Upload
samantha-williams
View
220
Download
3
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Issue 2 of Learning Disability Advisory Group newsletter LDAG News in Easy Read Welsh. Rhifyn 2 o Cylchlythyr Grwp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu 'Newyddion Grwp Cynghori' yn Cymraeg Hawdd ei Ddeall.
Citation preview
Newyddion Grŵp Cynghori Newyddion Grŵp Cynghori Newyddion Grŵp Cynghori
Beth mae'r Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu wedi bod yn ei wneud?
Haf/Hydref 2013
Cafodd Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu
gyfarfod ar 10 Medi 2013 yng Nghaerdydd.
Fframwaith Trosedd Casineb
Siaradodd y grŵp am Fframwaith Trosedd Casineb.
Mae 2 o bobl yn y Grŵp Cynghori yn rhan o Brosiect
Ymchwil i Drosedd Casineb Cymru Gyfan.
Fe fyddan nhw'n gweithio gyda Roger Banks a
Sophie Hinksman, cyd-gadeiryddion y Grŵp
Cynghori, i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth
maen nhw'n feddwl am Fframwaith Trosedd
Casineb.
Cewch wybod mwy am y Fframwaith ar wefan
Llywodraeth Cymru: http://wales.gov.uk/consultations/
equality/130711-hate-crime-framework-consul/?lang=cy.
Panel Cynghori ar Ddiogelu
Mae Llywodraeth Cymru yn meddwl am newid y
ffordd y mae gwasanaethau yn ymchwilio i mewn i
achosion o oedolion yn cael eu cam-drin.
(Muy ar dudalen 2)
Hawdd ei Ddeall
Cylchlythyr Hawdd ei Ddeall
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 2 Newyddion Grŵp Cynghori
Byddai hyn yn meddwl y byddai Adolygiadau
Ymarfer Oedolion yn lle Adolygiadau Achosion
Difrifol.
Bydd Mick Collins o Wasanaethau Cymdeithasol i
Oedolion yn gweithio ar hyn gyda Llywodraeth
Cymru.
Bydd y Grŵp Cynghori yn edrych i mewn i hyn fel
rhan o'r is-grŵp ar wneud gofal yn well i bobl ag
anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng
Nghymru.
Mesur Iechyd Meddwl
Mae Llywodraeth Cymru yn cychwyn grwpiau i
edrych sut mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
yn gweithio. Mae hwn yn ddeddf ynghylch
gwasanaethau i bobl sydd â phroblemau iechyd
meddwl yng Nghymru.
Bydd y grwpiau yn edrych ar wahanol rannau o'r
ddeddf:
pwy sy'n medru gwneud asesiadau
sut dylai'r Cynlluniau Gofal a Thriniaeth edrych
pwy sy'n medru dod yn gyd-drefnydd gofal
pwy sy'n medru gofyn am gael gwneud asesiad
arall
beth y mae Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol yn
ei wneud a sut y gall pobl gael help ganddyn nhw.
(O dudalen 1)
(Muy ar dudalen 3)
Mesur Iechyd
Meddwl
(Cymru) 2010
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 3 Haf/Hydref 2013
Dywedodd rhai aelodau o'r Grŵp Cynghori ym maes
Anabledd Dysgu yr hoffen nhw ymuno â'r grwpiau i
edrych ar rannau o'r ddeddf a allai effeithio ar bobl
ag anabledd dysgu.
Ffrydiau gwaith ac is-grwpiau
Am ran o'r cyfarfod cafodd aelodau'r Grŵp
Cynghori eu rhannu'n 3 grŵp.
Edrychodd pob grŵp ar un o'r pynciau y bydd is-
grwpiau newydd y Grŵp Cynghori yn gweithio arnyn
nhw:
Gwneud gofal yn well i bobl ag anableddau
dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng Nghymru.
Mae hyn oherwydd y cam-drin a ddigwyddodd
yn Winterbourne View yn Lloegr.
Pam y mae iechyd pobl ag anabledd dysgu yn
aml yn waeth na phobl eraill a pham y mae'r
gofal iechyd a roddir iddyn nhw'n waeth.
Eiriolaeth – siarad drosoch chi eich hun neu ar ran
rhywun arall.
Roedd gan bob grŵp restr o gwestiynau i feddwl
amdanyn nhw a cheisio eu hateb.
Fe feddylion nhw am syniadau i'r is-grwpiau newydd
weithio arnyn nhw.
Fe wnaethon nhw hefyd ysgrifennu rhestrau o bobl a
mudiadau a ddylai gael eu gwahodd i ymuno â'r is-
grwpiau.
(O dudalen 2)
(Muy ar dudalen 4)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 4 Newyddion Grŵp Cynghori
Cynllun Gweithredu Winterbourne View
Ysgrifennodd Roger a Sophie, cyd-gadeiryddion y
Grŵp Cynghori, at Ddirprwy Weinidog y
Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Gorffennaf
2013 ynghylch gwneud gofal yn well i bobl ag
anabledd dysgu a phobl ag ymddygiad heriol yng
Nghymru.
Fe anfonon nhw gopi o'r Cynllun Gweithredu a
gafodd ei ysgrifennu gan y Gymuned Ymarfer ar
gyfer Ymddygiad Heriol.
Roedd llawer o syniadau yn y Cynllun Gweithredu
ynghylch beth sydd angen cael ei wneud yng
Nghymru i wneud yn siwr nad yw pobl yn cael eu
cam-drin fel y bobl oedd yn byw yn Winterbourne
View.
Atebodd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y
Gwasanaethau Cymdeithasol, lythyr Roger a Sophie
ar 18 Awst.
Fe ofynnodd hi i'r Grŵp Cynghori ddweud wrthi pa 5
syniad yn y Cynllun Gweithredu maen nhw'n meddwl
sydd fwyaf pwysig.
Penderfynodd y Grŵp Cynghori ofyn i'r Gymuned
Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol beth roedden
nhw'n ei feddwl.
(O dudalen 3)
(Muy ar dudalen 5)
Cynllun
Gweithredu
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 5 Haf/Hydref 2013
Bydd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol
yn edrych ar y Cynllun Gweithredu eto yn eu
cyfarfod ar 18 Medi ac yn penderfynu pa 5 syniad
maen nhw'n meddwl sydd fwyaf pwysig.
Byddan nhw hefyd yn dewis aelodau o'r Gymuned
Ymarfer ar gyfer Ymddygiad Heriol i ymuno ag is-
grŵp y Grŵp Cynghori i gael gwell gofal i bobl ag
anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol
yng Nghymru.
Digwyddiad 30 Mlynedd a Dal i Gyfrif
Mae'r Grŵp Cynghori yn cynnal digwyddiad i
ddathlu 30 mlynedd o Strategaeth Cymru Gyfan.
Roedd Strategaeth Cymru Gyfan ynghylch pobl ag
anabledd dysgu yn symud i'r gymuned yn lle byw
mewn ysbytai mawr fel Trelai a Hensol.
Mae Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan,
Anabledd Dysgu Cymru a Fforwm Rhieni a Gofalwyr
Cymru Gyfan wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad.
Maen nhw wedi gwahodd pobl ag anabledd dysgu,
teuluoedd, gofalwyr a phobl broffesiynol i ddod i'r
digwyddiad.
Bydd Gwenda Thomas, Dirprwy Weinidog y
Gwasanaethau Cymdeithasol yn siarad yn y
digwyddiad.
(O dudalen 4)
(Muy ar dudalen 6)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 6 Newyddion Grŵp Cynghori
Aeth Samantha Williams, Swyddog Gwybodaeth
Grŵp Cynghori ym maes Anabledd Dysgu, i gyfarfod
i gael gwybodaeth am ymchwil gafodd ei wneud i
farwolaethau cynnar pobl ag anabledd dysgu.
Roedd Anna Marriott yn un o'r bobl wnaeth yr ymchwil.
Rhoddodd Anna gyflwyniad ar y ffordd y gwnaethon
nhw'r ymchwil a'r pethau y daethon nhw i wybod ar
ôl ei wneud.
Edrychodd yr ymchwil ar farwolaethau pobl ag
anabledd dysgu rhwng Mehefin 2010 a Mai 2012
mewn 5 ardal yn Lloegr.
(Muy ar dudalen 7)
Ymchwil i farwolaethau cynnar pobl ag
anableddau dysgu
Bydd cyfle hefyd i siarad am rai o'r pethau sy'n
bwysig ym mywydau pobl fel:
swyddi
iechyd
throsedd casineb.
Bydd Roger a Sophie yn cadeirio'r digwyddiad gyda'i
gilydd.
Bydd stondinau ble gall pobl ddod o hyd i wybodaeth
am wasanaethau cymunedol.
Gyda'r nos fe fydd pryd o fwyd a disgo.
(O dudalen 5)
Ymchwil
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 7 Haf/Hydref 2013
Roedd mwy o farwolaethau nag yr oeddyn nhw
wedi ei ddisgwyl.
Dangosodd yr ymchwil bod pobl ag anabledd dysgu
yn marw'n fengach na phobl heb anabledd dysgu.
Roedd dynion ag anabledd dysgu yn marw 13
mlynedd yn gynt na dynion heb anabledd dysgu.
Roedd merched ag anabledd dysgu yn marw 20
mlynedd yn gynt na merched heb anabledd dysgu.
Roedd pobl ag anableddau dysgu difrifol iawn ac
anableddau eraill neu broblemau meddygol yn fwy
tebygol o farw'n gynnar.
Roedd y tystysgrifau marwolaeth yn dangos bod
llawer o farwolaethau pobl ag anabledd dysgu yn
digwydd oherwydd problemau gyda'r ysgyfaint neu'r
galon.
Roedd y bobl a wnaeth yr ymchwil yn poeni nad
oedd y crwner yn cael ei hysbysu am ddigon o
farwolaethau pobl ag anabledd dysgu.
Mae crwner yn edrych pam y mae rhywun wedi marw.
Dangosodd yr ymchwil y buasai'n bosibl bod bron i
hanner y bobl ag anabledd dysgu ddim wedi marw
pan gwnaethon nhw.
(O dudalen 6)
(Muy ar dudalen 8)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 8 Newyddion Grŵp Cynghori
Dangosodd yr ymchwil y buasai'n bosibl na fuasai
llawer o bobl ag anabledd dysgu ddim wedi marw
petaen nhw wedi cael gwell gofal iechyd.
Dangosodd yr ymchwil hefyd nad oedd problemau
ynghylch gwybod bod pobl yn sâl.
Ond roedd problemau ynghylch dod i wybod beth
oedd yn eu gwneud nhw'n sâl.
Roedd pobl oedd â ffrind agos neu bartner yn llai
tebygol o farw'n gynnar.
Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i gael
eiriolwr neu rywun sy'n nabod y person yn dda iawn i
siarad ar ei ran pan fydd e'n sâl.
Roedd 3 phrif reswm pam nad oedd pobl ag
anabledd dysgu yn cael gofal iechyd da:
Doedd y gwasanaethau iechyd ddim yn gwneud
digon o addasiadau derbyniol. Mae hyn yn
meddwl gwneud newidiadau fel bo pobl ag
anabledd dysgu yn medru cael gafael ar
wasanaethau a deall beth sy'n digwydd neu beth
sydd arnyn nhw angen ei wneud.
Nid oedd gwahanol wasanaethau yn gweithio
gyda'i gilydd yn dda iawn i wneud yn siwr bod
pobl yn cael y gofal iawn.
Doedd pobl ddim yn cael gafael ar eiriolaeth
dda.
(O dudalen 7)
(Muy ar dudalen 9)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 9 Haf/Hydref 2013
Dyma rai o'r problemau eraill wnaeth rwystro pobl
rhag cael gofal iechyd da:
Doedd gwybodaeth am iechyd pobl ddim yn
cael ei gadw'n iawn na'i rannu gyda'r bobl iawn.
Doedd staff ddim yn deall y Ddeddf Galluedd
Meddyliol yn iawn. Mae hon yn ddeddf ynghylch
ei gwneud hi'n bosibl i bobl wneud eu
penderfyniadau eu hunain neu weithiau gael
rhywun arall i wneud eu penderfyniadau drostyn
nhw.
Doedd cynlluniau iechyd a gofal ddim yn dda
iawn.
Roedd hi'n cymryd gormod o amser i ddod o hyd
i'r rheswm pam roedd pobl yn sâl a dechrau ceisio
eu gwneud yn well.
Edrychodd y bobl a wnaeth yr ymchwil ar y
canlyniadau i gyd a gwneud adroddiad.
Fe ysgrifennon nhw restr o 18 o syniadau am wneud
gofal iechyd i bobl ag anabledd dysgu yn well a'u
rhwystro nhw rhag marw'n gynnar.
Ym mis Gorffennaf 2013 ysgrifennodd yr Adran
Iechyd adroddiad am yr ymchwil a dweud beth
roedden nhw am ei wneud am yr 18 syniad.
Gallwch ddarllen fersiwn Hawdd ei Ddeall (yn
Saesneg yn unig) o adroddiad yr ymchwil ac
adroddiad yr Adran Iechyd yma: http://
www.bris.ac.uk/cipold/.
(O dudalen 8)
Ddeddf
Galluedd
Meddyliol
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 10 Newyddion Grŵp Cynghori
Cafodd y Gymuned Ymarfer ar gyfer Ymddygiad
Heriol gyfarfod ar 18 Medi 2013.
Cynllun Gweithredu
Fe dreulion nhw amser yn edrych ar y Cynllun
Gweithredu ynghylch ffyrdd o wneud gofal yn well i
bobl anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad
heriol yng Nghymru.
Fe geision nhw ddewis 5 o'r syniadau mwyaf pwysig
o'r Cynllun Gweithredu i ddweud wrth Ddirprwy
Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae arnyn nhw hefyd eisiau dweud wrthi am ffyrdd
da o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu a
phobl ag ymddygiad heriol sy'n digwydd yng
Nghymru'n barod.
Fe ddewison nhw bobl hefyd i ymuno ag is-grŵp y
Grŵp Cynghori ynghylch cael gwell gofal i bobl ag
anableddau dysgu a phobl ag ymddygiad heriol
yng Nghymru.
Unedau Triniaeth ac Asesu
Roedd 2 gyflwyniad ynghylch Unedau Triniaeth ac
Asesu.
(Muy ar dudalen 11)
Beth mae'r Gymuned Ymarfer ar gyfer
Ymddygiad Heriol wedi bod yn ei wneud?
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 11 Haf/Hydref 2013
Mae Uned Triniaeth ac Asesu yn rhywle ble mae pobl
yn mynd weithiau os oes ganddyn nhw broblemau
iechyd meddwl ac mae angen help arbennig arnyn
nhw.
Roedd y cyflwyniadau ynghylch:
y ffordd mae'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg
sut maen nhw'n penderfynu pa help sydd ei
angen ar bobl
yrmath o help maen nhw'n ei roi i bobl fel therapi
drama.
Cynllunio diwedd bywyd
Roedd y cyflwyniad nesaf gan Richard Tiplady,
rheolwr cartref gofal yn Lloegr.
Roedd yn siarad am gynllunio ar gyfer yr adeg pan
fydd person ag anabledd dysgu yn mynd i farw.
Mae ei fudiad ef wedi gweithio gyda mudiadau
eraill i helpu'r bobl maen nhw'n eu cefnogi i gynllunio
ar gyfer diwedd eu bywyd.
Cafodd staff hyfforddiant mewn hosbis lleol. Mae
hwn yn lle y mae pobl sy'n sâl iawn weithiau'n mynd i
aros a chael gofal nes y byddan nhw'n marw.
Gweithiodd y staff hefyd gyda thîm anabledd dysgu
y gymuned leol.
(O dudalen 10)
(Muy ar dudalen 12)
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen 12 Newyddion Grŵp Cynghori
Fe helpon nhw bobl ysgrifennu cynlluniau am beth
roedd arnyn nhw eisiau ar ddiwedd eu bywyd.
Astudiaeth achos
Roedd y cyflwyniad olaf gan David Jones a Glenn
Greenacre o Gonsortiwm Bywydau Cymunedol.
Roedd ynghylch dysgu dyn 18 oed oedd ag
awtistiaeth, anabledd dysgu ac ymddygiad heriol
sut i fastyrbio yn y ffordd iawn.
Mae mastyrbio yn meddwl cyffwrdd â chi eich hun
er mwyn rhoi pleser rhywiol i chi eich hun.
Dywedodd David a Glenn eu bod wedi synnu nad
oedd bron dim gwybodaeth dda ynghylch
mastyrbio ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Roedd yr unig wybodaeth roedden nhw'n gallu dod
o hyd iddo ynghylch ceisio rhwystro pobl rhag
gwneud hynny'n gyhoeddus neu leoedd eraill ble na
ddylech chi wneud hynny.
Doedden nhw ddim wedi medru dod o hyd i
wybodaeth ynghylch sut i helpu rhywun wneud
hynny'n iawn.
Mae llawer o resymau pam y mae pobl ag
anabledd dysgu yn cael problemau wrth fastyrbio:
dim digon o wybodaeth neu hyfforddiant
(O dudalen 11)
(Muy ar dudalen 13)
Cynllun
“To catch the reader's attention, place an
interesting sentence or quote from the story
here.”
Dudalen13 Haf/Hydref 2013
dydy staff ddim yn hoffi siarad amdano neu dydyn
nhw ddim yn gwybod digon i siarad amdano
gyda'r bobl maen nhw'n eu cefnogi
weithiau dydy pobl ddim yn deall ble na phryd y
mae'n iawn i fastyrbio
pryderu neu fod dan straen
mae rhai moddion y mae'n rhaid i bobl eu cymryd
yn gallu ei gwneud hi'n anodd i fastyrbio'n iawn
problemau corfforol fel cael problem i symud eich
dwylo
pan na fydd gan bobl bethau diddorol i'w
gwneud yn eu bywydau, gallan nhw weithiau
feddwl gormod am ryw a mastyrbio.
Soniodd David a Glenn wrth y grŵp am ddyn ifanc
roedden nhw'n ei gefnogi oedd ag anableddau
dysgu, awtistiaeth ac ymddygiad heriol.
Roedd staff yn meddwl mai achos peth o'i
ymddygiad heriol oedd am nad oedd o'n gallu
mastyrbio'n iawn. Roedd hyn yn ei wneud yn flin ac
yn rhwystredig iawn.
Penderfynodd y staff ei helpu i ddysgu sut i'w wneud
yn iawn.
Fe wylion nhw ei ymddygiad cyn ac ar ôl yr
hyfforddiant i weld a oedd yn gwneud gwahaniaeth.
(O dudalen 12)
(Muy ar dudalen 14)
Dudalen 14 Newyddion Grŵp Cynghori
Am ragor o wybodaeth neu i adael i ni wybod
beth rydych chi'n feddwl, ffoniwch Sam
Williams ar 029 20681160 neu e-bostiwch:
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter
@LDAdvisoryGroup
Fe welson nhw bod ei ymddygiad yn llawer gwell ac
yn llai heriol ar ôl yr hyfforddiant.
Roedd hyn yn meddwl nad oedd yn rhaid iddo fynd i
Uned Triniaeth ac Asesu. Roedd yn gallu dal i fyw ble
yr oedd yn rhannu tŷ gyda chefnogaeth.
Mae ar David a Glenn eisiau ysgrifennu am yr
hyfforddiant fel bo aelodau eraill o staff yn gallu ei
ddefnyddio i helpu'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.
(O dudalen 13)