Upload
samantha-williams
View
226
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Learning Disability Advisory Group newsletter issue 4 March 2014 Welsh/Cymraeg Easy Read version
Citation preview
Bwndel Gofal Newydd Mawrth 2014
Mae bwndel gofal newydd i bobl ag
anabledd dysgu mewn ysbytai yng Nghymru.
Mae’r bwndel gofal yn gasgliad o bethau i
wneud gofal iechyd mewn ysbytai yn well i
bobl ag anabledd dysgu.
Soniodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd,
wrth bobl am y bwndel gofal newydd yn y
Senedd ar 13 Ionawr 2014.
Mae’r bwndel gofal yn dweud wrth bobl sy’n
gweithio mewn ysbytai beth sydd arnyn nhw
angen ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl ag
anabledd dysgu yn cael gofal da tra byddan
nhw yn yr ysbyty.
Mae canllaw newydd hefyd sy’n mynd gyda’r
bwndel gofal. Gallwch chi ei ddarllen yma
(saesneg yn unig): http://bit.ly/1fprT8O.
(Muy ar dudalen 2)
Newyddion GCADNewyddion GCADNewyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
Mark Drakeford
Ysbyty
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 2 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae gan y canllaw wybodaeth am
anghenion iechyd pobl ag anabledd dysgu.
Mae ganddo hefyd wybodaeth am y math o
gefnogaeth y gall fod arnyn nhw ei angen
pan fyddan nhw’n mynd i’r ysbyty.
Mae 4 cam allweddol yn y bwndel gofal ar
gyfer pan fydd rhywun ag anabledd dysgu yn
mynd i’r ysbyty:
Darganfod cyn gynted â phosibl a oes gan
rywun anabledd dysgu.
Gwneud yn siŵr bod cyfathrebu da fel bo
pawb yn gwybod beth sy’n digwydd. Mae
hyn yn meddwl y claf, eu teulu, eu gofalwyr
a staff yr ysbyty.
Cynllun gofal sy’n canolbwyntio ar yr
unigolyn.
Gwneud yn siŵr bod y cleifion yn cael eu
harchwilio’n rheolaidd a bod cynlluniau’n
cael eu gwneud ar gyfer yr adeg y bydd y
claf yn gadael yr ysbyty.
(Muy o dudalen 1)
(Muy ar dudalen 3)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 3 Mawrth 2014
Dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
Bro Morgannwg waith ar y bwndel iechyd ar ôl
marwolaeth un o’u cleifion o’r enw Paul Ridd.
Edrychodd Ombwdsmon y Gwasanaethau
Cyhoeddus i mewn i farwolaeth Paul ac
ysgrifennodd adroddiad amdano.
Dywedodd yr adroddiad bod angen i’r bwrdd
iechyd wneud newidiadau i wneud gofal
ysbyty yn well i gleifion ag anabledd dysgu fel
Paul.
Gweithiodd y bwrdd iechyd gyda chwaer a
brawd Paul i wneud y newidiadau hyn.
Siaradodd chwaer a brawd Paul am y ffordd
yr oedd Paul wedi marw a pha mor drist yr
oedden nhw.
Fe helpon nhw’r bwrdd iechyd i ysgrifennu’r
bwndel gofal i wneud pethau’n well i gleifion
eraill ag anabledd dysgu yng Nghymru.
(Muy o dudalen 2)
(Muy ar dudalen 4)
Paul Ridd
Adroddiad
Chwaer a brawd Paul
Ridd
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 4 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Os bydd y bwndel gofal yn cael ei
ddefnyddio’n iawn, mae Llywodraeth Cymru
yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud mynd i’r
ysbyty yn llawer gwell i bobl ag anabledd
dysgu.
Hefyd, mae angen hyfforddiant ar staff sy’n
gweithio mewn ysbytai i wneud yn siwr eu bod
yn deall y bwndel gofal a sut i ofalu am bobl
ag anabledd dysgu.
(Muy o dudalen 3)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 5 Mawrth 2014
Cafodd y Grŵp Cynghori ym maes Anabledd
Dysgu (GCAD) gyfarfod ar 13 Ionawr 2014 ym
Mae Caerdydd.
Siaradodd y grŵp am lawer o wahanol
bethau.
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru)
Siaradodd Penny Hall o Lywodraeth Cymru
am yr hyn sy’n digwydd gyda’r Bil
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
newydd.
Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant yn ddeddf newydd ynglŷn â’r ffordd y
mae pobl yng Nghymru yn cael
gwasanaethau cymdeithasol i’w helpu yn eu
bywydau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru’n gobiethio y bydd y
Bil wedi ei orffen erbyn Mawrth 2014.
Ond ni fydd yn dod yn ddeddf nes bydd yr
holl reolau a pholisïau eraill sy’n gysylltiedig â’r
Bil yn cael eu newid.
(Muy ar dudalen 6)
Beth mae’r GCAD wedi bod yn ei wneud?
2014
Mawrth
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 6 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Mae hyn yn meddwl efallai na fydd yn dod yn
ddeddf tan Ebrill 2016.
Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu
Daeth Nygaire Bevan o Asiantaeth Gwella
Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i’r
cyfarfod i siarad am Brosiect Trawsnewid
Anabledd Dysgu.
Gweithiodd y prosiect hwn gyda rhai
cynghorau lleol yng Nghymru i edrych ar
ffyrdd o newid gwasanaethau i bobl ag
anabledd dysgu.
Bwriad y prosiect oedd gwneud
gwasanaethau yn rhatach ac yn well.
Mae ar y GCAD eisiau gwybod pa wahaniaeth
y mae’r newidiadau i’r gwasanaethau yn ei
wneud i bobl ag anabledd dysgu a’u
teuluoedd.
Fe benderfynon nhw ofyn i rai pobl o’r
cynghorau sydd wedi gweithio ar y prosiect i
siarad am y newidiadau yn eu hardal nhw.
(Muy o dudalen 5)
(Muy ar dudalen 7)
2016
Ebrill
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 7 Mawrth 2014
Mae arnyn nhw eisiau gwybod am storïau go
iawn gan y bobl ag anabledd dysgu a’u
teuluoedd am y newidiadau i wasanaethau
yn eu hardal nhw.
Dywedodd Edwin Jones o Gymuned Ymarfer
Ymddygiad Heriol bod arnon ni angen
gwneud yn siŵr bod unrhyw arian y mae’r
cynghorau’n ei arbed yn cael ei roi yn ôl i
mewn i wasanaethau ar gyfer pobl ag
anabledd dysgu.
Mae Roger Banks, cyd-gadeirydd y GCAD, yn
poeni bod ardaloedd lleol yn ysgrifennu eu
strategaethau anabledd dysgu eu hunain yn
lle cael un strategaeth ar gyfer Cymru gyfan.
Mae’n poeni y gallai hyn feddwl bod pobl ag
anabledd dysgu yn cael gwahanol
wasanaethau dim ond oherwydd y lle y maen
nhw’n byw.
Mae Roger yn poeni hefyd bod oedolion ag
anabledd dysgu yn gorfod byw gyda’u rhieni
dim ond oherwydd nad oes digon o gartrefi
gyda chymorth.
Mae arno eisiau i’r GCAD wneud gwaith ar hyn.
(Muy o dudalen 6)
(Muy ar dudalen 8)
Arbedion
?
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 8 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Is-grwpiau
Yna clywodd y grŵp beth mae’r is-grwpiau
wedi bod yn ei wneud.
Mae’r is-grwpiau yn grwpiau bach sy’n
gweithio ar wahanol bethau fel iechyd neu
eiriolaeth.
Mae un o’r is-grwpiau yn edrych pam y mae
gan bobl ag anabledd dysgu waeth iechyd
na phobl eraill yng Nghymru.
Mae arnyn nhw eisiau dod o hyd i ffyrdd o
wneud gwasanaethau iechyd yn well i bobl
ag anabledd dysgu.
Mae arnyn nhw eisiau gofyn i bobl sy’n
gweithio yn y gwasanaethau cymdeithasol a’r
byd iechyd i ymuno â’r is-grŵp.
Fe fyddan nhw’n ysgrifennu cynllun gwaith i
ddangos beth maen nhw’n bwriadu ei wneud
ac erbyn pryd y byddan nhw’n gwneud
hynny.
(Muy o dudalen 7)
(Muy ar dudalen 9)
Cynllun
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 9 Mawrth 2014
Mae hefyd is-grŵp ar eiriolaeth.
Bydd yr is-grŵp hwn yn cyfarfod am y tro
cyntaf ar yr 20 Ionawr i siarad am beth maen
nhw’n cynllunio ei wneud.
Mae’r is-grŵp arall yn ymwneud â gwneud
gwasanaethau’n well ar gyfer pobl ag
anbledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol.
Mae’r is-grŵp hwn yn gweithio gyda
Chymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol.
Maen nhw wedi ysgrifennu cynllun
gweithredu i wneud yn siŵr bod y
camdriniaeth o bobl ag anabledd dysgu a
ddigwyddodd yn Winterbourne View byth yn
digwydd yng Nghymru.
Gofynnodd Gwenda Thomas, Dirprwy
Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r
is-grŵp ddewis y 5 peth mwyaf pwysig o’r
cynllun gweithredu.
Daeth Gwenda i’r cyfarfod i glywed am y 5
peth mwyaf pwysig o’r cynllun gweithredu.
(Muy o dudalen 8)
(Muy ar dudalen 10)
Gwenda
Thomas
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 10 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Gofynnodd i’r is-grŵp roi’r 5 peth mwyaf
pwysig mewn trefn er mwyn iddi wybod pa rai
sydd angen eu gwneud gyntaf.
Mae hi’n barod wedi ysgrifennu at y
gwasanaethau cymdeithasol a’r byrddau
iechyd i ofyn ynglŷn â phobl sydd wedi cael
eu hanfon i fyw i ffwrdd o’u hardal leol.
Gwefan newydd
Dywedodd Samantha Williams, Swyddog
Gwybodaeth GCAD, ei bod hi’n gweithio ar
wefan newydd y www.gcad.info.
Gofynnodd i‘r grŵp am syniadau ynghylch sut
y dylai’r wefan edrych a pha wybodaeth
ddylai fod arno fo.
Mae hi’n gobeithio y bydd y wefan newydd
yn barod erbyn diwedd Mawrth 2014.
(Muy o dudalen 9)
1. ________
2. ________
3. ________
4. ________
5. ________
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 11 Mawrth 2014
Dim ond ychydig o bobl ag anabledd dysgu
sydd â gwaith gyda thâl er bod llawer ohonyn
nhw yn gallu gweithio ac yn dymuno
gweithio.
Mae Prosiect ‘Enable’ yn bwriadu ei gwneud
hi’n haws i bobl ag anabledd dysgu weithio
yn GIG Cymru.
Mae Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol GIG, ‘Elite Supported Employment
Agency’ a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn
gweithio gyda’i gilydd ar y prosiect hwn.
Mae’r prosiect yn helpu i roi’r medrau a’r
profiad i bobl ag anabledd dysgu i gael
gwaith gyda thâl.
Gweithiodd y grŵp cyntaf o bobl ifainc a
gymerodd ran yn y prosiect yn yr adran
arlwyo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Mae’r adran arlwyo yn gwneud y bwyd ac yn
ei weini i’r holl gleifion, y staff a’r ymwelwyr yn
yr ysbyty.
(Muy ar dudalen 12)
Prosiect ‘Enable’
Gweithle
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 12 Newyddion GCAD Hawdd ei Ddeall
Cafodd y bobl ifainc eu cefnogi gan
hyfforddwr gwaith o Elite.
Diolch i’r prosiect, mae tri o bobl ifainc ar fin
dechrau gwaith newydd gyda thâl, yn
gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gweithio
yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, mewn
ysbytai, ysgolion neu gynghorau lleol.
Ond nid oes gan lawer o bobl ag anabledd
dysgu waith gyda thâl yn y sector cyhoeddus.
Mae hyn oherwydd bod y ffordd y mae’r
sector cyhoeddus yn dod o hyd i staff
newydd yn ei gwneud hi’n anodd i bobl ag
anabledd dysgu gael y swydd.
Mae Prosiect ‘Enable’ ynghylch newid y
ffordd y gall pobl gael gwaith yn y sector
cyhoeddus fel ei bod yn decach i bobl ag
anabledd dysgu.
Mae cael gwaith gyda thâl yn gallu rhoi hyder
i bobl a’u helpu i wneud ffrindiau.
(Muy o dudalen 11)
(Muy ar dudalen 13)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Tudalen 13 Mawrth 2014
Mae’n gallu helpu pobl i fod yn fwy
annibynnol a byw yn eu cartrefi eu hunain.
Mae’n dda ar gyfer ein hiechyd a’n lles.
Mae hefyd yn gallu newid y ffordd y mae pobl
yn meddwl am bobl ag anabledd dysgu.
Wrth i bobl weithio gyda rhywun ag anabledd
dysgu, maen nhw’n gallu eu gweld nhw’n
datblygu a dod yn aelod pwysig o’r tîm.
Mae’r prosiect wedi gweithio mor dda fel bo’r
partneriaid yn barod yn gwneud cynlluniau i
grŵp arall o bobl ifainc ddechrau hyfforddi yn
y bwrdd iechyd yn fuan iawn.
Mae partneriaid y prosiect hefyd yn siarad â
Bwrdd Iechyd Powys a Chyngor Sir Powys
ynglŷn â chychwyn Prosiect ‘Enable’ arall ym
Mhowys.
I wylio’r ffilm a dod o hyd i fwy o wybodaeth
am Brosiect ‘Enable’, gallwch fynd i’r wefan
www.wales.nhs.uk/equality neu ffonio 01443
233450.
(Muy o dudalen 12)
Croeso
Tudalen 14 Mawrth 2014
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni
wybod beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch
Samantha Williams ar 029 20681177 neu e-
bostiwch: [email protected].
Ewch i’r wefan www.gcad.info neu dilynwch
ni ar Facebook a Twitter @LDAdvisoryGroup
Cyfleoedd Gwirioneddol
Menter Trawsnewid i Gyflogaeth AAA
Rhanbarthol
Cynhadledd Flynyddol 2014
Dydd Iau 5ed Mehefin
Gwesty a Sba Dewi Sant, Bae Caerdydd
Mae prosiect trawsnewid Cyfleoedd Gwirioneddol i bobl ifainc ag
anghenion ychwanegol yn cynnal eu trydedd gynhadledd
flynyddol. Nodwch y dyddiad hwn yn eich dyddiadur – mwy o
fanylion i ddilyn yn fuan!
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect a’n
cynadleddau blaenorol, ewch i
www.realopportunities.org.uk. Gallwch hefyd ddod o
hyd i ni ar Facebook a Twitter @Real_Opps.
Bydd cyfarfod nesaf Cymuned Ymarfer Ymddygiad Heriol (CB CoP)
ddydd Mercher 30 Ebrill 2014 yng Nghefn Lea, Dolfor, Y Drenewydd. Dim
ond ychydig o leoedd sydd ar gael, felly os nad ydych wedi neilltuo lle eto,
e-bostiwch Karen Barnett: [email protected].