Upload
samantha-williams
View
222
Download
5
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Cymraeg/Welsh Easy Read version of 3rd Learning Disability Advisory Group newsletter winter 2013/2014
Citation preview
30 Mlynedd a Dal i Gyfrif Gaeaf 2013/2014
Ar 14 Hydref 2013 cynhaliwyd digwyddiad i
ddathlu 30 mlynedd o Strategaeth Cymru
Gyfan.
Ysgrifennwyd Strategaeth Cymru Gyfan gan y
Swyddfa Gymreig ym 1983.
Amcan Strategaeth Cymru Gyfan oedd
gadael i bobl ag anabledd dysgu fyw
bywydau cyffredin yn eu cymunedau.
Dywedodd y dylai pobl ag anabledd dysgu:
gael dewisiadau
cael eu trin fel unigolion
cael help a chefnogaeth i fyw yn y
gymuned.
Helpodd Strategaeth Cymru Gyfan bobl ag
anabledd dysgu i ddechrau symud allan o
ysbytai mawr fel Hensol ac Threlái.
(Muy ar dudalen 2)
Newyddion GCADNewyddion GCADNewyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Strategaeth
Cymru Gyfan
1983
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 2 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Dechreuodd pobl fyw yn y gymuned gyda
chefnogaeth am y tro cyntaf yng Nghymru.
Gwnaeth Grŵp Cynghori ym maes Anabledd
Dysgu (GCAD), Mencap Cymru a Phobl yn
Gyntaf Cymru Gyfan i gyd helpu i dalu am y
digwyddiad.
Gwnaeth Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm
Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan helpu i
gynllunio’r digwyddiad.
Daeth pobl ag anabledd dysgu, teuluoedd a
phobl sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd
dysgu i gyd i’r digwyddiad.
Gwnaeth Roger Banks a Sophie Hinksman
gadeirio’r dydd gyda’i gilydd.
Siaradodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog
y Gwasanaethau Cymdeithasol, am y
newidiadau yng Nghymru i bobl ag anabledd
dysgu dros y 30 mlynedd diwethaf.
Siaradodd hefyd am y dyfodol a Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru).
(O dudalen 1)
(Muy ar dudalen 3)
Bil
Gwasanaethau
Cymdeithasol
a Llesiant
Gwenda
Thomas
Roger Sophie
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 3 Gaeaf 2013/2014
Deddf newydd Cymreig yw hwn ynglŷn â
ffyrdd y gall pobl gael help a chefnogaeth i
fyw eu bywydau.
Siaradodd Pobl yn Gyntaf Caerdydd am eu
prosiect yn ymwneud â’r profiad o fyw yn
Ysbyty Trelái.
Siaradodd Pauline Young am fod yn rhiant i
fab ag anabledd dysgu.
Cafodd pobl yn y digwyddiad gyfle i ddweud
eu storïau eu hunain am fyw yng Nghymru
dros y 30 mlynedd diwethaf.
Cafodd pawb gyfle hefyd i siarad mewn
grwpiau bach am wahanol bethau sy’n rhan
o fywyd cymunedol fel:
gwaith
trawsnewid
trosedd casineb.
Siaradodd pobl am eu bywydau eu hunain a
rhai o’r problemau roedden nhw’n eu
hwynebu.
(O dudalen 2)
(Muy ar dudalen 4)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 4 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Siaradon nhw hefyd ynghylch sut i wneud
pethau’n well.
Gwnaeth pob grŵp nodyn o beth roedd pobl
yn ei feddwl.
Bydd y nodiadau hyn yn cael eu rhoi mewn
adroddiad er mwyn i’r Grŵp Cynghori edrych
arnynt a meddwl beth y bydd arnyn nhw angen
ei wneud.
Gyda’r nos roedd pryd bwyd a disgo.
Siaradodd Jane Hutt, AC a’r Gweinidog Cyllid,
am brosiect Nimrod.
Cychwynwyd prosiect Nimrod ym 1981 gyda
gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd yn y
gymuned.
Erbyn 1986 roedd prosiect Nimrod yn rhoi
cefnogaeth i 150 o bobl ag anabledd dysgu
yng Nghymru fyw yn y gymuned.
(O dudalen 3)
(Muy ar dudalen 5)
Adroddiad
Jane Hutt
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 5 Gaeaf 2013/2014
Ysgrifennwyd Strategaeth Cymru Gyfan ym 1983
oherwydd y gwaith roedd prosiect Nimrod wedi
ei ddechrau.
Mae Jane Hutt yn ymddiriedolwr i Bobl yn
Gyntaf Y Fro.
Roedd yn dweud cymaint roedd Pobl yn Gyntaf
yng Nghymru wedi tyfu dros y ddeng mlynedd
ar hugain diwethaf.
Dywedodd Jane hefyd bod y Fframwaith ar
gyfer Byw’n Annibynnol yr un mor bwysig â’r Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i edrych yn ôl ar y
30 mlynedd diwethaf.
Roedd yn gyfle hefyd i feddwl ynghylch ble
rydyn ni nawr a ble mae arnon ni eisiau bod
mewn 30 mlynedd.
(O dudalen 4)
Nawr? 30 mlynedd?
Strategaeth
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 6 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru
Mae gwefan Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru
yn helpu pobl ag anabledd dysgu a’u
teuluoedd i ddod o hyd i wybodaeth hawdd
ei deall am iechyd a lles.
Mae llawer o wybodaeth hawdd ei deall ar y
wefan am bethau fel cael prawf gwaed neu
sut i wneud yn siŵr nad ydych chi’n mynd yn
rhwym.
Mae’r wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae fideos i helpu pobl ddeall y geiriau ar brif
dudalennau’r wefan.
Os oes arnoch chi eisiau help i ddod o hyd i
wybodaeth ar y wefan neu ei deall, gallwch
chi ffonio’r llinell gymorth ar 0808 808 1111.
Mae Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru yn cael
ei dalu amdano gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y wefan ei gwneud fel rhan o brosiect
am wybodaeth hawdd ei deall.
(Muy ar dudalen 7)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 7 Gaeaf 2013/2014
Gweithiodd Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm
Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Mencap
Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gyda’i
gilydd ar y prosiect.
Daeth y prosiect i ben ar 31 Mawrth 2013.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu arian fel bo
Samantha Williams yn gallu diweddaru’r
wefan a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod
amdano.
Samantha Williams yw Swyddog Gwybodaeth
y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu.
Ym aml mae iechyd pobl ag anabledd dysgu
yn waeth na iechyd pobl eraill.
Nid yw gwasanaethau iechyd bob amser yn
gwneud newidiadau i helpu pobl ag
anabledd dysgu gael gofal iechyd da.
Un ffordd y gall pobl ag anabledd dysgu aros
yn iach yw trwy gael gwybodaeth o safon
dda y gallan nhw ei deall.
(O dudalen 6)
(Muy ar dudalen 8)
Samantha
Williams
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 8 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae grŵp bach o bobl o’r Grŵp Cynghori yn
edrych pam y mae pobl ag anabledd dysgu
â gwaeth iechyd na phobl eraill a sut i’w
wneud yn well.
Bydd y grŵp yn dweud wrth y Grŵp Cynghori
beth maen nhw wedi ei ddarganfod.
Fe allwch chi edrych ar wefan Iechyd Hawdd
ei Ddeall Cymru yma:
www.iechydhawddeiddeallcymru.org.uk.
Gadewch i Samantha Williams wybod beth
rydych chi’n ei feddwl o’r wefan.
Gallwch chi hefyd siarad â Samantha os oes
gennych chi unrhyw wybodaeth hawdd ei
deall ynghylch iechyd i’w hychwanegu at y
wefan neu os hoffech chi gael posteri a
chardiau i ddweud wrth bobl eraill am y
wefan.
Gallwch chi ffonio Samantha ar 029 20681177
neu anfon e-bost ati yn
(O dudalen 7)
Samantha
Williams
E-bost
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 9 Gaeaf 2013/2014
Daeth Dr Delia Wainwright i gyfarfod y Grŵp
Cynghori ym mis Mehefin i siarad am brosiect
yn ysbytai Gogledd Cymru.
Mae Delia yn Rheolwr Rhaglenni Nyrsys
Anabledd Dysgu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr.
Dechreuwyd y prosiect oherwydd rhai
pryderon am y ffordd yr oedd staff yr ysbyty yn
gofalu am bobl ag anabledd dysgu.
Prif amcan y prosiect oedd ei gwneud hi’n
haws i bobl ag anabledd dysgu gael gafael
ar wasanaethau mewn 3 phrif ysbyty yng
Ngogledd Cymru:
Ysbyty Gwynedd
Maelor Wrecsam
Ysbyty Glan Clwyd.
Gweithiodd Nyrsys Cysylltu ym maes
Anabledd Dysgu ar y prosiect i roi cefnogaeth
i bobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd pan
oedden nhw’n mynd i’r ysbyty am driniaeth
neu’n gorfod aros yn yr ysbyty. (Muy ar dudalen 10)
Prosiect yn ysbytai Gogledd Cymru
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 10 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Fe weithion nhw fel Nyrsys Cysylltu Gofal
Trylwyr ym mhob ysybyty.
Mae hyn yn meddwl eu bod yn gweithio gyda
llawer o wahanol bobl i wneud yn siŵr bod
pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd
da pan oedden nhw’n mynd i’r ysbyty.
Gweithiai’r Nyrsys Cysylltu Gofal Trylwyr gyda
staff o wasanaethau iechyd a chymdeithasol
yn ogystal â’r bobl sy’n mynd i’r ysbyty a’u
teuluoedd a’u gofalwyr.
Roedden nhw’n gwneud yn siŵr bod pobl yn
cael gwybodaeth oedd yn hawdd ei deall.
Roedden nhw’n rhoi hyfforddiant a
gwybodaeth i staff ynghylch cefnogi pobl ag
anabledd dysgu.
Roedden nhw’n ymweld â phobl tra oedden
nhw’n aros yn yr ysbyty nes roedden nhw’n
mynd adref.
(O dudalen 9)
(Muy ar dudalen 11)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 11 Gaeaf 2013/2014
Weithiau roedden nhw’n ymweld â phobl ar
ôl iddyn nhw adael yr ysbyty i weld sut roedd
pethau’n mynd.
Gwelodd y prosiect bod gan bron i hanner y
bobl ag anabledd dysgu a aeth i’r ysbyty
Basport Goleuadau Traffig yn barod neu eu
bod wedi llenwi un tra oedden nhw yno.
Mae’r Pasport Goleuadau Traffig yn gallu cael
eu llenwi i mewn gyda help gan deuluoedd,
gofalwyr neu staff cefnogi.
Nid yw’r Pasport Goleuadau Traffig i fod i gael
ei ddefnyddio yn lle asesiad iawn gan staff
iechyd.
Mae’n ffordd hawdd a chyflym i ysbytai ddod
o hyd i wybodaeth bwysig am y claf a’i
anghenion.
Mae’n gallu helpu staff i ddeall sut i
gyfathrebu â’r claf a gweld beth yw’r ffyrdd
gorau o’u cefnogi tra byddan nhw yn yr
ysbyty.
(O dudalen 10)
(Muy ar dudalen 12
Pasport
Goleuadau Traffig
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 12 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Dyma rai o’r ffyrdd y gwnaeth y prosiect wella
gwasanaethau ysbyty i bobl ag anabledd
dysgu:
Roedd staff yn gwybod mwy am beth roedd
ar bobl ag anabledd dysgu ei angen ac
roedden nhw’n teimlo’n fwy hyderus i’w
cefnogi.
Roedd gwasanaethau yn y gymuned yn
gwybod mwy am rai o’r problemau oedd yn
wynebu staff oedd yn gweithio ym myd
iechyd.
Roedd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
yn gweithio’n well gyda’i gilydd.
Roedd cleifion a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn
teimlo’n llai pryderus ynglŷn â mynd i’r ysbyty
ac roedden nhw’n cael gwell cefnogaeth
pan oedden nhw yn yr ysbyty.
Dyma rai o’r newidiadau y buasai’r prosiect yn
hoffi eu gwneud:
Mae angen ar i ofal mewn ysbyty fod yn fwy
hyblyg. Weithiau mae hyn yn meddwl
gwneud pethau mewn ffordd wahanol.
(O dudalen 11)
(Muy ar dudalen 13)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 13 Gaeaf 2013/2014
Pan fydd pobl yn mynd i’r adran
Ddamweiniau ac Achosion Brys dylai’r
wybodaeth ar y cyfrifiadur ddweud wrth staff
bod gan y person anabledd dysgu.
Gwneud yn siŵr bod gwell gwybodaeth ar
gael pan fydd pobl ag anabledd dysgu yn
mynd i’r ysbyty.
Dylai pob ysbyty gael Nyrs Gysylltu Gofal
Trylwyr.
Dylai’r Nyrs Gysylltu Gofal Trylwyr fod ynghlwm
wrth yr achos cyn i’r person ag anabledd
dysgu fynd i’r ysybyty neu cyn gynted â
phosibl ar ôl iddo gyrraedd.
Dylai gwybodaeth fod yn hawdd i’w deall.
Dylai Pasportau Goleuadau Traffig gael eu
defnyddio.
Dylai pob aelod o staff ysbytai gael eu
hyfforddi.
Dylai staff a theuluoedd a gofalwyr weithio
gyda’i gilydd.
(O dudalen 12)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 14 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae Joe Powell yn Gyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf
Cymru Gyfan ac yn aelod o’r Grŵp Cynghori.
Y mae wedi bod yn siarad am y ffordd y daeth
yn Gyfarwyddwr cyntaf ag anabledd dysgu.
Pan benderfynodd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
geisio dod o hyd i rywun ag anabledd dysgu i
fod yn Gyfarwyddwr newydd, roedd llawer o
bobl yn llawn cyffro.
Ond dywedodd rhai pobl na fuasai byth yn
gweithio gan nad oedden nhw’n gwybod am
neb ag anabledd dysgu fuasai’n gallu gwneud
y gwaith hwnnw.
Roedd Cyngor Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf
Cymru Gyfan yn siŵr bod rhywun ag anabledd
dysgu fuasai’n gallu gwneud y gwaith.
Dywedodd Joe Powell nad oedd neb yn
gwybod mewn gwirionedd beth fyddai’n
digwydd, ddim hyd yn oed ef ei hun.
(Muy ar dudalen 15)
Cyfarwyddwr ag anabledd dysgu
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 15 Gaeaf 2013/2014
Dywedodd Joe y dylen ni fod yn ofalus i beidio â
cheisio gwneud pethau dim ond am ein bod
ni’n meddwl y dylen ni.
Efallai ei fod yn swnio’n dda i gael person ag
anabledd dysgu fel Cyfarwyddwr i bob mudiad
sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu.
Ond fuasai ddim yn beth da i roi gwaith i bobl
na fuasen nhw byth yn gallu ei wneud yn iawn.
Dywedodd bod Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
wedi meddwl llawer am hyn cyn penderfynu
rhoi gwaith Cyfarwyddwr i rywun ag anabledd
dysgu.
Doedd Joe erioed wedi bod yn Gyfarwyddwr
o’r blaen ac roedd ganddo lawer i’w ddysgu.
Gweithiodd gydag aelodau eraill o’r staff yn
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan: John Pearse a
Yvonne Boxall.
Pan ddechreuodd Joe ei waith fel Cyfarwyddwr
roedd yn poeni y byddai rhai pobl yn anhapus
am nad oedd yn dod o un o grwpiau Pobl yn
Gyntaf.
(O dudalen 14)
(Muy ar dudalen 16)
John a Yvonne
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 16 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Ond roedd pawb yn garedig iawn ac yn helpu
Joe i ddod i arfer â’i waith newydd.
Dywedodd Joe y bu bron iddo beidio ag anfon
ei ffurflen gais am y swydd.
Nid oedd hyn am ei fod yn meddwl na allai
rhywun ag anabledd dysgu wneud y gwaith.
Roedd am ei fod wedi cael amser caled mewn
gwaith arall pan oedd yn ifanc a gwnaeth hyn
iddo feddwl na allai byth gael gwaith iawn.
Dywedodd Richard Mills o ‘Research Autism’ a
Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth wrth Joe
ei fod yn meddwl y gallai’n bendant wneud y
gwaith o fod yn Gyfarwyddwr.
Ond dywedodd y buasai angen y gefnogaeth
briodol ar Joe iddo fedru gwneud y gwaith yn
iawn.
Dywedodd y byddai ar unrhyw Gyfarwyddwr
angen cefnogaeth, nid dim ond rhywun ag
anabledd.
(O dudalen 15)
(Muy ar dudalen 17)
Enw
Gyfeiriad
Addysg
Gwaith
Enw
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 17 Gaeaf 2013/2014
Roedd gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan gynllun
clir yn barod ynglŷn â’r ffordd o ddod o hyd i’r
Cyfarwyddwr newydd a’i gefnogi.
Edrychodd aelod Pobl yn Gyntaf Caerffili ar yr
holl geisiadau ar gyfer y gwaith a phenderfynu
pa bobl i’w cyfweld.
Y cynllun oedd i’r Cyfarwyddwr newydd weithio
am 2 ddiwrnod o’r wythnos am 9 mis gyda
chefnogaeth Yvonne Boxall fel prawf.
Petai’r prawf yn mynd yn dda, yna byddai’r
Cyfarwyddwr newydd yn dechrau gweithio 3
diwrnod yr wythnos gyda chefnogaeth
Cynorthwy-ydd Personol.
Byddai’r Cyfarwyddwr yn rhannu rheolaeth o’r
mudiad gyda’r Rheolwr Busnes, John Pearse.
Ond newidiodd y cynllun hwn.
Doedd dim angen Cynorthwy-ydd Personol ar
Joe.
Doedd arno ddim angen 9 mis cyfan o brawf.
(O dudalen 16)
(Muy ar dudalen 18)
Yvonne
Boxall
John
Pearse
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 18 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Roedd yn barod i ddechrau gweithio 3 diwrnod
yr wythnos ar ôl dim ond 6 mis.
Roedd Joe a John hefyd yn teimlo ei bod hi’n
bwysig cadw Yvonne yn rhan o’r tîm rheoli gan
ei bod hi wedi gweithio i Bobl yn Gyntaf Cymru
Gyfan am gymaint o hyd.
Fe ofynnon nhw i Yvonne ymuno â nhw fel aelod
cyfartal o’r tîm rheoli a dywedodd hi y buasai’n
gwneud.
Mae Joe wedi dysgu llawer gan Yvonne ers iddo
ddechrau ac mae’n falch iawn ei bod wedi
dweud y gwnâi hi.
Roedd grwpiau Pobl yn Gyntaf hefyd yn falch
iawn o glywed bod Yvonne yn ymuno â’r tîm
rheoli newydd.
Mae Joe yn gwybod bod ganddo lawer i’w
ddysgu eto ac y byddai hyn yn cymryd amser.
Mae wedi caru pob eiliad fel Cyfarwyddwr Pobl
yn Gyntaf Cymru Gyfan.
(O dudalen 17)
(Muy ar dudalen 19)
Yvonne Boxall
6
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 19 Gaeaf 2013/2014
Mae e wrth ei fodd yn cyfarfod aelodau Pobl yn
Gyntaf a staff.
Mae e’n falch o gael gweithio i fudiad y mae’n
credu ynddo.
Mae e’n falch o fedru dweud wrth bobl beth y
mae aelodau Pobl yn Gyntaf yn ei feddwl.
Mae stori Joe ei hun wedi ei helpu i egluro pam
y mae ar wasanaethau angen newid i wneud
bywyd yn well i bobl ag anabledd dysgu.
Cafodd Joe brofiadau gwael iawn pan oedd
mewn gofal pan oedd yn ifanc.
Mae’n dweud nad yw hi’n iawn bod rhai pobl
ag anabledd dysgu yn dal i gael eu trin yn wael
heddiw.
Mae e’n falch ei fod e’n gweithio gyda’r Grŵp
Cynghori i wneud bywyd yn well i bobl ag
anabledd dysgu a’u teuluoedd yng Nghymru.
(O dudalen 18)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 20 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Yn 2009 gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy
Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, i
Uned Ddata Cymru gasglu llawer o wybodaeth
am bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru at ei
gilydd.
Roedd hyn oherwydd bod yr hen grŵp
ymgynghori wedi dweud wrthi bod angen yr
wybodaeth hon i helpu gwasanaethau i
gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Cafodd yr wybodaeth hon ei galw’n Set Ddata
Ofynnol Anableddau Dysgu.
Talodd Llywodraeth Cymru i’r wybodaeth gael
ei chasglu at ei gilydd gan Uned Ddata Cymru.
Daeth yr wybodaeth o’r awdurdodau lleol yng
Nghymru.
Roedd yr wybodaeth ar wefan InfoBaseCymru.
Roeddech chi’n gallu edrych ar yr wybodaeth
mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, mapiau a
thablau.
(Muy ar dudalen 21)
Gwybodaeth am bobl ag anabledd dysgu
sy’n byw yng Nghymru
Gwenda
Thomas
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 21 Gaeaf 2013/2014
Roedd gwybodaeth am:
ble mae pobl ag anabledd dysgu yn byw
pa wasanaethau maen nhw’n ei gael
faint o arian mae gwasanaethau
cymdeithasol yn ei wario ar wasanaethau ar
gyfer pobl ag anabledd dysgu
plant a phobl ifainc ag anabledd dysgu.
Roedd yr arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
casglu’r wybodaeth at ei gilydd wedi dod i ben
beth amser yn ôl.
Penderfynodd Uned Ddata Cymru beidio â
rhoi’r wybodaeth at ei gilydd ar gyfer 2012 i 2013
ac fe dynnon nhw ef oddi ar y wefan.
Cafodd Samantha Williams, Swyddog
Gwybodaeth GCAD, gyfarfod gyda phobl sy’n
gweithio yn Uned Ddata Cymru i siarad am yr
wybodaeth.
Dywedodd wrthyn nhw pa mor bwysig yr
oedd a pham roedd hi’n meddwl y dylen nhw
ei rhoi hi’n ôl ar y wefan.
(O dudalen 20)
(Muy ar dudalen 22)
Samantha
Williams
Dudalen 22 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Roedd hi wedi dweud wrth bobl am y wefan
yn gynt pan oedden nhw wedi bod yn
chwilio am wybodaeth am bobl ag anabledd
dysgu oedd yn byw yng Nghymru.
Ond nid oedd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod
am yr wybodaeth ar y wefan.
Dywedodd y buasai mwy o bobl yn edrych ar
yr wybodaeth ar y wefan petai mwy o bobl yn
gwybod amdani.
Dywedodd Uned Ddata Cymru y buasen
nhw’n rhoi gwybodaeth 2011 i 2012 yn ôl ar y
wefan fel bo pobl yn medru edrych a
phenderfynu os ydyn nhw’n meddwl ei bod
yn ddefnyddiol.
Bydd Samantha Williams yn siarad gydag
aelodau o’r Grŵp Cynghori am hyn ac yn
gadael i Uned Ddata Cymru wybod beth
maen nhw’n feddwl.
Gallwch chi edrych ar yr wybodaeth yma yn:
http://www.infobasecymru.net/IAS/themes/
learningdisabilities(adults)minimumdataset?
themeId=4311.
(O dudalen 21)
(Muy ar dudalen 23)
Gadewch i Samantha wybod pa wybodaeth
rydych chi’n meddwl sy’n ddefnyddiol ac os
ydych chi’n meddwl y byddai’n well dangos
yr wybodaeth mewn ffordd wahanol. Er
enghraifft, adroddiad yn lle tablau a mapiau.
Gallwch chi ffonio Samantha ar 029 20681177
neu anfon e-bost at
[email protected] i adael iddi
wybod beth rydych chi’n ei feddwl.
(O dudalen 22)
Dudalen 23 Gaeaf 2013/2014
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni
wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch
Sam Williams ar 029 20681160 neu e-
bostiwch: [email protected].
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter
@LDAdvisoryGroup
E-bost
? Adroddiad