20
2 2 alumnium Cylchgrawn Cynfyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Arddangos cynllun clefydau tudalen 9 Anrhydeddu Cynfyfyrwyr tudalen 3 60 Mlynedd o Chwaraeon tudalen 5 Adeiladu’r Dyfodol tudalen 8 PDR: Cynllun Oes tudalen 10 Ysgol Goedwig tudalen 11 "Nodyn gan…" tudalen 13 y tu mewn... Rhifyn 02 – 2010 UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

UWIC Alumnium Welsh Issue 2

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Welcome to Issue 2 of our alumni magazine! We've met a wide range of alumni, from near and far, young and ‘young at heart’ –each one with a fascinating story to tell.

Citation preview

2

Subheading here

2

Subheading here

alumniumCylchgrawn Cynfyfyrwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd

Arddangoscynllunclefydau

tudalen 9

Anrhydeddu Cynfyfyrwyrtudalen 3

60 Mlynedd o Chwaraeontudalen 5

Adeiladu’r Dyfodoltudalen 8

PDR: Cynllun Oestudalen 10

Ysgol Goedwigtudalen 11

"Nodyn gan…"tudalen 13

y tu mewn...

Rhifyn 02 – 2010

U N I V E R S I T Y O F WA L E S I N S T I T U T E , C A R D I F F AT H R O FA P R I F Y S G O L C Y M R U, C A E R DY D D

1

Uchod: Claire Grainger,Swyddog CynfyfyrwyrUWIC

Croeso gan Swyddfa’r Cynfyfyrwyr

Cyfarfod â’r tîm!Ydych chi’n gwybod pwy yw pwy yn Nhŷ’r Coleg? Dyma’r bobl a all ateb y ffôn pan fyddwch chi’n ffonio…

Ch-Dd: Dominic Codera, Gweinyddwr y Swyddfa Ddatblygu. Mae Dominic yn cefnogi ein hollfeysydd gwaith, trwy waith ymchwil, cydweithredu a threfnu cyffredinol. Fi sydd nesaf, ac yna An-drew Walker. Andrew yw’r Cyfarwyddwr Datblygu yn Sefydliad UWIC, a bu’n fyfyriwr yn Athrofa DeMorgannwg yn y 1980au. Ar y pen pellaf mae Sheona Evans, y Rheolwr Datblygu. Mae Sheona’ngyfrifol am godi arian a datblygu cymorth gan gynfyfyrwyr, ffrindiau a sefydliadau elusennol.

Croeso – a chyfle i ennill Wii!!Croeso i ail rifyn ein cylchlythyr cynfyfyrwyr! Mae cymaintwedi digwydd yn y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedicyfarfod ag amrywiaeth eang o gynfyfyrwyr, o bell acagos, ifanc ac ‘ifanc eu meddwl’ – pob un â stori ddiddoroli’w hadrodd. Rwyf wedi ceisio cynnwys rhai o’r straeonhyn, a’r gorau sydd gan UWIC i’w gynnig, yn y tudalennaucanlynol, ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau eudarllen. Fel arfer – cofiwch roi gwybod i bobl amdanom ni:chi yw’n rhwydwaith, ac rwyf innau yma i sicrhau ei fod yngweithio i chi.

Eleni, rwyf wedi camu ar y llwyfan yn ystod un o’r seremonïau graddio – tipyn o her,ond cefais gryn bleser o weld cynfyfyrwyr newydd yn eistedd yno yn eu holl regalia.Mae’n bleser eich croesawu chi i gyd i’n rhwydwaith.

Ennill WiiOs byddwch chi’n diweddaru’ch manylion cyswllt (e-bost, ffôn neu gyfeiriadcartref) neu’n ein rhoi mewn cysylltiad ag un o’n cynfyfyrwyr ‘coll’, caiff eichenw ei roi mewn cystadleuaeth i ennill consol gemau Nintendo Wii. Caiff enw’renillydd ei dynnu ar hap ar 31 Hydref 2010.

2

Croeso gan yr Is-ganghellor

Croeso gan yr Is-Ganghellor

2

Rydym yn dod iddiwedd blwyddyngofiadwy yn UWIC,gyda llawer onewidiadau i’wgweld ar ycampysau. MaeYsgol ReoliCaerdydd wedisymud i’w hadeiladnewydd. Mae’r briffynedfa a’r llyfrgellwedi’u hehangu igreu lle i’r myfyrwyrychwanegol a fyddyn astudio ynLlandaf, ac mae’rhen gampws ynRhodfa Colchesterwedi ffarwelio â’ifyfyrwyr diwethaf arôl mwy na 40mlynedd.

Rydym wrthi’n cynnal

ymgynghoriad strategolcadarn a fydd yn rhoifframwaith i UWIC ar gyfery dyfodol, gan ein galluogii fynd i’r afael â gofynionariannol, gwleidyddol ademograffig dros yblynyddoedd i ddod.Byddwn yn parhau iymrwymo i’n credoaucraidd mewn perthynas agansawdd, amrywiaeth,hygyrchedd ac, ynbwysicaf oll,cyflogadwyedd. Mae 96%o raddedigion UWIC yncael eu cyflogi neu’n myndymlaen i astudio ymhellacho fewn chwe mis i raddio.Unwaith eto, cafoddUWIC ei henwi’n un o’rprifysgolion newydd gorauyng Nghymru ym mhob uno’r pedwar tabl, a nododdein MyfyrwyrRhyngwladol mai UWIC

oedd y brifysgol orau yngNghymru am ansawdd euhamser yma.

Mae Swyddfa RyngwladolUWIC yn denu myfyrwyr odramor i astudio yngNghaerdydd – ac rydymhefyd yn rhannu eingwybodaeth a’nharbenigedd gyda nhw.Trwy ein partneriaethau âsefydliadau rhyngwladolfel yr East Asia School ofBusiness yn Singapore,Prifysgol Hong Kong, yrArab Academy yn yr Aifft amwy, rydym bellach yndarparu addysg o’r raddflaenaf i fyfyrwyr mewnnaw gwlad.Ynghyd â’n Coleg Cyswllt,Ysgol Fasnach Llundain,mae gennym dros 3,500 ofyfyrwyr rhyngwladolllawn amser erbyn hyn.

Trwy gymorth eincynfyfyrwyr a’n ffrindiau,rwy’n gwybod y byddwnyn gallu creu sefydliadcwbl flaengar, gan sicrhaudyfodol gwell i Gymru, yDU a thu hwnt. Rwy’ngobeithio y byddwch chi’nmwynhau darllen straeonein cynfyfyrwyr gymaintag yr ydym ni’n mwynhaurhannu eu llwyddiant gydachi.

Yr Athro Antony J ChapmanIs-Ganghellor

GraddedigionSingapore ynmeddwlbusnes

Llywyddodd yrAthro AntonyChapman drosseremoni raddioyn Singapore argyfer myfyrwyr aoedd wedi astudiorhaglenni graddUWIC yn yr EastAsia School ofBusiness (EASB).Roedd AndrewChua, Pennaeth aPhrif WeithredwrEASB a ChymrawdAnrhydeddusUWIC, hefyd ynbresennol.

Gyda pherthynassydd wedi bodoliam fwy na 10mlynedd, maecysylltiadau UWICâ’r EASB wedicryfhau ymhellachyn ddiweddar yndilyn dilysurhaglenni newyddmewn Cyfrifeg,Busnes, SystemauGwybodaeth aBancio a Chyllid.

Phil Davies, neu " Abs "ers ei ddyddiau ar y caerygbi, yw RheolwrGyfarwyddwr HospitalInnovations ac un o brifentrepreneuriaid Cymru.Wedi’i leoli yn Llaneirwg,mae gan HospitalInnovations enw da ynrhyngwladol amwasanaethau llawfeddygolarbenigol felorthobiologics, ac mae’ngweithredu’r unig fancmeinweoedd dynol o’i fathyng Nghymru.

Astudiodd Phil AddysgGorfforol a Hanes (1978 -'81) a bu’n chwarae rygbigyda Rhodri Lewis, KevinEdwards (PersonoliaethChwaraeon y Flwyddyncyntaf UWIC), GeraintJohn (Hyfforddwr tîmrygbi Canada) a JohnRawlins o YsgolChwaraeon Caerdydd.Aeth ymlaen i weithio ymmaes Gwerthu aMarchnata i gwmnïau felJohnson and Johnson cynsefydlu HospitalInnovations yn 2007. Ar ypryd, dywedodd Phil,

"Doeddwn i ddim amweithio i gorfforaethaurhyngwladol mawrmwyach. Roedd dechraufy musnes fy hun yngolygu gwell cyfleoeddincwm, gwell ansawddbywyd, gallu rheoli fy huna’r gallu i ddylanwadu ar fynyfodol fy hun."

Mae Phil yn noddi rygbi ynUWIC yn ei rôl fel LlywyddClwb Rygbi UWIC, a fyddyn dathlu 60 mlynedd ersei sefydlu mewn cinio yngNgwesty’r Celtic Manorym mis Tachwedd. Maehefyd yn amlwg iawngydag Ysgol ReoliCaerdydd, gan gynniglleoliadau i fyfyrwyr agraddedigion yn HospitalInnovations. "Rwy’ncredu’n gryf yn UWIC.Mae’r cwrs rheoli wedi’igynllunio i hyrwyddo dullymarferol ar sail prosiect,sef yr hyn sydd ei angen ary byd busnes modern.Mae’n bleser gallu helpufy hen goleg a bod yngysylltiedig â’r sefydliadgwych hwn. Mae gen ilawer o atgofion melys o fyamser yng Nghyncoed."3

Cymrodoriaethau Anrhydeddus

David Emanuel o YsgolGelf a Dylunio Caerdydd arddechrau’r 1970au, gansymud i’r Harrow School ofArt, ac yna i Baris. Ar ôl caelei ddewis i ddylunio’r wisgbriodas a wisgwyd ganDiana Tywysoges Cymruym 1981, daeth David ynadnabyddus ledled y byd.Mae wedi bod yn rhan osawl prosiect teledu, ynogystal â dylunio setiau agwisgoedd ar gyfer bale,ffilmiau, cyngherddau,fideos cerddoriaeth,ymgyrchoedd hysbysebu achynyrchiadau theatr atheledu.

Yn Gymro i’r carn,dywedodd fod ganddoddeigryn yn ei lygad panddechreuodd y delynoresganu’r delyn yn y seremoniraddio ddiweddar. "Cafoddeffaith fawr arnaf," meddai."Roedd yn brofiad rhyfeddgwrando ar fynghyraeddiadau’n cael euhadrodd yn uchel,oherwydd fel arfer rwy’ngwneud fy ngwaith hebfeddwl am y peth – rwy’n

fwyaf creadigol yn y byd.

"Mae llawer o bobl ynLlundain yn meddwl fymod i’n Sais go iawn, ondrydw i mor falch o fod ynGymro. Mae’n bethpersonol iawn i gael eichanrhydeddu gan eichgwlad eich hun, ynenwedig yng Nghaerdydd,gan mai dyma lledechreuodd fy ngyrfa."Dangosodd hefyd eisynnwyr digrifwch, ganddechrau ei araith dderbyntrwy ddweud: "Is-ganghellor, pryd ydw i’ncael y cerflun bach aur? Able mae’r carped coch?Mae hwn yn las!"

Mae ei gyngor i’r rheinisydd am ddilyn ei esiamplyn syml: gweithio’n galed achredu yn eich hun. A betham ei hoff ffrog? "Naill ai yrun rydw i newydd eigwneud, neu’r un rydw i arfin ei gwneud. Rwy’n caelcymaint o fwynhad yn fyngwaith, dydw i ddim ynmeddwl yn ôl i’r wisgbriodas honno, er bodpawb yn gofyn i miamdani."

Cymrodoriaethau Anrhydeddus i Gynfyfyrwyr

4

Paul Williams OBE – PrifSwyddog GweithredolGIG Cymru. TreulioddPaul Williams flwyddyn ynastudio yn RhodfaColchester cyn dechrau aryrfa 40 mlyneddlwyddiannus yn y GIG.Uchafbwynt ei yrfa yn y GIGoedd cael ei benodi’n BrifWeithredwrYmddiriedolaeth GIGPrifysgol Abertawe BroMorgannwg, un o’rYmddiriedolaethau mwyaf

yn y DU.Yna, ymunodd âLlywodraeth y Cynulliad felCyfarwyddwr Cyffredinol argyfer Iechyd aGwasanaethauCymdeithasol a PhrifWeithredwr y GIG ym misRhagfyr 2008. Cafodd eibenodi’n Swyddog UrddSant Ioan yn 2009. Mae ganPaul atgofion melys o’iddarlithwyr a’i rhoddodd arben ffordd yn nyddiaucynnar ei yrfa.

Cymrodoriaethau Anrhydeddus

Gillian Clarke – Awdures. Bardd Cened-laethol Cymru ers 2008,mae barddoniaeth Gillianyn cael ei hastudio gan fyfyrwyr TGAU a SafonUwch ledled Prydain.

.

David Richards CBE -Cadeirydd, Prodrive.Crëodd y cyn yrrwr raliproffesiynol ei dîm ralïo eihun a sefydlodd y busnestechnoleg modurol achwaraeon modurol annibynnol Prodrive ym1984.

Cymrodoriaethau Anrhydedduseraill a ddyfarnwyd eleni:

Gerald Davies CBE DL – Arwr rygbiCymru a’r Llewod. Wrth dderbyn ei gym-rodoriaeth, meddai Gerald, "Mae’n fraint mawr imi dderbyn y Gymrodoriaeth Anrhydeddus hongan sefydliad mor eithriadol." Ers ymddeol o’rgêm, mae Gerald wedi cael cryn lwyddiant felnewyddiadurwr gyda’r BBC a The Times, ac efyw Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Cymru.

Dyfernir Cymrodoriaethau Anrhydeddus i unigolion sydd wedi cyflawni arbenigrwydd yn ycelfyddydau, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, busnes neu fywyd cyhoeddus; neu sydd wedi darparugwasanaeth eithriadol i UWIC; neu sydd wedi bod â chysylltiad agos ag UWIC. Felly, rydym yn falchiawn o fod wedi anrhydeddu tri o’n cynfyfyrwyr ein hunain eleni, ochr yn ochr ag unigolion pwysigeraill o fyd diwydiant a’r celfyddydau.

Henry Engelhardt – Prif Swyddog Gweithredol, Admiral Group.Dyngarwr, dyn busnes a Llysgennad drosGaerdydd, Henry yw Prif Swyddog Gweithredolun o’r cwmnïau prin sydd wedi parhau i ffynnuer gwaethaf cyflwr yr economi. Ei neges i’ngraddedigion: "Os ydw i’n gallu llwyddo, gallwchchi lwyddo hefyd."

5

Buddugoliaeth Arall i Glwb Rygbi UWIC

O’r Maes Chwarae i’r Podiwm

Eleni, bydd yr YsgolChwaraeon yn dathlu60 mlynedd ers i’rdynion ifanc cyntafgael eu hyfforddi fel ygenhedlaeth nesaf oathrawon AddysgGorfforol ar ôl y rhyfel.O farics y Fyddin yn yMynydd Bychan i fodyn un o ganolfannauchwaraeon pennafCymru, mae YsgolChwaraeon Caerdyddwedi dod ymhellmewn 60 mlynedd.

Dechreuodd ColegHyfforddiant Caerdydd ym1950 gyda 30 o fyfyrwyr athri aelod o staff Addysg

Gorfforol, gan gynnwys yrenwog Syd Aaron. Erbynhyn, mae gan YsgolChwaraeon Caerdydd 80aelod o staff a thros 1,500 ofyfyrwyr: un o’r ysgolionmwyaf o’i bath yn y DU, osnad y mwyaf.

Erbyn hyn, mae UWIC yncael ei chydnabod fel un obrifysgolion gorau’r DU amastudiaethau chwaraeon, ynrhannol oherwydd ei rhestrhir o lwyddiannau ym mydchwaraeon.

Roedd arwyr dechrau’r1960au yn cynnwysathletwyr Olympaidd felLynn Davies a Peter Radford.Ni ellir chwaith anwybyddu

dylanwad yr Ysgol ym‘Mlynyddoedd Euraidd’rygbi Cymru, gyda sêr felGareth Edwards a JJ Williamswedi graddio o UWIC yn y1960au. Mae cyfanswm o 48o chwaraewyr rhyngwladol,wyth o gapteniaid gemauprawf ac 13 o Lewod wedigraddio o UWIC dros yblynyddoedd.

Ac nid sêr y byd rygbi’n unigy mae Ysgol UWIC wedi’umeithrin.

Dros y blynyddoedd, maeein graddedigion wedi caeldylanwad mawr fel athrawona hyfforddwyr heb eu hail, acwedi datblygu i fod ynathletwyr o safon mewn

chwaraeon fel jiwdo, criced,pêl-rwyd, gymnasteg, nofio,

codi pwysau ac athletau.Yn wir, mae mwy na 500 oenwau mewn dros 30 owahanol gampau wedi’urhestru yn NeuaddEnwogion UWIC, gangynnwys capten tîm rygbiCymru a enillodd y GampLawn yn 2008, Ryan Jones.

Mae ein straeon llwyddiantmwyaf diweddar yn cynnwystîm pêl-fasged merched yrUWIC Archers yn ennillPencampwriaeth PrifysgolionPrydain a’r English NationalLeague – y tîm cyntaf oGymru i wneud hynny ers yRhondda Rebels – a’n tîm

rygbi merched yn cael eucoroni’n Bencampwyr Prifysgolion Prydain am ypumed tro yn olynol.

Mae’r cyfleusterau yngNghyncoed yn cael eudefnyddio gan glybiaumyfyrwyr, perfformwyr elit, ycyhoedd ac, yn bwysicaf oll,mae 1,700 o blant yndefnyddio’r campws bobwythnos fel rhan o raglenAcademi Chwaraeon IauUWIC. Bydd cystadleuwyr oAwstralia, Seland Newydd aTrinidad a Tobago yn cynnalgwersylloedd paratoi ymahefyd ar gyfer y GemauOlympaidd yn Llundain yn2012.

Dros y 60 mlynedd ersei sefydlu, mae ClwbRygbi UWIC wedicynhyrchu mwy na 50 ochwaraewyr rygbirhyngwladol a dwsin amwy o Lewod ac, eleni,mae wedi parhau â’rtraddodiad hwn trwygael ei goroni’nbencampwr AdranGyntaf y DwyrainCynghrair GenedlaetholSWALEC.

Ym mis Tachwedd 2010,bydd Clwb Rygbi UWICyn dathlu 60 mlynedd ersei sefydlu gyda chinio yngNgwesty’r Celtic Manoryng Nghasnewydd. Rwy’nsiŵr nad oes angen enwi’rholl sêr sydd wedichwarae i’r clwb - GarethEdwards, JJ Williams, CliveRowlands, Tony Copsey,Gareth Cooper, RyanJones, Selwyn Williams –mae’r rhestr ynddiddiwedd bron!

I ychwanegu at yr achlysur,mae rhai o’n cynfyfyrwyreraill wedi bod morgaredig â chytuno igyflwyno’r noson, sef JohnInverdale, Roy Noble, RickO'Shea a Phil Steele.

Anfonir gwahoddiadau atein holl gyn-chwaraewyrtua’r un pryd â’rcylchgrawn hwn – os nadydych chi wedi cael eichgwahoddiad, cysylltwch âni.

60 Mlynedd o Glwb Rygbi UWIC

UWIC RFC Storm to Victory

6

Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Cyrhaeddodd TomParsons, a fu’n cymrydrhan yn y GemauOlympaidd yn 2008,rownd derfynol y naiduchel yn Barcelona, arôl dod yn ail yn Norwygyda naid o 2.25 metr.

Erbyn hyn, mae Dai a Tomyn edrych ymlaen atGemau’r Gymanwlad ynDehli ym mis Hydref, llecânt gwmni un o’nHysgolheigion Chwaraeon agefnogir gan gynfyfyrwyr,Brett Morse. Yn 21 oed,mae Brett eisoes wedi

cynrychioli Prydain mewnsawl digwyddiadrhyngwladol, gan gynnwysPencampwriaeth Ieuenctid yByd yn 2008,Pencampwriaethau dan-23Ewrop yn 2009 ac, yn fwydiweddar,Pencampwriaethau TîmEwrop. Ar hyn o bryd, maeBrett yn ail yn rhestrdetholion y Gymanwlad, acmae’n un o obeithion mawrCymru o ennill medal yn ygemau.

Rhywun arall sy’n gobeithioymuno ag ef yw BryonyRaine, un o’n Hysgolheigion

Chwaraeon eraill. Mae’rcynfyfyrwyr Lee Doran,Ryan Spencer Jones, ChrisGowell a Gareth Warburtonyn gobeithio cynrychioliCymru yn y gemau, ahwyrach y caiff eraill gyfle igynrychioli Lloegr os cânt eudewis.

Yn ogystal â’r athletwyr,bydd Caroline Harvey, syddwedi graddio mewn BScGwyddorau Chwaraeon acsydd ar fin dechrau dilyncwrs TAR, yn cynrychioliCymru yn y cystadlaethauBadminton.

Cafodd Jon Murray (TylinoChwaraeon 2009) ei ddewis fel un ostaff tîm Prydain ymMhencampwriaethau Ewrop ynBarcelona, lle bu’n cyflawni ei rôl feltherapydd meinwe meddal y garfandygnwch.

Nid athletwyr yn unig:

Athletwyr UWIC yn targedu medalau aur

Mae hon wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i Glwb Athletau UWIC, i’n myfyrwyr cyfredol a’ncynfyfyrwyr. Enillodd Dai Greene y fedal Aur yn y ras 400 metr dros y clwydi ymMhencampwriaethau Ewrop yn Barcelona, gan gadarnhau ei statws fel y gorau yn Ewrop acychwanegu at y fedal Aur a enillodd ym Mhencampwriaethau Tîm Ewrop yn Norwy yn gynharacheleni.

Hyfforddwr

Malcolm Arnold

Fuzz Ahmed

Nigel Bevan

Scott Simpson

John Davies

Nigel Bevan

Darrell Maynard

Pwnc a astudiwyd

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeona Hamdden, 2008

BA (Anrh) Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, 2005

HND Hyfforddi a DatblyguChwaraeon

BSc (Anrh) Chwaraeon aGwyddor Ymarfer, 2005MSc Chwaraeon a GwyddorYmarfer

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeona Hamdden, 2008

BA (Anrh) Rheoli Chwaraeona Hamdden, 2009

BSc (Anrh) Gwyddor Bwyd aMaeth, 2008

HND Rheoli Chwaraeon aHamdden, 2004

Canlyniadgorau

48.12

2.28m

62.99m

4.15m

73.75m

17.92m

1:46.88

1:46:61

Camp

400 metr dros yclwydi

Naid uchel

Disgen

Naid bolyn

Gwaywffon

Taflu pwysau

800 metr

800 metr

Enw

David Greene

Tom Parsons

Brett Morse

Bryony Raine

Lee Doran

Ryan Spencer-Jones

Chris Gowell

Gareth Warburton

7

Yn ddiweddarach eleni, bydd Sefydliad UWIC yn mynd ati i gynnal ei ymgyrch codi arian dros yffôn gyntaf. I roi syniad i chi o beth mae hyn yn ei olygu, a pham rydym yn cynnal yr ymgyrchhon, aeth Sefydliad UWIC ati i gyfweld ein Rheolwr Datblygu, Sheona Evans.

Sefydliad UWIC

C: Pam mae UWIC yncynnal ymgyrch codiarian dros y ffôn?A: Yn syml, mae’n fforddwych o gadw mewncysylltiad â’n cynfyfyrwyr.Rydym yn rhoi gwybodiddynt am newyddion adigwyddiadau yn ysefydliad, ac yn dysgu mwyam bob unigolyn. Ynhollbwysig, mae hefyd ynffordd wych o godi arian igefnogi ein CronfaFlynyddol newydd.

C: A fyddwch chi’ngwneud yr holl alwadauffôn eich hun?A: Na fyddaf, yn anffodusdoes dim digon o amser!Byddwn yn cyflogimyfyrwyr presennol i ffonio5,000 o gynfyfyrwyr drosbedair wythnos.

C: Pam myfyrwyr, a dimstaff?A: Os mai dim ond gweithioyma rydych chi wedi’iwneud, ni fyddwch chiwedi cael yr un profiad â’ncynfyfyrwyr. Mae caelmyfyrwyr i wneud ygalwadau’n rhoi cyfleunigryw i gynfyfyrwyrymgysylltu â ni ar sawl lefel,i rannu profiadau sy’ngoroesi amser – efallai nafydd ystafelloedd,ffreuturau a chyfleusterauchwaraeon wedi newidrhyw lawer!

C: Beth mae myfyrwyrpresennol yn ei wybodam fod yn gynfyfyrwyr?A: Mae myfyrwyr ynawyddus i gyfrannu ganmai nhw yw cynfyfyrwyr ydyfodol! Rydym yn ceisio

eu paru â chynfyfyrwyr aastudiodd yr un cwrs ag ymaent yn ei ddilyn nawr.Bydd y telethon yn gyfleiddynt siarad â gweithwyrproffesiynol sydd eisoes yngweithio yn eu maesastudio a chael cyngor aryrfaoedd, awgrymiadau agwersi bywyd cyffredinolgan gynfyfyrwyr.

C: Sut fydd cynfyfyrwyryn gwybod eu bod ynmynd i gael galwadffôn?A: Ni fyddwn yn ffonio’nddirybudd! Bydd pawbrydym yn bwriadu euffonio’n derbyn llythyrymlaen llaw yn rhoi cyfleiddynt beidio â chymrydrhan, er ein bod yngobeithio y bydd pawb ynfodlon siarad â ni – mae’n

gyfle i’n cynfyfyrwyrddweud eu dweud ac i niddysgu mwy amdanynt fely gallwn ni gynllunio eingwaith yn well. Felly hyd ynoed os yw rhywun yn ansicrynglŷn â chyfrannu, rydymyn gobeithio y bydd yncaniatáu i ni ei ffonio.

C: Pam mai dim ond5,000 o bobl rydychchi’n eu ffonio, er bodgennym rwydwaith odros 35,000 ogynfyfyrwyr?A: Hoffem allu ffonio pawb,ond yn anffodus nid oesgennym rifau ffôn llawero’n cynfyfyrwyr. Os hoffechgyfrannu, cysylltwch â nigyda’ch rhif ffôn!

C: Faint o arian rydychchi’n gobeithio ei godi?A: Pe gallai pawb gyfrannu

£10 y mis am dair blynedd,gallem godi £600,000 yn yflwyddyn gyntaf yn unig!Trwy gynnwys RhoddCymorth ac ArianCyfatebol, mae hynny’ngolygu mwy na £2 miliwndros dair blynedd. Mae hynyn dangos sut y gall symiaubach o arian dyfu’nrhywbeth ystyrlon.

C: Beth am bobl sy’nmethu fforddiocyfrannu?A: Rydym yn gwybod nafydd pawb yn awyddus igyfrannu, neu’n methufforddio gwneud hynny. Ifod yn onest, mae caelsiarad â’n cynfyfyrwyr achael eu barn yr un morwerthfawr i ni!

CronfaFlynyddolUWICMae’r GronfaFlynyddol yndosbarthu’r holl ariansy’n cael ei godi’nflynyddol i gefnogiysgoloriaethau abwrsariaethaunewydd, adnoddaunewydd i fyfyrwyr acymchwil sy’n torri tirnewydd. Gall pobrhodd, yn fawr neu’nfach, wneudgwahaniaeth ifyfyrwyr presennol achenedlaethau ofyfyrwyr yn y dyfodol.

Diolch!Diolch i’n holl gynfyfyrwyr, staff a ffrindiau syddwedi cefnogi UWIC eleni. Rydym wedi codi dros£300,000 ers rhifyn diwethaf Alumnium! MaeLlyfrgelloedd UWIC wedi elwa ar brynu cyfarparnewydd, ac mae Cynllun Ysgoloriaeth ar gyfermyfyrwyr sy’n astudio yn Ysgol Reoli Caerdyddwedi’i greu ar gyfer y rhai sydd fwyaf angen cy-morth ac mae Cronfa Ymchwil newydd wedi’ichreu i gefnogi’r ymchwil penigamp a gynhelirgan UWIC ym mhob maes. Bydd y gefnogaethhon yn cael effaith ar gymaint o fywydau, acrydym yn hynod ddiolchgar.

Os hoffech ddysgu mwy am sut i gefnogi UWIC,ffoniwch Sheona Evans, Rheolwr Datblygu, ar 0292020 1593 neu anfonwch e-bost [email protected] Gallwch gyfrannu ar-leintrwy JustGiving yn: www.justgiving.com/uwicfoun-dation/donate

Codi Arian dros y Ffôn

8

Graddedigion UWIC yngweddnewid ein campysau

YsgoloriaethauWillmott Dixon

Yn ogystal â gwellaamgylchedd adeiledigUWIC, mae Willmott Dixonhefyd yn cynnigysgoloriaethau a gwobrau.Ym mis Chwefror,dyfarnwyd YsgoloriaethMSc Rheoli £3,000 WillmottDixon i Patrick Rummens(BA (Anrh) AstudiaethauBusnes 2009), sydd bellachyn astudio ar y rhaglenMSc. Roedd Patrick ynddiolchgar iawn am yrysgoloriaeth: "Does dimrhaid i mi boeni am ffioeddcwrs mwyach, sy’n bwysaumawr oddi ar fyysgwyddau gan fod yffioedd hynny’n rhan fawr ogyllideb unrhyw fyfyriwr.Mae cael addysg yn ddrud,felly mae cael ysgoloriaethgwerth £3,000 ynarwyddocaol iawn. Ynogystal â hyn, mae ennill yrysgoloriaeth wedi rhoicyfle i mi ddysgu mwy amsector nad oedd gen ilawer o wybodaeth yn eigylch. Dros y misoeddnesaf, byddaf yn edrych ynofalus ar y diwydiantadeiladu a’r dewisiadaucyffrous sydd ganddo i’wcynnig."

Yn ogystal, dyfernir gwobrflynyddol am y perfformiadgorau ar y cwrs HNCmewn Adeiladu, Technolega Rheoli, a enillwyd elenigan Claire Simpson, 26oed, sy’n gweithio felprynwr safleoedd i MabeyBridge, Cas-gwent, addisgrifiwyd gan Gareth fel"enillydd teilwng dros ben.Roedd ei brwdfrydedd ynamlwg o’r cychwyn."

Un ffordd o fesurllwyddiant yw trwyedrych yn ôl ar eichamser yn UWIC agweld eich bod wedigadael eich ôl ar y lle.

Yn achos Gareth Turner,cynfyfyriwr a astudioddAdeiladu yn y 1970au,mae hyn yn arbennig oberthnasol. Gareth ywRheolwr Sector AU ABcwmni adeiladu WillmottDixon. Mae WillmottDixon ar restri 'Top 100Companies to work for' a'Green List' y Sunday

Times, ac mae ganddogytundeb partneriaethfframwaith gyda UWIC iddarparu gwerth £50miliwn o waith ailwampioar y campysau dros bedairblynedd.

Bydd ymwelwyr â’r prifgampws yn Llandaf yngallu gweld yr effaith maeWillmott Dixon yn ei chaelar UWIC. Y llynedd,cwblhawyd y GanolfanDiwydiant Bwyd newyddac, eleni, bydd yn mynd atii ehangu’r llyfrgell ar sawllefel, yn ogystal agadeiladu’r Ysgol Reolinewydd. Mae’r adeilad yncynnwys y nodweddionarbed ynni diweddaraf acrydym yn ceisio sicrhau’rsgoriau amgylcheddBREEAM gorau posibl.Hefyd, yn ddiweddarcwblhaodd Willmott Dixonwaith ar y ganolfancampws newydd yngNghyncoed a bydd ynehangu’r prif adeilad

mynediad yn Llandaf drosyr haf. Er y gall ymwelwyrâ’r campws weld yradeiladau newydd ynhawdd, yr hyn nad ywllawer o bobl ynsylweddoli yw bod llawero raddedigion UWIC yngweithio yn WillmottDixon i wireddu’rnewidiadau hyn. "Ynogystal â mi, mae swyddfaWillmott Dixon yngNghaerdydd yn cyfloginaw o raddedigion UWICa raddiodd mewnmeysydd fel technoleggwybodaeth, astudiaethaubusnes a chyllid,adnoddau dynol acadeiladu," meddai Gareth.“Mae gennym dîm gwychyma ac rydym wediymrwymo i weithio gydaUWIC i hyrwyddorhagolygon gyrfa’rgraddedigion gorau."Helen Salisbury MCIPD(BA Anrh mewnAstudiaethau Busnes,2001) yw’r Cydgysylltydd

Adnoddau DynolRhanbarthol yn rhanbarthCymru a’r Gorllewin: "Maegen i atgofion melys am fyamser yn RhodfaColchester, ond rwy’ngenfigennus iawn o’rmyfyrwyr AstudiaethauBusnes a fydd yn dechrauyn 2010 yn yr adeiladnewydd gwych."

Meddai Ian James,myfyriwr arall a astudioddadeiladu yn y 1970au ynUWIC ac sydd bellach ynGyfarwyddwr Cyn-adeiladu yn WillmottDixon: "Roedd prosiectauadeiladu ar waith yn ystodfy amser i yn UWIC ond,erbyn hyn, mae llawer ofyfyrwyr, nid y rhai sy’nastudio adeiladu’n unig, yncael eu hannog i gyfrannu.Mae yna lawer oweithgareddaucwricwlwm amrywiol sy’nberthnasol i’r amgylcheddadeiledig."

Graddedigion UWIC yn gweddnewid ein campysau

9

Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd

Microbioleg Gwydr – Ffotograff gan Luke Jerram

Firysau enfawr, pianoscyhoeddus, telynauAwelon. Cymysgeddannisgwyl, ond unllwyddiannus i LukeJerram (CelfyddydGain 1997), CymrawdYmchwil ymMhrifysgolSouthampton.

Yr haf hwn, treulioddLuke, sy’n byw ym Mryste,amser yn Efrog Newyddyn goruchwylio ei osodiaddiweddaraf, sef 'Play Me,I'm Yours'. Gosodwyd 60 obianos mewn parciau,strydoedd a chanolfannausiopa ledled pumbwrdeistref y ddinas.

"Rwy’n edrych ymlaen ynfawr i weld beth fydd yndigwydd. Mae’r pianos yngyfrwng ar gyfercreadigrwydd pawb, fellybydd yn ddiddorol gweldfaint o ddawn sydd o

gwmpas." Daeth y syniadam 'Play Me, I'm Yours' odeithiau Luke i’w olchdylleol. "Roeddwn i’n gweldyr un bobl yno bobpenwythnos, ond etodoedd neb yn siarad â’igilydd. Mae gosod pianomewn lleoliad yn helpu iannog sgwrs."

Ers 2008, mae pianos Lukewedi dod â cherddoriaeth istrydoedd Sao Paulo,Sydney, Llundain, Bryste,Bury St Edmunds aBarcelona. Cafodd sylw yny wasg ryngwladol yncynnwys y New YorkTimes, Vanity Fair, LATimes Magazine Style Lista’r cylchgrawn Nature.

Aeth Luke hefyd agarddangosfa o’iFicrobioleg Gwydr i orieladnabyddus yn EfrogNewydd. Mae eigerfluniau hardd o firysau

fel ffliw moch, SARS a HIVyn dangos y tensiwndiddorol rhwng rhywbethsy’n hardd dros ben ondhefyd yn beryglus ac ynheintio pobl.

Yn ôl yn y DU, mae Lukewedi dyfeisio telyn Awelonfawr y mae’n gobeithio ybydd yn cael ei gosod ynbarod ar gyfer y GemauOlympaidd yn Weymouth."Llwyddodd Ysgol GelfCaerdydd i’m rhoi ar benffordd a lansio fy ngyrfa felartist rhyngwladol.Rhoddodd y tiwtoriaidsafonau i mi i’m helpu iwerthfawrogi celfyddyddda a’r hyn y gall geisiobod. Mae gen i atgofionmelys o UWIC, ac wrth imi eistedd yma yn EfrogNewydd, rwy’n hiraethuam sgwrs dda a chwrwcynnes yn y bar yngNgerddi Howard."

Luke Jerram yn chwarae’r piano yn Times Square, Ffotograff gan Amarynth Sichel

Dylunio: Luke Jerram

Nid oes rhaid i chiedrych yn rhy fanwl ogwmpas UWIC i ddod ohyd i’n graddedigion ynrhagori yn y sefydliad.Edrychwch ar yGanolfan GenedlaetholDylunio Cynnyrch acYmchwil Datblygu, PDR.Ers i UWIC ei sefydluym 1994, mae’r tîm wedidatblygu enw da ynrhyngwladol amddatblygu gwybodaethnewydd ym maesdylunio cynnyrch adefnyddio’r wybodaethhonno yn y bydacademaidd ac mewndiwydiant.

Mae tîm ymchwil PDR,sy’n cynnwys staff oBrydain yn bennaf, yncyhoeddi mewnamrywiaeth eang ogyfnodolion achynadleddaurhyngwladol, ac mae’nennill gwobrau dyluniobyth a hefyd. O’rgraddedigion yn y tîm,mae UWIC yn falch o fodwedi gwneud cyfraniadallweddol at yrfaoeddDr Andrew Walters, DrDominic Eggbeer, IanCulverhouse, SteffanDaniel a Dale Harper.

Ganolfan Genedlaethol Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil Datblygu, PDR.

10

Enillodd Dale Harper(Dylunio Cynnyrch BSc,MSc) wobr dylunio IF ymmis Mawrth eleni am eigynllun gefelchwyldroadol 'Safeceps',sy’n mesur i ba raddaumae pen y babi’n cael eiwasgu, gan leihau’r risg odrawma ac anaf difrifol i’rfam a’r plentyn. Ar hyn obryd, mae’r cynnyrch yngnghyfnodau terfynol eiddatblygiad masnachol agweithgynhyrchu.

Ar ôl cwblhau ei PhD yn2008, mae DominicEggbeer (Dylunio aGweithgynhyrchuCynnyrch 2000) yn parhauâ’i yrfa ymchwil mewnmeysydd cysylltiedig, gangynnwys defnyddio

dulliau Cynllunio trwyGymorth Cyfrifiadur,Peirianneg wrthdaro athechnolegau prototeipiocyflym mewn prostheteg ygenau a’r wyneb,llawdriniaeth a thechnolegddeintyddol. Mae Dominichefyd yn rheoligwasanaethau modelumeddygol masnacholPDR, sy’n darparucydweithrediad agosgyda’r GIG. Mae wrthi’ngwneud cais am gyllidychwanegol i brynupeiriannau CAD o’r raddflaenaf er mwyn datblyguei ymchwil. "Ar hyn obryd, mae’n gallu cymrydhyd at ddau ddiwrnod iwneud prosthesis atddefnydd llawfeddygol,sy’n dderbyniol ar gyfer

llawdriniaethau wedi’utrefnu. Dychmygwch yreffaith gadarnhaol arlawdriniaeth frys pe gellidlleihau’r amser aros iychydig oriau. Byddai gany meddyg ddealltwriaethwell o lawer o’rllawdriniaeth dan sylw."

PDR: Cynllun Oes

11

Ysgol Addysg Caerdydd

Os ewch chi ilawr iQueenswood argampwsCyncoed heddiw,efallai y gwelwchchi olygfaannisgwyl; plantanturiaethus!Mae’r plant hynyn rhan o raglenYsgol Goedwignewydd agychwynnwydgan bedwaraelod o staff sy’nawyddus iddefnyddio’rawyr agored iaddysgu poblifanc.

Dull addysgu addatblygwyd ynSgandinafia yw YsgolGoedwig, ac mae’npwysleisio dull dysgu trwyddarganfod sy’ncanolbwyntio ar blant acyn cael ei arwain gan blantmewn safle awyr agored;athroniaeth y mae’r tîmYsgol Goedwig - MarkConnolly, Martin Cook,Cheryl Ellis a ChantelleHaughton wedi ymrwymoiddi.

Mae’r pedwar aelod o’rtîm newydd gwblhaucymhwysterarweinyddiaeth YsgolGoedwig lefel 3 sy’n eugalluogi i arwain grwpiau oblant a hyfforddi eraillmewn sgiliauarweinyddiaeth Ysgol

Goedwig yn y dyfodol.

Esboniodd ChantelleHaughton, sydd wediderbyn gwobr staff yr Is-ganghellor am eihymrwymiad i’r prosiecthwn, sut y datblygodd ysyniad: "Dechreuoddmewn gwirionedd arbrynhawn dydd Gwenergwlyb pan sylweddoloddMark, Cheryl a minnau einbod yn rhannu diddordebmewn dysgu yn yr awyragored. Aethom ati igyflwyno’r syniad hwn ibwyllgor menter einhysgol, a sylweddoli bodMartin wedi awgrymurhywbeth tebygflynyddoedd yn gynt a’ifod eisoes yn gwneudpethau tebyg gyda’rmudiad Earth Education a’i

'Teddy Bear's picnic' llemae plant ysgolioncynradd lleol yn dod i weldy goedwig."

Heblaw am sŵn plantchwe oed yn clebran achwarae, y dystiolaethamlycaf o’r 'Teddy Bear'spicnic' ar gampwsCyncoed yw’r babell groenfawr sydd wedi’i chodi ynymyl neuaddau preswyl ymyfyrwyr ynQueenswood. Foddbynnag, nid yw’r strwythurhwn yn addas i ddatblyguYsgol Goedwig ac mae’rtîm yn bwriadu adeiladucanolfan eco-gyfeillgar llegall gynnal gwersi’r YsgolGoedwig ac astudiomanteision y math hwn oddysgu yn yr awyr agoredi blant.

Amlinellodd Cheryl Ellissut roedd hi’n rhagweld ybyddai’r prosiect hwn yndatblygu: "Yn y dyfodol,rydym yn gobeithio y byddUWIC yn cael ei ystyriedyn ganolfan ar gyferastudio dysgu yn yr awyragored. Mae Cymru’narwain y ffordd o ranhyrwyddo cwricwlwmseiliedig ar chwarae sy’ncanolbwyntio ar blant acrydym yn credu’n gryf ydylai dysgu yn yr awyragored fod yn rhanallweddol o hyn."

Aelodau staff ynmwynhau yn ygoedwig!

Aelodau staff yn mwynhau yn y goedwig!

Os ewch chi i lawr i’r Goedwig heddiw…

Martin Cook yn arwain taith i Ysgol Goedwig

12

Y Pennaeth Ieuengaf

Ysgol Addysg Caerdydd

Roeddwn i’n hynod falch ogael fy mhenodi’nBennaeth y Coleg ac, amddiwrnod, bûm ynedmygu fy enw uwchbeny drws. Yna, tarodd fi feltrên: y ffaith mai fi oedd ynrheoli, ein bod yn rhan o’rHer Genedlaethol gydathargedau i’w cyflawni a’rposibilrwydd go iawn offederaleiddio neu’r colegyn cau pe na byddem yngwella’n sylweddol. Ynsydyn, nid unrhyw swyddarall oedd hon (er, i fod yndeg, roeddwn i’n teimlo’run fath fel Athro NewyddGymhwyso!), roedd yngolygu gyrfa llawn her afyddai’n newid fy mywydi. Mae’r cyfan wedi bod ynantur fawr.

Nid oes un diwrnod ynmynd heibio heb o leiaf unher sylweddol yn cynnwysstaff neu fyfyrwyr a’urhieni.

Pan rwy’n cael seibiant ameiliad, rwy’n gweld ein bodyn gweddnewid y coleghwn. Bydd canlyniadaueleni’n dyblu’r rhai aetifeddais yn 2007, ac maeagweddau a dyheadaumyfyrwyr yn gwella’nsylweddol heb os. Foddbynnag, rydym ynbrwydro yn erbynagweddau achanfyddiadau negyddolmewn dinas dwy haen. Arun lefel, mae Caergrawntyn cynnig yr addysg orauyn y byd. Fodd bynnag,mae’r rhan fwyaf o’mmyfyrwyr a’u teuluoedd ynteimlo bod yr addysg hon

y tu hwnt i’w cyrraedd. Ermwyn pontio’r bwlch hwn,rwyf wrthi’n symud ycoleg i Statws Sylfaen acyn gweithio gydaphartneriaid yn yrYmddiriedolaeth. Gyda’ngilydd, rwy’n credu ygallwn ni ddatblygu’rcoleg hwn a chyflawni einnod o fod yn ‘rhagorol’ ymmhob agwedd.

Mae gen i atgofion melysiawn o fy amser yn UWIC:cafodd Dr Arthur Geen,Jane Davies, MitchWinfield, Gill Rees aCharlie Harris ddylanwadmawr arnaf i a fy ngyrfa.Yn ogystal, pwy allaianghofio galwad ycynorthwyydd arlwyo yngNghaffi K2 - 'one torp withbacon and cheese goingcold my love!'

Daeth Ben Slade (BA (Addysg) Drama Uwchradd 1998) y Prifathro ieuengafyn y DU pan gafodd ei benodi’n Bennaeth Manor Community College yngNghaergrawnt yn 2007 yn 30 oed. Dyma sut beth yw bywyd fel Pennaeth yColeg:

Asiantaeth recriwtioaddysg dra wahanol Mae Arbenigwyr Addysg UWIC ynasiantaeth sy’n cael ei gweithredu gan YsgolAddysg Caerdydd yn Athrofa PrifysgolCymru, Caerdydd.

Rydym yn awyddus i benodi athrawoncymwysedig i swyddi cyflenwi, rhan-amser,tymor penodol a thymor hir mewn ysgolion cyn-radd ac uwchradd ledled y De. Os oes gennychchi ddiddordeb mewn cofrestru i weithio, neu oshoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

ffôn: 029 2041 6951 / 029 2020 1524 e-bost: [email protected] gwe: www.uwic.ac.uk/educationspecialists

Ben Slade yn cyfarfod â’i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

Felly, Adrian, a allechchi grynhoi eichblwyddyn gyntaf mewnun gair?

AP: Coffi?! Na, byddai’namhosibl crynhoi’r flwyddynmewn un gair. Fel arfer,rwy’n ei ddisgrifio felcromlin ddysgu siâpclogwyn – mae’r risgiau’nfwy nawr, ac mae gen ibellter hir i ddisgyn!

Beth oedd uchafbwynt yflwyddyn?

AP: Alla i ddim meddwl amun yn benodol. Rwyf wedidysgu bod gen i staffrhagorol, ac mae gennym niraglenni rhagorol. Erenghraifft, mewn adolygiadcyfnodol diweddar, cafwyd15 o gymeradwyaethau argyfer y rhaglen Meistrmewn Seicoleg, a achredirgan Gymdeithas SeicolegolPrydain. Rydym wedi galludefnyddio’r AdeiladDiwydiant Bwyd newydd,buddsoddiad sydd wedidechrau talu ar ei ganfed.Mae’r prosiect KITE, sy’nwerth £5 miliwn ac yn cael

ei gynnal gan David Lloyd,wedi cryfhau eincysylltiadau â’r sector bwydyng Nghymru. Dechreuoddgyda dim ond un aelodcyswllt yn Franks Ice Cream.Mae’n dda gweld hwnnw’ndechrau ffynnu gan ei fodyn helpu’r economi yngNghymru, yn ogystal â’nhelpu ni.

Beth yw’r newid mwyafsydd wedi digwydd?

AP: Yr hyn sydd wedi newidfwyaf yw datblygiaddiwylliant ymchwil yma ynUWIC, a’r gydnabyddiaethbod ymchwil yn ein diffinioni fel sefydliad.

Mae’n llywio ein haddysgu,yn darparu gwybodaeth argyfer ein diwydiant ac yn einhelpu i arwain y ffordd ar yllwyfan rhyngwladol hefyd.

Beth sydd wedi newidlleiaf?

AP:Mae’n dal i fod ynsefydliad bach cyfeillgar, acmae’n bosibl cael gafael arlawer o’r staff uwch. Mae’nbosibl i bobl ymgysylltu âmaterion cyfredol a llywiodyfodol y sefydliad.

Allwch chi ddisgrifiodiwrnod nodweddiadolyn Ysgol GwyddorauIechyd Caerdydd?

AP: Er bod y rhan fwyaf o fyniwrnodau’n cael eu llenwigyda chyfarfodydd, mae’namrywiol iawn, gyda ffocwsmewnol ac allanol. Rwy’nmwynhau meithrincysylltiadau allanol gydaphartneriaid allweddol.Rwyf hefyd yn parhau iaddysgu, sy’n cadw fynhraed ar y ddaear.

A oes gennych chi unneges olaf i’ncynfyfyrwyr?

AP: Rwy’n gobeithio bodYsgol Gwyddorau IechydCaerdydd yn cael eichydnabod fel ysgol sy’ndarparu addysg broffesiynoli bobl sy’n gweithio yngNghymru a thu hwnt, a bodpobl yn gweld ein bod yngwneud gwahaniaeth. Maeein cynfyfyrwyr yn gwneudpob math o bethaudefnyddiol mewn meysyddfel adeiladu a chynnal achadw adeiladau, iechyd ycyhoedd, y diwydiant bwyd,iechyd yr amgylchedd – sefmeysydd sy’n cyfrannu atles economaidd,diwylliannol ac economaiddCymru, y DU a’r gymunedehangach. Rwy’n hynodfalch o fod yn rhan o hynnya bod yn gyfrifol am arwainy datblygiad hwnnw ar gyfery dyfodol.

13

One Year on…

Cyfweliad gydag Adrian Peters: Deon yr Ysgol

Rwyf nawr yn y flwyddynolaf o gwrs PhD, ynastudio effaith lipidaudeietegol ar gellau ynnatblygiad clefyd y siwgrmath 2 o dan arweiniadDr.Keith Morris.

Penderfynais ddilyn cwrsPHD ar ôl cwblhau Meistrrhan-amser tra’n gweithioyn Ysbyty Heath. Mae’rcwrs PhD yma’n diddoroliawn gan ei fod wedi’iariannu gan HEFCW gydagofynion ychwanegol ihybu’r ddarpariaethcyfrwng Cymraeg o fewnyr Ysgol GwyddorauIechyd. Yn ogystal agastudio, rwy’n darlithio 6awr yr wythnos. Rwy’ndarlithio blwyddyn gyntafBiocemeg, ac yn diwtor i10 o fyfyrwyr cyfrwngCymraeg ar y cwrs.Blwyddyn nesaf byddswydd llawn amser yn caelei greu i ddatblygu’r

ddarpariaeth yma, fellyrwy’n gobeithio ceisio amy swydd a dal ymlaen iweithio yma.

Mae cael darparu’rcymorth yma yn bethcyffrous i’w wneud felsiaradwr Cymraeg. Fegwblheais gyrsiau LefelUwch yn Saesneg gan fymod yn ymwybodol ybasai’n rhaid i mi ddysguSaesneg yn y Brifysgol.Rydym nawr yn gobeithioy bydd mwy o siaradwyrCymraeg yn gallu astudioLefel Uwch ac ymhellachyn eu mamiaith.

Fe fyddwn i'n bendant ynargymell UWIC. Rydychyn cael llawer ogefnogaeth, ac rwy wrthfy modd yma - fel ygallwch ddweud, gan modi wedi bod yma am 10mlynedd, fwy neu lai!

Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Nodyn gan Lowri Mainwaring,myfyriwr PhD (BSc GwyddorBiofeddygol 2004, MSc 2008)

14

Dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Canolfan Astudiaethau Podiatreg Cymru

Yn dilyn llawer oanogaeth gan GangenCaerdydd a’r Cylch oGymdeithas yCiropyddion i sefydluysgol trin traed yngNghaerdydd,derbyniwyd yr her ganBennaeth brwdfrydig amentrus ColegTechnegol Llandaf, MrJoseph (Joe) Cotterell.

Pennaeth cyntaf yr Ysgoloedd Mr Derek Ames.Daeth i Gaerdydd o YsbytyTraed ac Ysgol Trin TraedLlundain. Bu yma nes 1968pan ddychwelodd iLundain fel Pennaeth yrYsgol Trin Traed.

Ei olynydd fel Pennaeth yrYsgol yng Nghaerdyddoedd Mr Cliff Shipman1969 - 1973.

Mr Don Jessett, aymunodd â Mr Ames ym1960, oedd Pennaeth yrYsgol o 1973 -1995. Ym1996, penodwyd Miss AnnBryan (llun) yn Bennaethyr Ysgol.

Roedd Miss Bryan yn uno’r grŵp cyntaf o fyfyrwyri gwblhau eu hyfforddiantyng Nghaerdydd.Ymddeolodd yn 2002, achafodd ei holynu gan yPennaeth presennol, PaulFrowen.

Yn ei ddyddiau cynnar, ycymhwyster a ddyfarnwydar ôl tair blynedd o astudiooedd Aelodaeth oGymdeithas y Ciropyddion(Aelodaeth gyswllt osoedd yr ymgeisydd o dan21 oed). Wrth i’r cwrsddatblygu, cyflwynwydDiploma mewnMeddygaeth Bodiatrig addyfarnwyd ganGymdeithas y Ciropyddionyn lle’r dyfarniadproffesiynol cynharach.Ym 1992, sefydlwyd ycwrs israddedig, ganarwain at BSc mewnPodiatreg a gynigir ganBrifysgol Cymru.

Eleni, mae CanolfanAstudiaethau PodiatregCymru yn dathlu 50mlynedd ers ei sefydlu.Ym mis Mehefin, daethdros 100 o bodiatregwyr iSeminar Goffa JudyHawkins yn YsbytyAthrofaol Cymru. Roeddsawl un o’n cynfyfyrwyr ynannerch yn y seminar, gangynnwys yr Athro AnthonyRedmond (1988) o’rYmgyrch Ymchwil Arthritisyn Sefydliad MeddygaethMoleciwlaidd PrifysgolLeeds, Uwch Ddarlithydda edrychodd ar ddyfodolpodiatreg gyda’i araith ar"Fifty More After Fifty".

Mae gan Dr Sue Barnett(1985), Uwch Ddarithydda Chyfarwyddwr LabordyDadansoddi DynolPrifysgol Gorllewin Lloegr,ddiddordeb arbennigmewn diabetes a bu’nsiarad am y pwnc "Not allFeet are Equal".Cyflwynwyd areithiauychwanegol gan RichardGreen (1989), ScottCawley (1980) a Dr JaneLewis (1998).

Students in The Centre for Podiatric Studies

50 mlynedd DATHLU

O ADDYSG BODIATREG

Sefydlwyd Ysgol Trin Traed Caerdydd yng Ngholeg Technegol Llandaf ym 1959 ofewn yr Adran Gwyddoniaeth a Mathemateg. Dyma un o’r tair ysgol trin traed asefydlwyd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC

Gyda chymaint o’n cynfyfyrwyr yn byw ymhell oGaerdydd, rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhaubod y profiad mor ystyrlon i gynfyfyrwyr o dramor agydyw i’r rheini sy’n byw’n agosach i gartref. Yn amlwg,nid yw’r defnydd o lyfrgelloedd a chyfleusterau campfaUWIC mor berthnasol i’r sawl sy’n byw miloedd ofilltiroedd i ffwrdd! Mae ein rhwydwaith newydd olysgenhadon cynfyfyrwyr yn helpu i wneud iawn am hyn.Mae llysgenhadon yn ein galluogi i gael presenoldeb ymmhob ardal lle mae nifer sylweddol o gynfyfyrwyr. Hwyrachy bydd pump, neu 150, o raddedigion mewn dinas neu wladbenodol – ond os felly, rydym yn awyddus i’w helpu igysylltu! Mae rhwydweithio cynfyfyrwyr yn gyfle gwych yngymdeithasol ac i gysylltiadau busnes lleol. Rydym hefyd ar-lein, yn defnyddio’r wefan LinkedIn i ddarparu cyfrwngrhwydweithio proffesiynol i raddedigion ym mhob cwr o’r byd.

Os hoffech chi i ni eich helpu i gysylltu’n fwy effeithiol, neu os oesgennych chi ddiddordeb mewn bod yn Swyddog CynfyfyrwyrRhyngwladol yn eich ardal, cysylltwch â ni!

Seremoni raddio yn Hong Kong

"Mae’r weledigaeth ynHong Kong yn un drosdymor hir. Mae wedi bodyn fraint i UWIC ac YsgolAddysg Broffesiynol aPharhaus Prifysgol HongKong i gefnogi’r myfyrwyra’u noddwyr i ateb heriau’r21ain Ganrif. Mae’rrhaglen hon ynbartneriaeth sydd o fudd ibawb."

Mae’r rhaglen, syddbellach yn ei hail flwyddyno gydweithio gydaPhrifysgol Hong Kong,sy’n un o’r 25 obrifysgolion gorau yn ybyd, wedi cael eichymeradwyo’n fawr ganSefydliad Siartredig Iechydyr Amgylchedd ac mae eiphoblogrwydd yncynyddu yn y rhanbarthbywiog hwn.

15

Bu grŵp cyntaf UWIC o fyfyrwyr MSc RheoliDiogelwch Bwyd ym Mhrifysgol Hong Kongyn dathlu eu llwyddiant eleni. Mynychodd yrAthro Antony Chapman y seremoni raddio:

Cynfyfyrwyr Rhyngwladol UWIC

www.linkedin.com

16

Hefyd yn bresennol oeddRob Fenn, UwchGomisiynydd Prydain iBrunei, a ddywedodd:"Mae’n wych i fod yma’ndathlu llwyddiant cymaint ofyfyrwyr o Brunei. MaeUWIC yn sefydliad heb eiail, ac mae’r ffordd mae’ngofalu am les y myfyrwyrhyn yn wych. Rwy’n falchiawn o fod yma ac yn falchiawn o’r hyn mae UWIC yn

ei wneud dros Brydain ynei pherthynas â Brunei."

Bu John Phillips yn DdeonMyfyrwyr Rhyngwladol ynUWIC am 14 mlynedd, acmae wedi gwneudcyfraniad allweddol dros yblynyddoedd wrth feithrinperthynas hynodlwyddiannus UWIC gydaBrunei. "Cynhelir ydigwyddiad hwn bob dwy

flynedd yn Brunei, acmae’n galluogi pobmyfyriwr llwyddiannus iwahodd llawer o deulu affrindiau. Ar ôl gweithiomor galed, mae eingraddedigion o Bruneiwedi haeddu’r cyfle hwn ifwynhau eu hunain yn yseremoni hon yn Brunei, ynychwanegol i’r seremonïaua gynhaliwyd yngNghaerdydd.

"Mae UWIC yngwerthfawrogi eipherthynas â Brunei acmae’n falch iawn bodllwyddiant myfyrwyr eleniwedi’i anrhydeddu ganbresenoldeb Pehin AbdulRahman Taib, y cynWeinidog Addysg, a’i fodwedi’i wneud yn GymrawdAnrhydeddus – yranrhydedd fwyaf y gallUWIC ei chyflwyno."

Ymddeolodd John o UWICyr haf hwn ac, er ein bodyn drist iawn i’w weld yngadael, rydym yn edrychymlaen at barhau i feithrinein perthynas â’ncynfyfyrwyr, myfyrwyr a’nffrindiau yn Brunei.

Seremoni Raddio yn Brunei

Teithiodd yr Is-Ganghellor i Brunei ym mis Gorffennaf i lywyddu dros seremoni wobrwyo ar gyfer bron i 100 oraddedigion o Brunei a fu’n astudio yn UWIC. Cafodd gwmni llawer o aelodau staff UWIC, gan gynnwys John Phillips,cyn Ddeon y Swyddfa Ryngwladol a Chadeirydd Cymdeithas Brunei Prifysgolion Prydain, yr Athro Adrian Peters,Deon Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Dr Mohammed Loutfi, Deon Datblygiad Rhyngwladol ac Andrew Walker,Cyfarwyddwr Datblygu Sefydliad UWIC. Gwnaed Pehin Abdul Rahman Taib, cyn Weinidog Addysg Brunei, ynGymrawd Anrhydeddus UWIC yn y seremoni.

Seremoni raddio yn Brunei

Agorodd cartrefnewydd ColegTechnoleg Bwyd aMasnach Caerdydd eiddrysau i fyfyrwyr ymmis Medi 1966, gangyflwyno cyfleusterauarbenigol ar gyfer yrhaglennigalwedigaethol cryf addarparwyd yno.Roedd myfyrwyrDiploma Genedlaethola City and Guilds yngallu cymdeithasu âmyfyrwyr gradd aDiploma GenedlaetholUwch (HND). Dietetegoedd y rhaglen raddgyntaf, gyda chyrsiauHND mewn arlwyo,gwyddor a thechnolegbwyd ac astudiaethaubusnes, a ddatblygoddi’r portffolio eang oraglenni a gynigirheddiw.

Roedd fy amserlen gyntafyn cynnwys trawstoriad owyddorau cymhwysol -pobi, arlwyo, trin gwallt anyrsio mewn meithrinfa.Efallai y bydd gan y rhieniohonoch chi sy’ngyfarwydd â’r llyfr ‘Wilt’gan Tom Sharpe syniad osut beth oedd bywyd yma,er bod rhai o fy henffrindiau’n gwneud igymeriadau Sharpe edrychyn gwbl normal!

Roedd Bwyty Lesley Smithar y llawr daear wedi’i enwiar ôl pennaeth cyntaf ycoleg, a oedd yn arfer bodyn bobydd. Yna,newidiodd ei enw i Fwytya Siop Goffi Smith's, acyna’r Stiwdio Argraffu.Roedd llawr cyntaf Bloc Byn cael ei adnabod fel ycoridor blawd. Roedd eindarlithfeydd yn boptai a

oedd yn cynnwys ycyfarpar diweddaraf, er nalwyddwyd i symud unffwrn a oedd yn llawnasbestos sy’n dal i sefyll ytu ôl i wal yn B113. Roeddwal B114 yn fanarddangos ar gyfercacennau a addurnwydgan fyfyrwyr a staff, ynenwedig Joyce Williams.Daeth Joyce yn enwog amei sgiliau, gan wneudcacennau ar gyfer poblbwysig leol, a rhai heb fodmor leol, gan gynnwys yFrenhines a HenryKissinger! Mae llawer ogyfarpar a sgiliau’r poptywedi’u trosglwyddo i’rGanolfan Diwydiant Bwydyn Llandaf, fel rhan o YsgolGwyddorau IechydCaerdydd.

Roedd cymaint o bethaueisoes wedi diflannu dros

y blynyddoedd – y 'fflat' lleaddysgwyd sgiliau cadwtŷ, cegin dietegwyr, sawnaFfinnaidd, ystafell wnïo,dwy siop trin gwallt (lledatblygodd Ken Picton eisgiliau yn y 1970au) asalon therapi harddwch.Mae’r rhesi o deipiadurona ddefnyddiwyd ganfyfyrwyr NCTJ(Newyddiaduriaeth) felMichael Buerk a SueLawley hefyd wedi henddiflannu.

Roedd gan GolegTechnoleg Bwyd aMasnach Caerdyddberthynas dda iawn âDinas Caerdydd. Roeddyn cael ei ystyried felcanolfan ragoriaeth, acroedd yn ymfalchïo ynllwyddiant ei staff a’ifyfyrwyr. Roedd hefyd ynlle hapus iawn i weithio ac

roedd yna ymdeimlad cryfo berthyn i goleg. Mae’rrhai ohonom a fu’ngweithio yno’n drist iawn offarwelio â’r holl atgofion,ond rydym yn edrychymlaen at yr ‘oes newydd’yn ein hadeilad newydd ynLlandaf.

17

Ffarwel i Rodfa Colchester

’Doedden nhw’n ddyddie da! Wrth i gampws Rhodfa Colchester UWICgau ei ddrysau am y tro olaf, mae’r AthroEleri Jones yn edrych yn ôl ar hanes ylle……

Os hoffech weld ycyfleusterau newyddyn Llandaf – naill ai’rGanolfan DiwydiantBwyd neu Adeilad yrYsgol Reoli – cy-sylltwch â ni! Anfonwch e-bost [email protected] ffoniwchSwyddfa’r Cynfyfyrwyr ar 029 2020 1590.

Beth fydd eichetifeddiaethchi?

UNIVERSITY OF WALES INSTITUTE, CARDIFF ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, CAERDYDD

Gall addysg newid eichbywyd. Gyda’ch helpchi, gallwn newidbywydau gyda’n gilydd.Gadewch rodd yn eichewyllys i gefnogiysgoloriaethau yn UWIC.Os hoffech chi drafod unrhyw agweddar adael rhodd yn eich ewyllys iUWIC, cysylltwch â:

Sheona Evans, Rheolwr Datblygu029 2020 [email protected]/uwicfoundation

FOUNDATION

1

Postgraduate Study at UWIC

Os ydych yn chwilio am gyfle iastudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, mae UWIC yn ddewisgwych ar gyfer astudiaethau ôl-radd.Yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ôl-radd ac ymchwil mewnpum ysgol academaidd:

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg Caerdydd Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd Ysgol Chwaraeon Caerdydd

Ysgoloriaethau o £3,000 ar gaelwww.uwic.ac.uk/scholarships029 2041 6044

Am ragor o wybodaeth a rhestr lawn o gyrsiau, ewch i:uwic.ac.uk/postgraduate029 2041 6044

Y cam nesaf?