Ar gyfer pob marchnad, dewiswch un rheswm, un neges, un sianel ac un adeg i ddweud wrthi.

Page 3: Keep It Real Welsh

Hyrwyddo hygrededd 3

Ar gyfer pwy mae’r llyfryn hwn?

Mae ar gyfer pob cwmni sy’n ymddwyn yn gynaliadwy am mai dyna’r peth cywir i’w wneud, ond sydd wedi cael anhawster gwybod sut i droi hynny’n fantais fasnachol. Mae ar gyfer y rheini sy’n gofyn iddynt eu hunain – sut gwnaeth Hafan y Môr hynny?

Yn cyflwyno: Hafan y Môr (rhan o Bourne Leisure Group), sef parc gwyliau 250 erw yng Ngwynedd, sydd â thros 800 o garafannau. Rydym wedi bod yn gweithredu’n gynaliadwy ers 10 mlynedd, ond am y pum mlynedd cyntaf nid oedd gennym gefnogaeth cwsmeriaid ac nid oeddent yn deall, felly gwnaethom newid ein ffordd o weithredu.

Beth a wnawn: Gwnaethom ddechrau cyfathrebu â chwsmeriaid drwy eu hannog i gyfrannu mwy at ein taith tuag at gynaliadwyedd. Rydym bellach yn gofyn iddynt am adborth ar brosiectau penodol ac yn gofyn iddynt roi sylwadau ar ffurflenni adborth fel y gallwn wneud newidiadau sy’n gwneud synnwyr iddynt.

Mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol iawn. Drwy newid o ddefnyddio biniau

ailgylchu cyffredinol mawr ar gyfer carafannau – daeth i’r amlwg nad oedd llawer o gwsmeriaid yn hoffi’r rhain – i gynnig biniau unigol ar gais, caiff mwy o wastraff ei ailgylchu bellach. Rydym hefyd wedi cyflwyno llwybrau natur y gellir eu dilyn yn annibynnol ac mae’n well gan y cwsmeriaid y rhain na’r teithiau cerdded wythnosol a drefnir gan eu bod yn fwy hyblyg. Mae dros 30 o deuluoedd yr wythnos yn defnyddio’r llwybrau erbyn hyn, llawer mwy nag oedd yn eu defnyddio yn flaenorol.

Drwy newid ein dull o weithredu rydym bellach yn cael llawer mwy o gefnogaeth a syniadau gwych ar gyfer gwelliannau.

Ein cyngor craff: Os ydych yn poeni nad oes gan eich cwsmeriaid ddiddordeb yn eich rhinweddau gwyrdd, ceisiwch eu cynnwys mewn ffordd sy’n golygu rhywbeth iddynt. Cewch eich synnu gan y canlyniadau. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys llawer o gynghorion perthnasol ar sut y gallwch wneud hyn a chyfleu’r hyn rydych yn ei wneud mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i’ch cwsmeriaid.

Astudiaethau achos go iawn

Page 4: Keep It Real Welsh

4 Keep it realHyrwyddo hygrededd4

Wrth bwy y dylwn i ddweud?

Pwy fydd yn gwerthfawrogi gwybod eich bod yn gweithio i fod yn gynaliadwy ac yn foesegol?

Page 5: Keep It Real Welsh

Who do I tell?

5 Keep it real

a sut y gallant gael profiad gwell yn sgîl hynny.

Mae llawer o arwyddion bod defnyddwyr yn newid. Mae’r ymwybyddiaeth a’r pryder cynyddol am iechyd y ddaear ym mhob man – ond mae’r problemau yn rhy fawr a chymhleth, mae gormod o faterion, ac rydym oll wedi clywed gormod o negeseuon croes. Nid yw’n syndod bod cwsmeriaid yn ei chael yn anodd gwybod beth i’w wneud.

Mae’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn poeni, neu o leiaf yn awyddus i wybod nad ydynt yn gwneud unrhyw niwed. Ond nid yw hyn yn golygu y byddant yn ymddwyn yn wahanol. Fel rydym i gyd yn anghofio mynd â’n bagiau ffasiynol wedi’u hailgylchu i’r archfarchnad gyda ni, bydd cwsmeriaid yn edrych ar y brandiau sydd eisoes yn gyfarwydd iddynt drwy eu sianeli arferol. Mae arfer a chyfleustra yn chwarae rhan bwysicach yn y ffordd rydym yn gwneud dewisiadau o ran teithio, hamdden a thwristiaeth.

Pris, lleoliad, cyfleustra a brand yw’r pethau pwysicaf o hyd i’r rhan fwyaf o bobl. Ond pan fo’r rhain i gyd yn gyfartal, gall gwerthoedd a gweithrediadau ym maes cynaliadwyedd wahaniaethu un cynnyrch wrth un arall, ac mae hynny’n digwydd. Mae’n well gan ddefnyddwyr frandiau a chwmnïau sy’n ymddwyn mewn ffordd gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol – ond nid yw hynny’n golygu mai dim ond cynaliadwyedd sy’n bwysig iddynt wrth ddewis.

Nododd Arolwg Ymwelwyr Cymru 2009 y canlynol:

dywedodd 72% fod ffactorau amgylcheddol yn bwysig wrth ddewis eu cyrchfan wyliau

roedd 18% yn chwilio’n fwriadol am lety ecogyfeillgar gyda’r ffigur yn codi i 26% ymhlith ymwelwyr tramor

mae cynnwys cynnyrch Cymreig ar y fwydlen yn denu ymwelwyr sy’n aros yng Nghymru i ymweld â bwytai gyda 25% yn honni eu bod wedi ymweld â lle bwyta am fod cynnyrch Cymreig ar y fwydlen

ymatebodd 30% fod Cymru’n wlad sy’n cynrychioli gwyliau ecogyfeillgar i’r teulu

Hyrwyddo hygrededd 5

Dywedwch wrth bawb fod

cynaliadwyedd yn golygu ansawdd

Wrth bwy y dylwn i ddweud?

Page 6: Keep It Real Welsh

6 Hyrwyddo hygrededd

Mae cynaliadwyedd a marchnata yn gwneud busnes gwell

Yn cyflwyno: Mark Edwards. Mae Bryn Bella (Eryri) yn llety gwely a brecwast ecogyfeillgar ac mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o bopeth a wnawn.

Beth a wnawn: Ddeunaw mis yn ôl, gwnaethom benderfynu gwella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i gwsmeriaid drwy gyflwyno pecynnau a phrofiadau parod. Mae ‘Eryri heb Gar’ yn boblogaidd iawn – rydym yn dangos i gwsmeriaid sut y gallant fwynhau’r cefn gwlad lleol ac Eryri o garreg ein drws, ar droed, ar feic ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydym hefyd wedi cyflwyno profiad sy’n cynnig cyfle i bobl ‘Gwrdd â’n Ieir’ a chasglu eu hwyau eu hunain i frecwast – mae rhieni a phlant wrth eu bodd â hyn.

Er mwyn hyrwyddo’r profiadau hyn rydym yn defnyddio Twitter, Facebook a’n blog i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid am beth sy’n digwydd, dangos iddynt sut y

gallant gael profiadau yn Bryn Bella drwy’r flwyddyn, a helpu i ledaenu’r neges i ddarpar gwsmeriaid newydd.

Drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau marchnata rydym bellach yn cael mwy o ymwelwyr newydd â’n gwefan ac archebion uniongyrchol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd sylfaen gynyddol o gwsmeriaid sy’n ymweld â ni dro ar ôl tro, mae un grwp o’r Iseldiroedd wedi bod yn dod atom ers chwe blynedd!

Ein cyngor craff: Nid oes rhaid i gynaliadwyedd fod yn rhywbeth amlwg ond mae angen iddo ychwanegu at brofiad eich cwsmer a chynnig ansawdd. Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol fel rhan o’ch arlwy marchnata gan eu bod yn galluogi cwsmeriaid i siarad am eu profiadau a lledaenu’r neges – maent yn ddylanwadol iawn ac am ddim!

Wrth bwy y dylwn i ddweud?Astudiaethau achos go iawn

Page 7: Keep It Real Welsh

Who do I tell?

Byddwch yn Greadigol

Yn cyflwyno: Mae Parc Antur Gelli Gyffwrdd yng Ngwynedd yn gwahodd teuluoedd i gael hwyl ac anturiaethau yn ei fyd o goed a natur. Drwy roi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau rydym yn creu profiadau gwell lle gallant ddysgu o’r amgylchedd naturiol.

Beth a wnawn: Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer plant yn ystod gwyliau’r ysgol sy’n llawn hwyl ac yn rhyngweithiol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

Adeiladu pethau gan ddefnyddio deunyddiau naturiol – mae’r plant yn defnyddio eu synnwyr antur i adeiladu lleoedd cuddio o foncyffion a changhennau sydd wedi cwympo yn y goedwig.

Ailgylchu hen ddillad a dillad nad oes eu heisiau mwyach – mae’r plant yn torri dillad yn garpiau ac yn eu plethu i greu ryg bach yn llawn lliwiau a defnyddiau diddorol.

Creadigrwydd gyda blodau – mae’r plant yn rhaflo brigau i wneud “blodau” cyn eu lliwio a mynd â hwy adref gyda hwy i’w hatgoffa o’u diwrnod.

Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol mae’r plant yn dysgu sut y gellir ailddefnyddio deunyddiau a sut i ofalu am yr amgylchedd naturiol.

Ein cyngor craff: dylech gyfleu negeseuon drwy annog ymwelwyr i gymryd rhan. Mae gwneud profiadau yn hwyl yn golygu y byddant yn aros yn y cof.

Hyrwyddo hygrededd 7

Wrth bwy y dylwn i ddweud?Astudiaethau achos go iawn

Page 8: Keep It Real Welsh

8 Keep it real

Mae ‘chwilwyr moesegol’ yn gwneud ymdrech i chwilio am wyliau gwyrdd fel parhad o’u ffordd o fyw. Nid oes llawer ohonynt ond maent yn llafar ac yn deyrngar. Maent am wybod popeth am yr hyn a wnewch.

Ar y pegwn arall, mae yna grwp o deithwyr sydd am anghofio popeth am eu bywydau a’u cyfrifoldebau bob dydd. Nid ydynt yn debygol o werthfawrogi eich ymdrechion. Bydd angen cymryd camau cynaliadwyedd y tu ôl i’r llenni a dylai eich gwaith cyfathrebu ganolbwyntio ar sut y maent yn gwella eu profiad.

Y grwp “ffactor boddhad” yw’r un mwyaf – maent yn ymwybodol o’r materion dan sylw, ond nid ydynt yn mynd allan o’u ffordd i weithredu. Ni fyddant yn chwilio am wybodaeth, ond byddant yn ymateb yn dda i negeseuon sy’n dangos y gallant wneud “eu rhan” yn hawdd neu ble y gallant gael cynnyrch neu wasanaeth gwell sy’n digwydd bod yn gynaliadwy.

Bydd y grwp hwn yn darllen amdanoch â chwilfrydedd yn nhudalennau teithio’r wasg am eich bod yn ddiddorol ac yn wahanol, nid am eich bod yn gynaliadwy. Mae gwobrau ac ardystiadau yn ategu’r syniad y gellir ymddiried ynoch, un elfen arall sy’n dylanwadu ar y penderfyniad i drefnu gwyliau.

Chwilwyr Moesegol: Rhesymegol, Rhyngwladol, Barod i Holi, Barod i Dalu

Ffactorau Boddhad: Emosiynol, Lleol, Syml, Annhebygol o dalu

Anghofio popeth: Amherthnasol, Lleol, Sinigaidd, Gwrthod Talu

Hyrwyddo hygrededd8

Cwsmeriaid gwahanol,

Maent yn ymwybodol o’r materion dan sylw, ond nid ydynt yn mynd allan o’u ffordd i weithredu

dulliau gweithredu gwahanol

Wrth bwy y dylwn i ddweud?

Page 9: Keep It Real Welsh

Who do I tell?

9 Keep it real

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Mae gormod o negeseuon amwys i’w gweld. Ni allwch wneud popeth, felly dylech wybod yn union pa ymateb neu newid rydych

yn gobeithio ei weld ymhlith eich cwsmeriaid.

Hyrwyddo hygrededd 9

Page 10: Keep It Real Welsh

10 Keep it real

Helpwch eich cwsmeriaid i deimlo’n well am brynu drwy ddangos iddynt sut rydych wedi ystyried yr angen i fod yn fwy cynaliadwy – gan adael iddynt fwynhau’r buddiannau.

Nid yw’r ffaith na fyddant yn mynd allan o’u ffordd i brynu oddi wrthych am eich bod yn wyrdd yn golygu nad ydynt yn gwerthfawrogi hynny. Ni fydd yn cael effaith negyddol ar gwsmeriaid, a gall gwybod eu bod yn “gwneud eu rhan” wneud iddynt deimlo’n dda.

Os ydych wir yn credu nad yw eich cwsmeriaid am wybod, canolbwyntiwch ar yr hyn rydych yn ei wneud ar eu cyfer. Gwnewch y profiad yn hawdd iddynt, drwy ddweud wrthynt y gallant ymlacio a mwynhau, tra byddwch chi’n gofalu am bethau heb gyfaddawdu ar ansawdd.

Mae cwsmeriaid yn teimlo’n dda (neu’n llai euog) os yw’r dewisiadau’n hawdd. Anogwch roddion elusennol, dywedwch wrthynt am y dewis o ran trafnidiaeth gyhoeddus a ble i ailgylchu – dangoswch iddynt fod hyn yn well ac yn fwy cynaliadwy. Yr ateb hawsaf un yw bod yr opsiynau a gynigir yn ddewisiadau ‘da’ sy’n cael effaith gadarnhaol.

Bydd perchennog Gwely a Brecwast ym Mannau Brycheiniog dim ond angen cerdded i’w gardd i ddewis a chodi llysiau a ffrwythau ffres sy’n tyfu yn ei gardd lysiau, y twnel plastig a’r perllannau.

Mae’n tueddu i bwyntio allan drwy’r ffenest at geffylau’r gwesteion yn pori’n braf y tu ôl i’r ty. Eglura fod y ceffylau’n cyfrannu’n uniongyrchol at yr hyn y maent yn ei fwyta, oherwydd eu gwrtaith hwy, ar ôl iddo gael ei gasglu a’i gompostio, yw’r unig un a ddefnyddir. Mae siarad fel hyn yn cyfleu’r neges amgylcheddol am filltiroedd bwyd yn llawer mwy effeithiol na’i hargraffu mewn llyfryn neu ar y wefan.

O’r gorau, rydych am gael mwy o gwsmeriaid – ond cyn i chi gyflawni hynny, cofiwch fod llawer o ffyrdd eraill mwy realistig o ddefnyddio cynaliadwyedd wrth gyfathrebu.

Hyrwyddo hygrededd10

Gwneud i gwsmeriaid deimlo’n dda Pam ddylwn i sôn am y peth?

Page 11: Keep It Real Welsh

Why am I telling?

Mae’n blasu’n well, dyna’i gyd

Yn cyflwyno: Kerena Pugh. Ddeunaw mis yn ôl yn Lôn Lodges (Rhaeadr Gwy) gwnaethom gyflwyno pecynnau croeso ac amrywiaeth o hamperi o gynnyrch Cymreig o safon fel gwasanaeth rhagarchebu i’n cwsmeriaid.

Beth a wnawn: Mae llawer o’n cwsmeriaid yn dweud wrthym nad ydynt am fynd i’r drafferth o brynu bwyd ar wyliau, neu eu bod am gael rhywbeth arbennig i ddathlu achlysur neu ben-blwydd. Felly, aethom ati i wneud y peth yn gyfleus ac yn hawdd iddynt. Rydym yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaeth hwn ar ein gwefan ac wrth archebu.

Gall cwsmeriaid yna archebu ymlaen llaw i sicrhau bod bwyd o safon yno’n barod wedi iddynt gyrraedd. Rydym wedi dewis ein cyflenwyr i gyd yn bersonol ac rydym ond yn defnyddio’r cynnyrch Cymreig gorau gan

gynnwys gwin a siocled wedi’i wneud â llaw, a gynhyrchir gan Tanya yn Ystad Penarth.

Rydym yn sylweddoli bod eraill wedi ceisio gwneud hyn – mae’n gweithio i ni am fod ansawdd y cynnyrch a chyfleustra’r gwasanaeth yn golygu bod cwsmeriaid sy’n dychwelyd atom bellach yn defnyddio’r gwasanaeth hwn bob amser ac mae nifer gynyddol o gwsmeriaid newydd yn archebu hefyd.

Ein cyngor craff: Cynigiwch wasanaeth a chynnyrch sy’n gwneud i’ch cwsmeriaid deimlo eu bod yn arbennig a’ch bod yn gofalu amdanynt, ac sy’n gwneud eu bywydau’n haws. Maent ar wyliau ac am ymlacio, nid ydynt am dreulio amser yn gwneud pethau y maent yn eu hystyried yn dasgau bob dydd, fel siopa am fwyd.

Dywedwch wrthym am eich cyflenwyr!

Gall map yn dangos lleoliad eich cyflenwyr amrywiol ddangos faint ohonynt sy’n lleol – da.

Bydd lluniau yn dangos ochr ddynol y cyflenwyr – gwell.

Bydd egluro sut maent yn gofalu am y cynnyrch y maent yn ei werthu i chi yn dangos eich bod chi hefyd yn poeni am yr hyn rydych yn ei rannu â’ch cwsmeriaid – gorau.

Hyrwyddo hygrededd 11

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Page 12: Keep It Real Welsh

12 Hyrwyddo hygrededd

Os hoffech weld newid, rhaid i chi roi rhywbeth yn gyfnewid am hynny. P’un a ydych am iddynt brynu’n lleol neu barchu traddodiadau lleol, gyrru llai neu ailgylchu mwy, mae angen i chi wybod yn union sut i gymell a bod yn gadarnhaol.

Byddwch yn benodol wrth ofyn iddynt wneud rhywbeth: mae negeseuon amwys yn peri rhwystredigaeth – dywedwch wrthynt beth i’w wneud, nid “byddwch yn wyrdd”.

Dangoswch sut mae’r camau rydych yn gofyn i’ch cwsmeriaid eu cymryd yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol a sut y gellir ei gweld – yn hytrach na dweud “arbedwch ddwr”, dywedwch wrthynt beth y gellir ei wneud â’r dwr y maent wedi’i arbed.

Eglurwch pwy sy’n cael budd o’r newid mewn ymddygiad – os nad y cwsmer sy’n cael budd, meddyliwch unwaith eto sut i ddweud y dylai fod yn bwysig iddo.

Dim ond yr opsiynau mwyaf cynaliadwy y mae angen i chi eu crybwyll – canolbwyntiwch ar deithiau undydd i fannau sydd gerllaw yn hytrach nag oriau ffwrdd, neu ceisiwch dynnu bwyd sydd o dan fygythiad neu fwyd anghynaliadwy o’r fwydlen. Nid oes angen i chi labelu’r rhain fel rhai “gwyrdd” chwaith, dim ond eu cyflwyno fel rhywfaint o hwyl neu syniad da.

Mae Call of the Wild (Bannau Brycheiniog) wedi llwyddo i sicrhau bod cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ei ymdrechion ym maes cynaliadwyedd ac yn cyfrannu tra’u bod yn aros yn y byncws, ond nid yw’r rhan fwyaf o’r cwsmeriaid yn ymwybodol o’i waith cyn iddynt gyrraedd. Mae’r sesiynau briffio ar gynaliadwyedd a gynhelir ar ôl i gwsmeriaid gyrraedd yn egluro’r hyn mae’r cwmni’n ei wneud a’r hyn y gall defnyddwyr ei wneud – a rhoddir pwyslais ar elfennau cadarnhaol yr holl bethau da y gallwn ei wneud, yn hytrach na bod yn anobeithiol.

A ydych wedi cael llond bol ar weld eich holl waith da o ran cynaliadwyedd yn cael ei danseilio gan gwsmeriaid nad ydynt yn ei ddeall?

Codi ymwybyddiaeth

a newid ymddygiad

Gall cwsmeriaid gael profiad o’r camau cadarnhaol a gymerwyd fel plannu 2000 o goed collddail mewn 15 hectar o’r eiddo, tra bod rhai camau eraill yn llai amlwg sy’n golygu bod angen rhoi gwybod amdanynt – ffynonellau trydan adnewyddadwy, dyfeisiau arbed dwr mewn toiledau ac offer awyru cawodydd, er enghraifft.

Mae cwsmeriaid yn ymateb orau i wybodaeth sy’n berthnasol iddynt – mae arwydd y ddyfais arbed dwr mewn toiledau yn dangos faint o baneidiau te y llwyddwyd i’w harbed mewn blwyddyn, rhywbeth sy’n llawer mwy perthnasol na litrau o ddwr. Mae cwsmeriaid yn ymateb yn dda i arwyddion sy’n eu hatgoffa i ddiffodd y golau, ailgylchu a gofalu am y safle yn gyffredinol oherwydd nid gimics mohonynt, ond rhan o’r hyn rydym wedi dangos ein bod yn credu ynddo.

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Page 13: Keep It Real Welsh

Why am I telling?

13Hyrwyddo hygrededd

Dyluniwch becynnau cynaliadwy ar gyfer adegau pan nad ydych yn brysur, neu meddyliwch am wasanaethau a all wneud mwy o arian yn ystod y tymor prysur. Edrychwch ar beth fydd yn gwneud i gwsmeriaid aros am gyfnod hwy, neu ddychwelyd pan fydd eich busnes yn wag.

Lluniwch ddyddiadur natur ar eich gwefan ar gyfer eich eiddo – pwysleisiwch beth sydd ar gael yn ystod y tymor tawel.

Hyrwyddwch gig/llysiau/jam o’ch fferm leol neu’ch cymdogion – anogwch gwsmeriaid i ddychwelyd i brynu mwy.

“Tyfwch a choginiwch eich llysiau eich hun”, cyrsiau ar hanes lleol neu gynnal a chadw beiciau, clybiau “eco frwydro” ar ôl ysgol, partïon pen-blwydd i blant ar thema natur.... crëwch alw yn ystod cyfnodau tawelach.

Fel arfer, mae tafarn wledig yn llawn bob amser cinio dros y penwythnos – datblygwch gynllun arbennig i hyrwyddo coffi a chacen/te a sgon canol bore neu ganol prynhawn, ynghyd â map am ddim ar gyfer taith gerdded fydd yn tywys cerddwyr yn ôl i’r dafarn.

Rydym ond wedi ystyried eich cwsmeriaid presennol a’ch prif fusnes. Nawr, sut mae annog eich cwsmeriaid i brynu mwy gennych?

Cynnig rhywbeth ychwanegol

Mae Gwely a Brecwast Northlodge Organic (Sir Benfro) yn cynnig cyrsiau Greenshoots ar gyfer cwsmeriaid lle gallant ddysgu sgiliau garddio ymarferol y gallant eu defnyddio gartref yn eu gerddi eu hunain. Mae annog cwsmeriaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn gwneud natur yn fwy o hwyl ac yn atgyfnerthu eu hagwedd at gynaliadwyedd.

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Page 14: Keep It Real Welsh

14 Hyrwyddo hygrededd

Mae The Bridge Café (Aberhonddu) yn llety gwely a brecwast sydd wedi datblygu ei hun fel arbenigwr ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Maent yn cynnig cyfleusterau storio dan glo ar gyfer beiciau, cyfleusterau llogi a sychu, a bellach maent wedi sefydlu partneriaeth â Drover Holidays (arbenigwr lleol ar wyliau beicio) i gynnig pecynnau gwyliau beicio cyflawn. Drwy sefydlu partneriaeth â busnes lleol, gallant bellach gynnig profiad beicio cyflawn i gwsmeriaid yn ogystal â mwynhau’r buddiannau busnes o fod yn brysur drwy gydol y flwyddyn, gweld mwy o gwsmeriaid yn dychwelyd, ac archebion grwp yn benodol ar gyfer y pecyn gwyliau beicio cyflawn.

Mae mwy o enghreifftiau o fusnesau sydd wedi cynyddu cyfraddau defnydd a chael mwy o barhad rhwng tymhorau drwy ddefnyddio cynaliadwyedd mewn ffordd greadigol, nag o fusnesau sydd wedi gwneud hynny drwy godi prisiau uwch. Mae’n debyg bod hyn yn newyddion da i’r sector gwasanaeth, lle mae rheoli’r defnydd a wneir o’ch darpariaeth yn cael effaith fwy sylweddol ar eich elw net na chodi mwy yn ystod cyfnodau brig.

Dylai busnesau sy’n gweithredu’r rhan fwyaf o’r pwyntiau a godir yn y pecyn cymorth hwn allu cynyddu eu prisiau rhyw fymryn,

neu osgoi eu lleihau gymaint yn ystod y tymor tawel.

Cofiwch, mae cwsmeriaid yn hoffi gwybod eu bod yn cael bargen – felly mae dangos bod ymddwyn yn gynaliadwy yn rhoi disgownt neu fuddiannau ychwanegol iddynt yn debygol o fod yn atyniadol.

Rydym wedi gweld caffis yn rhoi disgownt (ac eraill yn rhoi 10c i elusen) i gwsmeriaid rheolaidd sy’n dod â’u mwg cymudo eu hunain – gan arbed cwpanau untro ac ennill cwsmer teyrngar yr un pryd.

Ac mae data o 2010 gan VisitEngland yn dangos y byddai 60% o bobl ar eu gwyliau yn fwy tebygol o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pe bai’r llety yn rhoi disgownt iddynt am wneud hynny.*

*Pobl sy’n byw yn Lloegr yw’r grwp mwyaf o dwristiaid domestig yn y DU gan gyfrif am 91% o’r teithiau aros dros nos a wneir (UKTS 2010). Roedd 77% o’r ymwelwyr â Chymru yn dod o Loegr (UKTS 2010). Mae’r canfyddiadau yn rhan o waith ymchwil gan VE, sy’n canolbwyntio yn bennaf ar farn/ymddygiad pobl sy’n byw yn Lloegr, ac sy’n berthnasol iawn i fusnesau twristiaeth yng Nghymru.

Os ceir opsiynau tebyg o ran pris a lleoliad, gall eich rhinweddau o ran cynaliadwyedd roi mantais i chi mewn marchnadoedd busnes a hamdden. Y peth pwysig yw tynnu sylw a chynnig ychydig bach mwy.

Cael mwy o gwsmeriaid

Cofiwch, mae cwsmeriaid yn hoffi gwybod eu bod yn cael bargen.

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Page 15: Keep It Real Welsh

Why am I telling?

Hyrwyddo hygrededd 15

Defnyddio cymhellion ar gyfer teithiau gwyrdd

Yn cyflwyno: Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Rydym yn ganolfan ymwelwyr ac addysgiadol i bobl leol a thwristiaid. Rydym yn gwobrwyo ymwelwyr sy’n dod atom heb gar drwy roi gostyngiad o 50% ar y pris mynediad safonol os ydynt wedi teithio ar drên, a £1 o ostyngiad os ydynt wedi dod ar fws, ar feic neu ar droed.

Beth a wnawn: Oherwydd ein lleoliad gwledig, mae ymwelwyr yn aml yn meddwl mai dim ond mewn car y gallant ein cyrraedd. Rydym yn ei gwneud yn hawdd iddynt wneud dewisiadau eraill drwy gyflwyno ein cynllun teithio gwyrdd a’n cymhellion ar-lein. Rydym yn darparu gwybodaeth fanwl am deithio ar y trên, ar fws, ar feic ac ar droed, gan gynnwys lluniau o’r hyn y gallwch ei weld ar y ffordd os byddwch yn dewis beicio neu gerdded, a’r hyn y gallwch ei wneud yn y dref leol wrth aros am fws. Rydym yn sylweddoli nad yw teithio heb gar yn opsiwn

i rai pobl, felly rydym hefyd yn hyrwyddo www.sewtacarshare.com sy’n cynnig cymhellion arbed costau.

Mae defnyddio cymhellion wedi bod yn llwyddiannus i ni ac erbyn hyn, mae mwy o ymwelwyr yn teithio gan ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd. Mae dros 6% o ymwelwyr bellach yn cyrraedd heb gar ac mae dros 70% o fyfyrwyr yn defnyddio’r cynllun rhannu lifftiau ar gyfer cyrsiau. Mae hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ein delwedd oherwydd mae ymwelwyr yn teimlo bod y peth yn bwysig i ni.

Ein cyngor craff: Yn achos llawer o fusnesau twristiaeth mewn lleoliadau gwledig yng Nghymru, nid yw ymwelwyr yn aml yn ystyried dewis arall heblaw am y car, mae’n rhy anodd. Drwy roi gwybodaeth fanwl ar eich gwefan a chynnig cymhellion, rydych yn ei gwneud yn haws iddynt wneud dewisiadau eraill ac rydych yn arbed arian iddynt – mae pob cwsmer yn hoffi bargen!

Pam ddylwn i sôn am y peth?

Astudiaethau achos go iawn

Page 16: Keep It Real Welsh

Beth ddylwn i ei ddweud?

Byddwch yn glir am ba fath o argraff yr hoffech ei chreu – gyda’ch polisi cynaliadwyedd, lluniau, testun... O’r tudalennau canlynol, dewiswch un neu ddwy neges yn unig sy’n

cynrychioli orau yn eich barn chi sut rydych am i’ch cwsmeriaid eich ystyried.

Hyrwyddo hygrededd16

Page 17: Keep It Real Welsh

What do I say?

Hyrwyddo hygrededd 17

Beth ddylwn i ei ddweud?

A ydych wedi sylwi faint o hwyl y mae hysbysebion prif-ffrwd yn ei wneud am ben cynaliadwyedd? Er enghraifft, ymgyrch un archfarchnad “Take an Old Bag Shopping”, ac “I am not a goody-goody pasta sauce, I am a yummy-yummy,” gan Seeds of Change ac ati. Yn y bôn, mae swnio’n anrhydeddus yn llai tebygol o werthu – rydych am ddweud wrth gwsmeriaid, nid eu diflasu.

Anogwch gwsmeriaid i gymryd rhan – mae gwneud yn fwy o hwyl na gwylio. Mae rhoi cyfle i gwsmer gasglu ei ginio ei hun yn golygu y bydd yn blasu’n well iddo ef. Lluniwch gwis i’r teulu er mwyn iddynt archwilio a dysgu mwy am y lleoedd y maent yn ymweld â hwy, neu lluniwch lwybr natur, tref neu ddinas o garreg eich drws. Anogwch hwy i gymryd rhan mewn pethau sy’n berthnasol iddynt – rydych wedi gweld sut mae ceginau yn denu cymaint o sylw ag ystafelloedd crand mewn cartrefi hanesyddol – neu hyd yn oed yn well, gadewch i blant ddefnyddio’r blwch gwisgo i fyny yn neuadd y gweision.

Ni ddylai cynaliadwyedd fod yn ddiflas! Helpwch eich cwsmeriaid i fwynhau eu hunain a chael profiad uniongyrchol o’r hyn sy’n eich gwneud yn unigryw.

Hwyl/cymryd rhan –

Beth y gallaf ei wneud?

Anogwch eich cwsmeriaid i gymryd rhan mewn pethau sy’n berthnasol iddynt

Page 18: Keep It Real Welsh

18 Hyrwyddo hygrededd

Rhowch y cwsmer wrth wraidd y profiad – beth mae’n ei gynnig iddynt hwy?

Gall darnau ysgrifenedig ar gynaliadwyedd swnio fel ymddiheuriadau neu jargon. Yn lle hynny, rhowch y cwsmer wrth wraidd y profiad – beth mae’n ei gynnig iddynt hwy?

Geiriwch eich gwybodaeth gan feddwl sut yr hoffech i’ch cwsmeriaid deimlo, yn lle rhestru nodweddion eich cynnyrch.

Ysgrifennwch am gynaliadwyedd fel cyfle i gael maldod, fel rhywbeth unigryw, fel rhywbeth a wnewch i ofalu am eich cwsmer.

Mae gwyliau yn gyfle i chi roi eich hun yn gyntaf, tra bydd teithwyr busnes am i chi wneud pethau’n iawn yn gyflym. Gall rhai agweddau ar gynaliadwyedd fod o gymorth.

Gwasanaeth gwell –

Gwnewch i mi deimlo’n arbennig

Mae “Gallwch weld pethau nad oes neb arall yn eu gweld” yn debygol o werthu, ond ceisiwch ddod o hyd i ffordd o ddangos bod y lle yn cael gofal o hyd, y “ffactor boddhad”.

Mae’r neges “bwyd gonest, pur, ffres sy’n gwneud eich gwyliau’n gofiadwy” yn fwy tebygol o werthu na “milltiroedd bwyd a chefnogi’r economi leol”. Mae’r hyn rydych yn ei ddweud a sut rydych yn gwneud hynny yn bwysig.

Beth ddylwn i ei ddweud?

Page 19: Keep It Real Welsh

What do I say?Dywed Gwyliau Cefn Gwlad Nannerth: ‘ profwch fywyd ar fferm go iawn’

Yn cyflwyno: Alison Gallagher – mae Nannerth Fawr yn fferm ddefaid organig draddodiadol a’r ethos yw ‘mwynhau’r amgylchedd, archwilio lleoedd gwyllt ar y fferm a chael hwyl’. Nid yw llawer o’n gwesteion yn treulio rhyw lawer o amser yn yr amgylchedd naturiol, felly aethom ati i greu profiadau sy’n rhoi cyfle i gwsmeriaid ryngweithio â’r anifeiliaid a gweld y cynefinoedd a’r rhywogaethau amrywiol sydd gennym.

Beth a wnawn: Rydym yn dangos i westeion sut y gallant gael hwyl heb y car drwy brofi bywyd ar y fferm. Gall gwesteion fwydo’r anifeiliaid a chyffwrdd â hwy, gan gynnwys ein hieir rhydd, ein moch a’r rhai mwyaf poblogaidd, ein hwyn mynydd Cymreig. Gallant brofi bob cam o’r broses wyna, o’r enedigaeth i’r cam lle mae’r oen a’r fam yn cyfarfod ac rydym hefyd wedi

sicrhau bod y tymor wyna yn cyd-daro â gwyliau’r Pasg am fod plant yn cael modd i fyw ac am ddod nôl atom bob blwyddyn!

Ymhlith ein profiadau poblogaidd eraill mae gwylio moch daear o’r ty pen coeden a hebogyddiaeth, sy’n boblogaidd ymhlith pobl o bob oed. Mae coedwigoedd lle gall plant ddringo coed a gwneud cuddfannau, a mannau gwyllt iddynt chwarae ynddynt a chael hwyl yn y mwd. Drwy roi cyfle i westeion fanteisio ar y profiadau hyn, rydym bellach yn cael 50-70% o ailarchebion, yn enwedig ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn, fel y tymor wyna.

Ein cyngor craff: Darparwch weithgareddau rhyngweithiol i westeion na allant gymryd rhan ynddynt gartref. Mae hyn yn golygu y cânt brofiad bythgofiadwy a hwyl wrth ddysgu, sy’n golygu y byddant yn dod nôl i brofi rhagor yn ein profiad ni.

19Hyrwyddo hygrededd

Beth ddylwn i ei ddweud?

Astudiaethau achos go iawn

Page 20: Keep It Real Welsh

20

Empathi – Rydym yn

Hyrwyddo hygrededd

Mae John a Sarah yn Graig Wen (Dolgellau) yn rhannu eu hoffter o’r amgylchedd naturiol o’u cwmpas gyda’r cwsmeriaid y maent yn eu denu. Mae eu gwefan yn dangos hyn ac yn pwysleisio prydferthwch y lle drwy ddefnyddio lluniau, fideo a dyfyniadau fel ‘un o’r mannau hyfrytaf ym Mhrydain’ o erthyglau yn y wasg genedlaethol. Ar ôl i gwsmeriaid gyrraedd Graig Wen, maent yn eu hannog i helpu i ‘amddiffyn ein hamgylchedd prydferth’ drwy negeseuon tafod mewn boch. Mae’r toiled compost yn destun trafod i deuluoedd, maent yn egluro sut y gallant adael ‘gan deimlo eu bod yn rhan o broses naturiol’. Wrth ddefnyddio tanau gwersyll a llosgwyr pren maent yn gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio’r pren a ddarperir ganddynt. Fel hyn gallant helpu i amddiffyn cynefinoedd naturiol a’r coetiroedd. Nid ydynt yn pregethu’r neges eco-frwydro, yn hytrach maent yn egluro’n syml pam ei fod yn well ac mae cwsmeriaid wrth eu bodd â hynny.

Rydych yn dangos cysylltiad personol, nid cyfarwyddyd corfforaethol di-fflach. Mynegwch eich hun drwy eiriau – ac wrth ddefnyddio cywair mwy anffurfiol, defnyddiwch luniau sy’n dangos yr elfen o hwyl sy’n perthyn i’ch lle a chynnwys eich gwefan.

Ysgrifennwch gan ddefnyddio’r person cyntaf, cofiwch gynnwys llun o’ch hun fel lletywr, eglurwch fwy am yr ardal gyfagos – mae hyn i gyd yn rhan o’r croeso.

Y neges yma yw pwysleisio’r cysylltiad personol rhwng y lletywr a’r gwestai – “Rydym ni’n bobl fel chi, rydym yn rhannu’r un gwerthoedd, dyna pam y gwnewch fwynhau bod yma”.

Bob tro mae cwsmer yn trefnu gwyliau neu daith fusnes, neu’n dewis diwrnod allan, mae elfen o risg – beth os gwnaf gamgymeriad?

Gallwch ddefnyddio negeseuon am gynaliadwyedd i sicrhau cwsmeriaid bod gennych fusnes o safon. Arddangoswch eich gwobrau a’ch graddau ansawdd amrywiol – ond rhowch sicrwydd i’ch cwsmeriaid bod y ffaith eich bod yn poeni am yr amgylchedd a’r gymdeithas yn golygu eich bod yn poeni amdanynt hwythau hefyd a sut y byddant yn mwynhau eu hamser gyda chi.

Beth ddylwn i ei ddweud?meddwl yn yr un ffordd

Page 21: Keep It Real Welsh

What do I say?

Hyrwyddo hygrededd 21

Mae’r marchnadoedd corfforaethol yn debygol o groesawu tystiolaeth o allyriadau CO

2 is ar gyfer eu cynadleddau a’u teithiau

busnes, gan fod llawer o gwmnïau wedi ymrwymo i brynu gwasanaethau gan gyflenwyr mwy gwyrdd yn eu datganiadau cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol.

Ond yn achos y farchnad hamdden nid oes angen i chi ddefnyddio’r gair “cynaliadwyedd” na “gwyrdd” yn eich deunydd marchnata, yn yr un modd nad ydych bob amser yn dweud ansawdd neu foethusrwydd – ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd mwy cynnil o gyfleu’r neges, sy’n fwy ystyrlon iddynt hwy.

Mae gormod o negeseuon yn ceisio gwneud i gwsmeriaid gael rhyw fath o deimlad cynnes, neu deimlo’n llai euog am eu taith neu eu diwrnod allan. Mae eraill yn swnio’n debyg i ymddiheuriadau (roedd rhaid i ni ei wneud – ond ni fydd yn effeithio arnoch) neu aberth (mae angen i chi fod yn gadarn i fod yn wyrdd). Ni fydd y rhain yn meithrin ymddiriedaeth.

Mae cwsmeriaid yn aml yn credu mai nod busnesau gwyrdd yw arbed arian a rhoi llai o foethusrwydd. Gallai eich arddull ysgrifennu gyfrannu at yr argraff honno.

Camgymeriadau cyffredin

Ond fel arfer, nid yw busnesau yn dweud beth maent yn ei wneud neu maent yn ei gyflwyno mewn ffordd ddiddychymyg mewn man arall ar wahân i’w cyfryngau cyfathrebu eraill – fel pe bai cynaliadwyedd yn ôl-ystyriaeth.

A ydw i’n gor-ddweud fy negeseuon gwyrdd?

Cyn i chi frolio eich gwaith da, gwnewch yn siwr nad oes unrhyw gamgymeriadau amlwg.

Fe welwch y caiff eich rhinweddau gwyrdd eu tanseilio os byddwch hefyd yn defnyddio cwpanau plastig na ellir eu hailgylchu a llestri untro, neu os byddwch yn cynnau gwresogydd patio yn ddiangen, er enghraifft. Peidiwch â cheisio hyrwyddo eich polisi cynaliadwy gan ei argraffu ar bapur wedi’i gannu a’i glorineiddio.

Bydd canllaw ‘Greenwash’ Futerra yn helpu www.futerra.co.uk/downloads/Greenwash_Guide.pdf

Beth ddylwn i ei ddweud?

Page 22: Keep It Real Welsh

Ble dylwn i ddweud?

Integreiddio cynaliadwyedd fel rhan o ansawdd drwy’r cyfryngau rydych eisoes yn eu defnyddio. Defnyddio

ardystiadau a gwobrau i gael cydnabyddiaeth, a defnyddio’r rhyngrwyd i ledaenu’r neges.

22 Hyrwyddo hygrededd

Page 23: Keep It Real Welsh

Where do I tell?

Marchnata ffafriol i gwmnïau sydd ag enw da o ran cynaliadwyedd

Mae Croeso Cymru yn gallu mynd ati i hyrwyddo eich busnes yn gynaliadwy os ydych yn cael eich achredu gan gynlluniau cynaliadwyedd cymeradwy, fel y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd. Hefyd, mae cyfleoedd i chi weithio gyda thîm Cysylltiadau Cyhoeddus Croeso Cymru – gall roi gwybod i’r tîm am eich enw da o ran cynaliadwyedd dalu ffordd! Am enghreifftiau a rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae tîm Cysylltiadau Cyhoeddus Croeso Cymru yn ei wneud, darllenwch adran y Wasg yn y pecyn cymorth hwn.

Hyrwyddo hygrededd 23

Ym mhle dylwn i ddweud?

Mae cwmnïau’n cael eu hardystio yn rhannol i achub y blaen ar y farchnad, gan ddisgwyl i’w hardystiad roi mantais iddynt dros rai o’u cystadleuwyr – ac eto maent yn nodi bod ymwybyddiaeth cwsmeriaid yn isel.

Yn y pen draw, ni fydd ardystiad yn eich marchnata. Eich cyfrifoldeb chi yw gwybod sut a ble i arddangos tystysgrifau a logos ac, yn bwysicach, eu hystyr a pham i chi eu cael.

Mae ardystiad twristiaeth gynaliadwy yn rhoi sicrwydd annibynnol i gwsmeriaid o ran eich enw da. Mae’n helpu o ran hyder a hygrededd. A chithau wedi derbyn cydnabyddiaeth annibynnol o’ch perfformiad cynaliadwy, dylech esbonio’r hyn rydych yn ei wneud yn hyderus.

Mae ardystio yn fan da iawn i ddechrau – cewch gymorth i roi trefn ar bethau a dylai’r gymeradwyaeth roi hyder i chi ddweud wrth eraill am yr hyn rydych yn ei wneud – nawr gallwch ei ddefnyddio fel arf marchnata.

Ardystio

A ydych yn cyfleu logo eich ardystiad a’r hyn a wnaethoch i’w gyflawni?

Yn y dderbynfa/mynedfa

Yn eich pecyn ar gyfer ystafelloedd gwely (os ydych yn cynnig llety)

Ar eich gwefan

Ar daflenni hyrwyddo a llenyddiaeth argraffedig

Yn eich gwaith cysylltiadau cyhoeddus

Mewn hysbysebion

Page 24: Keep It Real Welsh

24 Hyrwyddo hygrededd

Denwyd cwsmeriaid teyrngar iawn i Ganolfan Gynadledda Trigonos ar ôl iddo ennill Gwobrau Twristiaeth Werdd Eryri yn 2008. Meddai Richard o Trigonos, ‘mae’r wobr yn cefnogi ein honiadau o ran cynaliadwyedd ac rydym yn arddangos y logo ar ein gwefan. Fodd bynnag, rydym wedi gweld bod y wobr yn meddwl mwy i’n cwsmeriaid pan fyddant yn ymweld â ni. Gallant weld ein bod yn cadw at ein gair a sut mae’n rhan o’n hunaniaeth. Oherwydd hyn mae ein cwsmeriaid presennol yn aml yn dychwelyd dro ar ôl tro a bellach maent yn un o’n ffyrdd mwyaf effeithiol o ddenu busnes newydd gan eu bod yn ein hargymell i eraill.’

Ond os enillwch wobr, defnyddiwch hi i ennyn hyder a ffydd yn eich ansawdd. Y newyddion da yw y gallwch ymgeisio am wobrau am ddim ac mae’r gydnabyddiaeth yn para am gyfnod hirach o lawer. O ran busnesau newydd, ymgeisiwch am wobrau lleol/rhanbarthol drwy eich Awdurdod Lleol a chadwch lygad hefyd ar Wobrau Cenedlaethol fel Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru sy’n cynnwys categori Twristiaeth Gynaliadwy.

Nid oes llawer o gwmnïau’n ennill gwobrau. Gallech dreulio llawer o amser ar hyn yn ofer, a bydd angen i chi ddangos rhywbeth unigryw ac arbennig.

Gwobrau

Mae Gwesty Crafnant wedi ymgeisio am amrywiaeth o wobrau cynaliadwyedd a’u hennill am eu gerddi a’u bywyd gwyllt, ynghyd â thwristiaeth gynaliadwy leol. Meddai Mike o Grafnant, ‘rydym yn falch iawn o’r gwobrau am eu bod yn ffordd wych o ddangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd i’n cwsmeriaid yn annibynnol. Rydym yn arddangos dolenni a logos ar ein gwefan, ac erbyn hyn rydym hyd yn oed yn cael cwsmeriaid yn dod o wledydd mor bell ag Awstralia i weld ein gerddi a’n bywyd gwyllt’

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 25: Keep It Real Welsh

Where do I tell?

Mae tafarn a llety The Felin Fach Griffin, ger y Gelli Gandryll, yn encilfa wledig ac mae cynaliadwyedd yn bwysig iawn iddo. Mae wedi cael sylw mewn sawl erthygl mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol yn ogystal â chylchgronau teithio a bwyd sydd â diddordeb arbennig yn ei Erddi Llysiau Organig.

Meddai Charles, y perchennog, ‘rydym yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw sylw a gawn yn y wasg drwy gynnwys dolenni i bob erthygl ar ein gwefan a chynnwys dyfyniadau perthnasol ar bob tudalen. Yn ogystal â meithrin diddordeb ymysg cwsmeriaid ar y pryd, mae’r erthyglau hefyd o werth yn y tymor hwy drwy ychwanegu hygrededd at yr hyn rydym yn ei gynnig.’

Mae toreth o gwmnïau tebyg iawn yn cysylltu â golygyddion teithio, yn honni eu bod yn gynaliadwy. Eu cwestiwn? “Beth sy’n eich gwneud chi’n wahanol, mewn ffordd a fydd yn annog fy nghwsmeriaid i ddarllen amdanoch?”

Mae gwaith ymchwil VisitEngland yn nodi bod 21% o gwsmeriaid wedi mynd ar wyliau a argymhellwyd mewn papur newydd neu gylchgrawn.*

Rydym yn gweld straeon diddorol yn y tudalennau teithio bob wythnos – sut y gallwch sicrhau sylw i’ch busnes yn y rhain? Drwy fod yn unigryw.

Y wasg

Manteisiwch ar unrhyw sylw a gewch yn y wasg – rhowch ddolenni at y sylw hwn ar eich gwefan, nodwch yn eich gohebiaeth eich bod wedi cael sylw cadarnhaol, defnyddiwch ddyfyniadau o’r erthygl i ddangos eich rhinweddau. Mae gwerth i sylw o’r gorffennol hyd yn oed. Gallai dyfyniad o gyhoeddiad cenedlaethol gael mwy o effaith na chynllun ardystio nad oes cynifer o bobl yn ymwybodol ohono.

Hyrwyddo hygrededd 25

Manteisiwch ar unrhyw sylw a gewch yn y wasg – rhowch ddolenni ar eich gwefan

*Trigolion Lloegr sy’n creu’r dwristiaeth ddomestig fwyaf yn y DU, gan fod yn gyfrifol am 91% o deithiau dros nos (UKTS 2010). Yng Nghymru, 77% o’r ymwelwyr ddaw o Loegr (UKTS 2010). Mae canfyddiadau o waith ymchwil a gynhaliwyd gan VE, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar farn/ymddygiad trigolion Lloegr, yn berthnasol iawn i fusnesau twristiaeth Cymru.

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 26: Keep It Real Welsh

26 Hyrwyddo hygrededd

Cynaliadwyedd: adroddwch eich stori

Mae Jacky a Graham o lety Coed Cae B&B (Dolgellau) yn adrodd stori eu ‘taith at wresogi cynaliadwy’ ar eu gwefan. Drwy ysgrifennu am eu hanturiaethau gyda llosgwyr pren a brics glo, maent wedi meithrin enw da fel arbenigwyr annibynnol ac yn denu gwesteion sy’n dod i arsylwi a dysgu. Gallwch eu clywed yn aml yn sgwrsio am frics glo dros frecwast! Drwy adrodd stori, gall cwsmeriaid uniaethu â chi a’r hyn rydych yn ei wneud, a byddant am wybod mwy.

Beth yw eich stori ac a yw eich gwefan yn ei hadrodd?

Fel rheol, bydd eich holl wybodaeth am gynaliadwyedd ar un dudalen o dan bennawd tebyg i bolisi cynaliadwyedd. Fel arfer, rydym yn gweld rhestrau diflas o weithredoedd sy’n gysylltiedig â dwr, gwastraff ac ynni wedi’u hysgrifennu mewn iaith ffurfiol – nid wyf yn debygol o godi’r ffôn ar ôl darllen eich bod yn “lleihau gwastraff drwy werthuso gweithrediadau a sicrhau eu bod yn addas at y diben.”

Ar bob cyfrif, uwchlwythwch eich polisi a rhestrwch eich cyflawniadau ar eich gwefan, ond ar y cyfan ni fydd llawer o gwsmeriaid yn ymweld â hi. Wrth gwrs, mae yna eithriadau... ond mae angen i chi fod yn fwy creadigol.

Mae’n gyfle rhy dda i’w golli. Gwnewch i mi deimlo eich bod o ddifrif, dangoswch i mi beth sy’n dda am yr hyn rydych yn ei wneud a sicrhewch eich bod yn ei diweddaru.

Eich gwefan

Mae angen ymgorffori’r agweddau ar gynaliadwyedd sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag ansawdd, o safbwynt cwsmeriaid, ymhob rhan o’r wefan. Disgrifiwch ystafell wely dawelwch a chynhesach (wedi’i hinswleiddio’n well, systemau gwresogi biomas), bwydlen fwy blasus (cynnyrch lleol a dwyieithog), gwesty wedi’i ddylunio mewn ffordd fwy personol ac unigryw (gyda chrefftau lleol)...

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 27: Keep It Real Welsh

Mae Asheston Eco Barns (Sir Benfro) yn dangos eu hymrwymiad i gynaliadwyedd yn uniongyrchol ac yn glir iawn, ond maent yn cyfleu hyn drwy gyfuno’r hen a’r newydd i gynnig amgylchedd cysurus a chyfleusterau modern o’r radd flaenaf. Maent yn hudo cwsmeriaid drwy adrodd straeon am adnewyddu eu hadeiladau fferm a wnaed o gerrig Cymreig gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol; yn disgrifio system wresogi o dan y llawr sy’n eich cadw’n gynnes drwy’r amser ac sy’n hyfryd i gerdded arno; ac yn gwneud i chi deimlo’n gynnes drwy siarad am losgwyr pren traddodiadol sy’n eich cadw’n glyd gyda’r nos. Mae’r negeseuon yn dangos i gwsmeriaid nad yw bod yn ecogyfeillgar yn gyfaddawd, mae’n ymwneud â mwynhau cyfaredd yr hynafol a’r traddodiadol ochr yn ochr â’r cyfforddusrwydd y gall technolegau newydd ei gynnig. www.eco-barns.co.uk

Mae dwy fferm organig yng Nghymru yn rhan o Feather Down Farm Days, sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd mewn ffordd ymhlyg gyda’u lluniau a’u testun ond heb gynnwys yr un gair am eu polisïau amgylcheddol, eu trefniadau rheoli gwastraff na’r negeseuon ffeithiol a welwn yn aml. Yma, mae’r pwyslais ar roi’r cwsmer wrth wraidd profiad natur teuluol sy’n eich dwyn yn agosach at natur ac yn gwneud i chi werthfawrogi ei phrydferthwch a’i bregusrwydd. Mae pob neges yn ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn sy’n gysylltiedig ag antur a bod yn rhan o deulu. www.featherdown.co.uk

Cymharwch ddwy wefan sy’n sôn am gynaliadwyedd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Mae’r ddwy wedi deall eu marchnad a chyflwyno eu nodweddion cynaliadwy mewn cyd-destun.

Mae angen dulliau cyfathrebu

gwahanol ar bob marchnad

Hyrwyddo hygrededd 27

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 28: Keep It Real Welsh

28 Hyrwyddo hygrededd

Os oes gennych rywbeth diddorol i’w ddweud, bydd pobl yn dechrau eich dilyn

Heb os, rydym yn byw mewn oes ddigidol. Felly, dechreuwch flogio a defnyddio Twitter, Facebook a rhwydweithiau cymdeithasol eraill i ddweud wrth eraill am yr hyn rydych yn ei wneud – yn y pen draw byddwch yn gaeth iddynt!

Os oes gennych rywbeth diddorol i’w ddweud a’ch bod yn gallu troi eich llaw at y rhyngrwyd, bydd grwp o bobl yn dechrau eich dilyn. Mae llawer o wefannau cyfryngau cymdeithasol am ddim, ac mae eich partneriaeth dwristiaeth leol yn debygol o gynnal hyfforddiant yn eich ardal neu wybod amdano.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae Preseli Venture Eco Lodge and Adventures yn cynnig gwyliau gweithgarwch ac antur awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Drwy flogio a defnyddio Twitter, Facebook ac Youtube, mae Preseli Venture wedi denu dilynwyr teyrngar i’w brand mewn ffordd hollol ryngweithiol. Gall gwesteion bostio eu barn a lluniau o’u hanturiaethau ar Facebook a gwahoddir gwesteion creadigol i gyflwyno blogiau.

Nid ydynt yn rhoi pwyslais ar gynaliadwyedd. Mae’r pwyslais ar antur a hwyl mewn ardal o harddwch eithriadol, a chael profiad a gofiwch am byth – mae cynaliadwyedd yn cael ei ymgorffori fel rhan o hyn.

Gallwch ddarllen mwy yn www.preseliventure.co.uk/blog/ http://www.facebook.com/preseliventure

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 29: Keep It Real Welsh

Hyrwyddo hygrededd 29

Yn y cyfamser, mae angen sicrhau eich bod yn cael sylw

Mae nifer gynyddol o gyfryngau y gallwch eu defnyddio at ddibenion hyrwyddo. Mae eich enw da o ran cynaliadwyedd yn werthfawr i’r cyfryngau sy’n arbenigo mewn teithio cynaliadwy a chyfryngau eraill.

Er bod nifer y gwefannau sy’n hyrwyddo nodweddion cynaliadwy yn cynyddu, mae’r farchnad yn fach o hyd. Ar hyn o bryd, y cyfryngau rydych eisoes yn eu defnyddio yw’r rhai mwyaf defnyddiol i gyfleu eich gwybodaeth am gynaliadwyedd – rydych eisoes yn gwybod sut mae’r cyfryngau hyn yn gweithio a nawr mae’n amser i chi fod ychydig yn fwy unigryw.

Os ydych wedi eich cynnwys yn Special Places to Stay gan Alastair Sawday, neu’r Good Hotel Guide, dylech nodi hynny ar eich gwefan – nid ydych yn debygol o golli cwsmeriaid i’r gwefannau eraill hyn; wedi’r cyfan, mae ystadegau’n dangos bod y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn dewis trefnu gwyliau’n uniongyrchol. Drwy ddangos eich bod ar y rhestrau hyn, byddwch yn darparu tystiolaeth bellach o’ch hygrededd.

Mae rhai gwefannau, er engraifft greentraveller.co.uk yn hybu llety a gwyliau gwyrdd y gellir eu cyrraedd ar y trên. Y meini prawf dethol yw Ynni; Gwastraff; Dwr; Bwyd; a Thrafnidiaeth Gyhoeddus.

Mae greentraveller yn gwahaniaethu rhwng cwmnïau sy’n gweithredu i safon ofynnol yn unig (megis ailgylchu, defnyddio bylbiau golau rhad-ar-ynni a the a choffi masnach deg) a’r cwmnïau hynny sydd wedi gwneud newidiadau sylweddol – e.e. cyflenwadau

Marchnata drwy

gyfryngau eraill

ynni amgen, gostyngiadau i westeion sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, neu benderfynu rhoi’r gorau i weithgareddau sy’n cynhyrchu llawer o garbon e.e. “yn y gorffennol roedden ni’n cynnig teithiau mewn cerbydau 4x4, ond bellach rydyn ni’n trefnu teithiau cerdded.”

At hynny, mae’n ystyried bod gwobr gan gynllun ardystio cydnabyddedig, fel y Cynllun Busnes Twristiaeth Gwyrdd, yn arwydd gwerthfawr o ymrwymiad busnes i gyfrifoldebau amgylcheddol.

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 30: Keep It Real Welsh

30 Hyrwyddo hygrededd

Mae sut rydych yn dweud rhywbeth yr un mor bwysig â’r hyn rydych yn ei ddweud... felly a ydych yn falch o’ch erthyglau ar wefannau neu mewn llyfrynnau gwyliau? Mae gwaith ymchwil yn dangos mai eich llun, eich enw a’ch brawddeg gyntaf sy’n annog pobl i ddarllen mwy. Ond yna mae’n rhaid sicrhau bod eich testun yn ddeniadol hefyd!

Cymharwch y ddwy enghraifft hon ar gyfer gwesty lle mae un darn wedi’i ysgrifennu ar wefan y gwesty a’r llall ar wefan trydydd parti. Pan fydd trydydd parti yn ysgrifennu am eich gwesty, ceisiwch roi rhywbeth mwy cyffrous iddynt ei ddweud!

Darllenwch beth mae eraill

yn ei ysgrifennu amdanoch

BETH I’W WNEUD!

“Mae pob un ohonom yn falch iawn o’r ffaith ein bod yn gwneud popeth ein hunain, gan gynnwys jam, mêl, bara a chawl...”. Mae hyn yn dweud rhywbeth wrthym am eich gwerthoedd ac yn siarad â’r cwsmer – heb orfod dweud “gwrandewch, rydyn ni’n gynaliadwy”. Mae defnyddio “chi” a “ni” yn hytrach na’r trydydd person hefyd yn helpu.

YR HYN NA DDYLECH EI WNEUD!

“Bydd Gwesty X yn ystyried goblygiadau amgylcheddol ei holl weithgareddau. Er mai cyfrifoldeb y rheolwyr yw hyn yn y pen draw, mae gan bob aelod o staff rôl i’w chwarae o ran lleihau effeithiau andwyol ar yr amgylchedd. I’r perwyl hwnnw, bydd Gwesty X yn hyrwyddo’r defnydd gorau o arferion amgylcheddol. Bydd Gwesty X yn datblygu ac yn caffael rhaglenni ar gyfer gweithredu ei Bolisi Amgylcheddol ac yn eu monitro a’u harchwilio drwy system reoli amgylcheddol.”

Ym mhle dylwn i ddweud?

Page 31: Keep It Real Welsh

When do I tell?

31 Keep it real

Pryd ddylwn i sôn am y peth?

Mewn gwirionedd, rydych yn marchnata eich cwmni drwy’r amser. Felly, ystyriwch yr holl adegau gwahanol y gallwch gyfathrebu a

sut mae’r hyn rydych yn ei ddweud yn helpu cwsmeriaid i wneud penderfyniadau ar yr adegau hynny.

31Hyrwyddo hygrededd

Page 32: Keep It Real Welsh

32 Hyrwyddo hygrededd

Mae angen gwybodaeth ar gwsmeriaid i’w helpu i wneud penderfyniadau. Gall hyn ymwneud â nifer y calorïau mewn paned o de o gymharu â latte llaeth sgim, trafnidiaeth gyhoeddus neu allyriadau CO

2

eu taith.

Er enghraifft, mae gwestai cadwyn yn dechrau cyfrifo cost amgylcheddol cyfarfodydd busnes i bwysleisio eu bod yn cynhyrchu llai o garbon na’u cystadleuwyr. Hefyd, mae angen i westai ddweud wrth gwsmeriaid sut i gyrraedd yno mewn ffordd ecogyfeillgar ac, yn bwysig, beth y gallant ei wneud yno heb gar.

Dywedwch wrth y cwsmer pam y dylai brynu gennych. Esboniwch pam bod eich cynnyrch o ansawdd gwell, yn cynrychioli gwell gwerth am arian neu, yn syml, yn ddewis mwy atyniadol oherwydd y gwaith cynaliadwy rydych yn ei wneud.

Cyn archebu/prynu

Mae Gwasanaethau Bysiau Arfordirol Lonydd Glas yn dweud y gallwch ddefnyddio bysiau cyhoeddus sy’n rhedeg ar olew llysiau i grwydro arfordir trawiadol Sir Benfro, ond mae hefyd yn cynnig cyfle i chi weld y teithiau hyn ar-lein drwy ei deithiau rhithwir. Mae darparu’r wybodaeth hon ymlaen llaw yn helpu ymwelwyr i wneud penderfyniadau teithio.

www.pembrokeshire.gov.uk/coastalbuses

Mae Hidden Valley Yurts (Sir Fynwy) yn darparu map a lluniau ar eu gwefan yn dangos y teithiau a’r llwybrau cerdded y gallwch eu mwynhau ar eu fferm 80 erw. Mae’r wybodaeth hon yn dangos i ymwelwyr sut y gallant fwynhau’r awyr agored ar eu gwyliau heb adael y fferm hyd yn oed, ac mae’n lleihau’r angen i deithio mewn car heb ymddangos yn rhy neis-neis.

Adeiladwyd Wern Watkin Bunkhouse (Bannau Brycheiniog) drwy ddefnyddio arferion cynaliadwy ac mae wedi ei ardystio i safon aur y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd. Er mwyn apelio at amrywiaeth o ddarpar gwsmeriaid mae’r perchennog, Andrew Fryer, yn cyfleu rhinweddau gwyrdd Wern Watkin mewn ffyrdd a lleoliadau gwahanol. Er mwyn cyrraedd pobl sydd ag egwyddorion cryf o ran cynaliadwyedd, mae’n hysbysebu yn Clean Slate, cylchgrawn Cyfeillion y Ddaear ac ar wefan y Parc Cenedlaethol, lle mae’n siarad yn agored am gynaliadwyedd. Ar ei wefan mae’r negeseuon hyn yn fwy cynnil ac yn ymwneud â gwyliau cerdded a gweithgareddau awyr agored yng nghefn gwlad lleol, sy’n apelio at bobl nad ydynt mor angerddol ynghylch cynaliadwyedd. Drwy deilwra negeseuon at farchnadoedd targed gwahanol, mae llety Wern Watkin bellach yn llawn am 80% o’r flwyddyn, a gellir priodoli 15% o hyn i hysbysebion amgylcheddol.

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 33: Keep It Real Welsh

Rhowch wybod i’ch cwsmer sut i baratoi am ei ymweliad – beth i ddod gydag ef, pa fath o ymddygiad sy’n dderbyniol, cod gwisg (os yn berthnasol), sut i barchu defnyddwyr eraill a fydd yno.

Ni chewch ail gyfle i wneud argraff gyntaf

Dyma’r adeg i sicrhau bod teithio atoch yn fwy ecogyfeillgar – rhowch wybodaeth am amserlenni a chyrchfannau trafnidiaeth gyhoeddus, gwefan neu wasanaeth ffôn Traveline, sut y byddwch yn dod o hyd i amseroedd trafnidiaeth gyhoeddus i’ch ymwelwyr, sicrhau bod gennych restr o bethau i’w gwneud heb gar yn yr eiddo ei hun neu gerllaw...

Yn yr un modd, os gallwch gael gafael ar nwyddau lleol ar gyfer eu harhosiad, dyma’r adeg i’w hannog i archebu ymlaen llaw – mae hyn yn arbennig o fuddiol ar gyfer eiddo hunanarlwyo mewn lleoliadau gwledig, ond nis gwneir yn ddigon aml.

Ar ôl cyrraedd

Ni chewch ail gyfle i wneud argraff gyntaf. A fydd eich derbynfa yn cyfleu’r neges eich bod yn gwastraffu golau a bod gwres yn dianc allan drwy’r drws ffrynt?

Mae edrychiad neu deimlad eich busnes, boed yn ddarparwr llety, yn atyniad, yn lleoliad cynadledda neu’n fwyty, yn dangos a yw cynaliadwyedd wir yn bwysig i chi.

Os oes gennych nifer fawr o gwsmeriaid, mae’n bosibl mai dim ond eich polisi cynaliadwyedd y gallwch ei arddangos, ynghyd â thudalen yn nodi “Beth rydym wedi ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy” i ddangos bod hwn yn bolisi parhaus, beunyddiol.

Rhwng archebu a chyrraedd

Gall busnesau llai, fel eiddo hunanarlwyo, gyfathrebu â’u cwsmeriaid wyneb yn wyneb. Pan fydd cwsmeriaid yn cyrraedd, gallant rannu eu gwerthoedd â hwy wrth eu tywys i’w llety ac esbonio sut mae agweddau gwahanol yn gweithio e.e. cyfleustodau, gwres ac ati.

Mae angen i chi ystyried beth sy’n gweithio i’ch busnes chi.

Hyrwyddo hygrededd 33

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 34: Keep It Real Welsh

34 Hyrwyddo hygrededd

Dywedwch wrth eich cwsmeriaid yr hyn y maent am ei glywed

Mae Gwesty Gwledig Gliffaes (Bannau Brycheiniog) yn cyfleu ei neges gynaliadwy mewn ffordd draddodiadol, gymharol sych. Nid oes yr un cwsmer erioed wedi gwneud sylw am ei negeseuon cynaliadwyedd, felly nid yw James Suter, perchennog Gliffaes, yn eu cymryd o ddifrif. Y broblem yw nad yw’n ymgysylltu â’r cwsmeriaid.

Ar hyn o bryd mae’n dweud: “Ym mis Ionawr 2008 gwnaethom inswleiddio’r gwagle uwchben nenfwd yr ystafelloedd gwely gyda thros 400m2 o ddeunydd inswleiddio gwlân dafad.”

Rydyn ni’n cynnig: “Bydd ein defaid yn eich cadw’n gynnes gyda’r nos, oherwydd mae dros 400m2 o wlân ein defaid yn inswleiddio nenfwd yr ystafelloedd gwely. Cysgwch yn dawel.”

Yn yr un modd, maent nawr yn dweud: “Erbyn hyn rydym yn compostio ein holl wastraff bwyd mewn compostiwr bwyd masnachol mawr sy’n cyflymu’r broses gompostio ac wrth wneud hynny yn arallgyfeirio rhwng 12 a 15 tunnell o wastraff y flwyddyn o safleoedd tirlenwi i’n gerddi”

Rydyn ni’n cynnig: “Yn aml mae pobl yn gofyn i ni sut rydym yn gofalu am ein gerddi mor dda drwy gydol y flwyddyn – y gyfrinach yw bod dros 12 tunnell o fwyd yn cael ei brosesu yn ein compostiwr masnachol penigamp bob blwyddyn.”

Pryd ddylwn i ddweud?

Astudiaethau achos go iawn

Page 35: Keep It Real Welsh

Dyma eich cyfle i gyfathrebu drwy ddangos beth rydych yn ei wneud. Penderfynwch i ba raddau rydych am i’r hyn a ddywedir effeithio ar brofiad y cwsmer, neu a ydych am iddo fod yn y cefndir yn unig.

Mae rhai gwestai pum seren yn cwtogi ar y wybodaeth a arddangosir i sicrhau nad effeithir ar y canfyddiad o ansawdd, tra bod busnesau eraill yn dewis arddangos llawer o negeseuon cryno (er enghraifft, nodiadau am ddefnyddio llai o ddwr yn y gawod, nodyn am yr hyn y gellid ei wneud gyda’r trydan a ddefnyddir drwy beidio â diffodd golau wrth fynedfa’r ystafell wely).

Mae Gwesty Dunoon (Llandudno) yn gwella profiad ei westeion gyda gwasanaeth glanhau nad yw’n defnyddio unrhyw gemegion! “Mae ein gweithredoedd cynaliadwy yn y cefndir ac nid ydym yn brolio amdanynt. Rydym yn rhoi’r cyfle i westeion ddysgu am ein prosiectau cynaliadwy drwy ysgrifennu amdanynt yn y pecynnau gwybodaeth yn yr ystafelloedd. Mae llawer o westeion yn synnu ein bod yn gwneud cymaint a’u bod yn dal i gael yr un profiad arbennig, ac nad yw cynaliadwyedd wedi amharu ar eu mwynhad.

Un enghraifft o sut rydym wedi gwneud hyn yw defnyddio clytiau glanhau Enjo nad ydynt yn cynnwys cemegion yn y gwesty. Mae ein gwesteion yn dweud wrthym yn aml eu bod yn mwynhau aros mewn ystafelloedd nad ydynt yn arogli o hylif cannu ac mae ein busnes yn cael budd o gostau llai o ran dwr poeth ac mae’r staff yn ei chael yn haws i lanhau bellach. Gwnaeth ein buddsoddiad dalu ffordd o fewn blwyddyn, a bellach rydym yn ailfuddsoddi’r arbedion o ran costau mewn mentrau cynaliadwyedd eraill i sicrhau ein bod yn darparu’r ansawdd a’r amgylchedd cysurus y mae ein gwesteion yn eu disgwyl. Nid yw’n denu cwsmeriaid newydd, ond mae’n cyfrannu at eu boddhad.”

I ddarparwyr llety, y porwr ystafelloedd gwely yw’r lle gorau i roi’r holl wybodaeth gefndirol a mwy technegol – y math o wybodaeth na fyddai’n denu cwsmeriaid newydd ond a fyddai’n helpu i ategu’r holl

Yn ystod yr arhosiad/ymweliad

bethau rydych yn eu gwneud. Mae’r ambell unigolyn ymroddedig sy’n ei darllen yn debygol o’i gwerthfawrogi.

Ar gyfer eich porwr ystafelloedd gwely gallech argraffu dwy restr:

“dyma’r pethau y gallwch eu gweld” – mae ein mêl yn fwy blasus am ei fod yn lleol, rydym yn gweini dwr wedi’i ffiltro am ddim er mwyn osgoi cludo gwydr a lleihau gwastraff, mae ein goleuadau clyfar yn dod ymlaen yn awtomatig yn ôl yr angen. Gyda’ch help chi gwnaethom gasglu £500 ar gyfer ein clwb bywyd gwyllt lleol...

“a dyma’r pethau na allwch eu gweld” – rydym wedi arbed digon o olew/nwy/trydan i wneud X, rydym wedi arbed digon o ddwr i wneud X, rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon X...

Hyrwyddo hygrededd 35

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 36: Keep It Real Welsh

36 Hyrwyddo hygrededd

Yn cyflwyno: John a Marje Rickerby. Yn llety hunanarlwyo Rose Cottage yn Dutlas (Powys) rydym bob amser yn atgoffa cwsmeriaid i fod yn gynaliadwy pan fyddant yn aros gyda ni.

Beth a wnawn: Ein hymdrech i ddenu bywyd gwyllt, yn arbennig adar, yw’r unig neges gynaliadwy sy’n cael ei chanmol gan ein cwsmeriaid yn adolygiadau TripAdvisor. Ein hystafell haul yw ein prif atyniad. Gallwch weld llawer o adar amrywiol ac, yn aml, ddyfrgwn.

Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu mynd gryn dipyn ymhellach yn y bwthyn ar ôl i gwsmeriaid gyrraedd, er rydym yn deall na fydd pob un ohonynt yn rhy hoff o’r syniad. Dewis personol ydyw a deallwn na fydd o reidrwydd yn denu cwsmeriaid ond, yn ein tyb ni, nid yw’n rheswm iddynt beidio â dychwelyd.

Unwaith y byddant wedi cyrraedd...

…gallwch ddweud llawer mwy wrthynt!

Rydym yn ei gwneud yn anodd iawn i’n cwsmeriaid beidio ag ailgylchu – mae saith bin didoli gwastraff ac arwyddion sy’n datgan bod gwastraff heb ei ddidoli yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ceir mesuryddion ynni sy’n dangos iddynt faint maent yn ei ddefnyddio, ac mae’r gosodiadau gwres a hysbysiadau yn annog darbodusrwydd. Yn yr ystafell ymolchi rydym yn dweud wrthynt am arbed dwr ac yn yr ystafell haul mae gennym gylchgronau a fideos amgylcheddol.

Ein cyngor craff: Dewch o hyd i ffordd o gyfuno’r agweddau ar gynaliadwyedd y gellir eu marchnata’n hawdd a’u cyfleu’n uniongyrchol, gan gynnwys unrhyw negeseuon rydych am eu rhannu neu eu cyfleu fesul tipyn yn ystod yr arhosiad.

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 37: Keep It Real Welsh

When do I tell?

Hyrwyddo hygrededd 37

Cadwch mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid. Byddai siarad am gynaliadwyedd yn cael mwy o groeso na neges hyrwyddo uniongyrchol sy’n dweud “dewch i aros gyda ni eto.”

Os gwelodd eich cwsmeriaid chi’n plannu coed, rhowch wybod iddynt sut maent yn tyfu. Os oedd gennych luniau o ysgol leol, rhowch wybod i gwsmeriaid eich bod bellach yn siarad ag ysgolion eraill ac esboniwch sut mae’r plant hyn yn dysgu o’r hyn a welsant yn eich cwmni.

Mae gwesty cadwyn teuluol mawr yn cyhoeddi cylchlythyr blynyddol sy’n cynnwys newyddion am enedigaethau, priodasau, ymddeoliadau a marwolaethau ymysg eu personél, ymhlith pethau eraill. Mae’n un ffordd arall o ddangos bod eu staff yn cael eu cyflogi yn yr hirdymor ac mae’n annog teyrngarwch ymhlith cwsmeriaid sy’n effeithiol iawn.

Ar ôl yr arhosiad/ymweliad

Os oedd gennych luniau o ysgol leol, rhowch wybod i gwsmeriaid eich bod bellach yn siarad ag ysgolion eraill

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 38: Keep It Real Welsh

38 Hyrwyddo hygrededd

Datblygu fferm fach

Yn cyflwyno: Philippa Pickworth. Mae’r teuluoedd sy’n ymweld â Bythynnod Gwyliau Banceithin wrth eu boddau’n cyfranogi ac yn dysgu am ddatblygiad ein fferm fach a’r elusennau rydym yn eu cefnogi.

Beth a wnawn: Nid yw profiad Banceithin yn gorffen pan fo’r cwsmeriaid yn gadael. Mae llawer o gwsmeriaid wedi dweud wrthym eu bod wir am glywed y diweddaraf gennym, felly rydym yn gwneud hynny’n hawdd drwy ddefnyddio Facebook, Twitter a’n blog. Rydym yn adrodd straeon gonest am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, moch drygionus newydd a heidiau o wenyn, a hynt a helynt tyfu tomatos a’n twnelau polythen.

Nid hysbysebu yw hyn. Rydym yn rhoi cyfle i’n cwsmeriaid fod yn rhan o’n taith pan fyddant adref. Mae’n gwneud iddynt chwerthin, yn rhoi pwnc trafod iddynt dros baned o de ac o bosibl yn eu hysbrydoli i fyw mewn ffordd fwy ecogyfeillgar. Un o sgîl effeithiau’r dull cyfathrebu hwn yw ein bod yn parhau yn eu meddyliau pan fyddant yn trefnu eu gwyliau nesaf, neu’n argymell rhywle i’w ffrindiau.

Ein cyngor craff: Cadwch mewn cysylltiad â’ch cwsmeriaid, sicrhewch eich bod yn eu hatgoffa o’r hyn a wnaeth eu profiad yn un arbennig a’ch bod dal yno. Mae’n dangos eu bod yn bwysig i chi, yn cynnig ysbrydoliaeth ac yn rhoi rheswm iddynt ddychwelyd.

Pryd ddylwn i ddweud?

Astudiaethau achos go iawn

Page 39: Keep It Real Welsh

Beth wnewch chi’n wahanol ar ôl darllen y pecyn cymorth hwn? Y tabl hwn.

Amser gweithredu!

Beth rydych eisoes yn ei wneud?

Wrth bwy y dylwn i ddweud? Dewiswch un math o gwsmer ar y tro – mae gan bawb ddiddordeb mewn pethau gwahanol.

Pam ddylwn i sôn am y peth? Dewiswch un prif reswm.

Beth ddylwn i ei ddweud? Gwnewch yn siwr y bydd y cwsmer yn gwerthfawrogi’r hyn rydych yn ei ddweud wrthynt – sicrhewch ei fod yn ddiddorol ac yn hawdd ei glywed a gweithredu arno.

Ble dylwn i ddweud? Ceisiwch werthu’n uniongyrchol, os yw’n bosibl, i gwsmeriaid presennol drwy adrodd straeon sydd o ddiddordeb iddynt ac sydd wedi’u hategu gan ffeithiau.

Pryd ddylwn i sôn am y peth? Ar sawl achlysur, fwy na thebyg, gan sicrhau bod y neges yn gyson

Beth rydych am ei wneud?

Beth sydd ei angen arnoch i gyflawni hyn?

Pwy all eich helpu?

Hyrwyddo hygrededd 39

Pryd ddylwn i ddweud?

Page 40: Keep It Real Welsh

40 Hyrwyddo hygrededd

Diolch…

Asheston Eco Barns www.eco-barns.co.uk

Bythynnod Gwyliau Banceithin www.banceithin.com

Bryn Bella www.bryn-bella.co.uk

Call of the Wild www.callofthewild.co.uk

Llety Gwely a Brecwast Coed Cae www.coedcae.co.uk

Gwesty Crafnant www.trefriw.co.uk

Feather Down Farm Days www.featherdown.co.uk

Gwesty Gwledig Gliffaes www.gliffaeshotel.com

Graig Wen www.graigwen.co.uk

Greentraveller www.greentraveller.co.uk

Gwasanaethau Bysiau Arfordirol Lonydd Glas www.pembrokeshire.gov.uk/coastalbuses

Parc Antur Gelli Gyffwrdd www.greenwoodforestpark.co.uk

CydnabyddiaethauComisiynwyd a lluniwyd gan Visit Wales.

Ysgrifennwyd gan Dr Xavier Font a Ms. Sam Tyers, y Ganolfan Ryngwladol dros Dwristiaeth Gyfrifol, Prifysgol Fetropolitan Leeds

©Awdurdod Twristiaeth Prydain (yn masnachu fel VisitEngland) a’i bartneriaid twristiaeth rhanbarthol (prif destun).

Mae Croeso Cymru yn ddiolchgar iawn i VisitEngland a’i bartneriaid twristiaeth rhanbarthol am ganiatáu iddo atgynhyrchu testun craidd y cyhoeddiad ‘Keep It Real’ a’i gynnwys yn llawn yn y ddogfen hon.

Mae partneriaid rhanbarthol VisitEngland fel a ganlyn: East of England Tourism; East Midlands Tourism; Advantage West Midlands; London Development Agency; Northwest Regional Development Agency; One North East; South West Tourism; Tourism South East; a Welcome to Yorkshire.

Deunydd cyfeirioCroeso Cymru (2011) Hyrwyddo hygrededd: marchnata a chyfleu eich rhinweddau gwyrdd.

Hidden Valley Yurts www.hiddenvalleyyurts.co.uk

Lon Lodges www.lonlodges.co.uk

Nannerth Fawr www.nannerth.co.uk

Llety Gwely a Brecwast Northlodge Organic www.northlodgewales.co.uk

Preseli Venture Eco Lodge and Adventures www.preseliventure.co.uk

Rose Cottage Dutlas www.rosecottagedutlas.com

The Bridge Café www.bridgecafe.co.uk

Canolfan y Dechnoleg Amgen www.cat.org.uk

Gwesty Dunoon www.dunoonhotel.co.uk

Tafarn Felin Fach Griffin www.eatdrinksleep.ltd.uk

Canolfan Gynadledda Trigonos www.trigonos.org

Wern Watkin Bunkhouse www.wernwatkin.co.uk

i’r busnesau a’r sefydliadau a roddodd wybodaeth ar gyfer y ddogfen hon.

Page 41: Keep It Real Welsh

i’r busnesau a’r sefydliadau a roddodd wybodaeth ar gyfer y ddogfen hon. Diolch…

Help!Cyn marchnata mae’n rhaid i chi roi trefn ar bethau. Mae Pecyn Cymorth Busnes Twristiaeth Gynaliadwy ar gael am ddim i bob busnes twristiaeth sydd â diddordeb mewn deall sut y gall ymgorffori cynaliadwyedd fel rhan o’i weithgareddau arferol. Mae wedi’i lunio i helpu busnesau i adolygu eu perfformiad a dangos sut y gall arferion cynaliadwy arbed arian, cynyddu effeithlonrwydd a’ch helpu i ddod yn fusnes gwell.

www.dmwales.com

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Croeso Cymru, beth am danysgrifio i dderbyn ein e-gylchlythyron a’r newyddion diweddaraf.

http://wales.gov.uk/topics/tourism

http://wales.gov.uk/topics/tourism/enewsletter

GwadiadCyhoeddir Hyrwyddo Hygrededd gan Croeso Cymru, Is-adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru © 2012. Croeso Cymru, Canolfan QED, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Trefforest, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 5YR.

Rhif ffôn: 0845 010 3300 Minicom: +44 (0)8701 211555

Ebost: infosustainabletourism@ wales.gsi.gov.uk

Rydym ni wedi ceisio’n galed iawn i wneud yn siwr fod bob dim yn gywir, ond ni allwn fod yn atebol am unrhyw gamgymeriadau, neu am adael pethau allan. Rydyn ni wedi gwirio pob un o’r gwefannau cyn cyhoeddi. Fodd bynnag, gan nad ni sy berchen arnyn nhw, ni allwn warantu na fyddan nhw’n newid. Cedwir pob hawl – peidiwch â chopïo pethau heb ofyn inni yn gyntaf. Nid barn Croeso Cymru o angenrheidrwydd yw’r rhai sy’n cael eu mynegi yng Nghylchgrawn Hyrwyddo Hygrededd.

Mae gan Croeso Cymru dîm Cysylltiadau Cyhoeddus a all helpu i hyrwyddo eich busnes. Gweler y linc isod i gael gwybod mwy.

http://wales.gov.uk/topics/tourism/marketing/publicrelations

http://wales.gov.uk/topics/tourism/development/sustainable

Am wybodaeth am dwristiaeth gynaliadwy a chynlluniau achredu dilys

www.walesthebrand.com

Am wybodaeth am hyrwyddo brand Cymru

http://wales.gov.uk/topics/tourism/marketing/

Am wybodaeth am dîm Marchnata Croeso Cymru

ISBN 978 07504 7005 6 / WG14204 / G/MH4222 / March / Cysodwyd mewn teip 12pt / © Hawlfraint y Goron 2012 Hyrwyddo hygrededd 41